Back
Caerdydd yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017

Caerdydd yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017

 

Mae Cyngor Caerdydd yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017 gyda chyfres o ddigwyddiadau a sesiynau galw heibio i hyrwyddo'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn y ddinas a helpu pobl i ddeall sut beth yw byw o ddydd i ddydd gyda dementia.

 

Mae'r Cyngor ynghyd â sefydliadau, busnesau a grwpiau sy'n cynnwys Cymdeithas Alzheimer, John Lewis, Ikea, Chapter, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cyfeillion Dementia, Canolfan Ymchwil CARIAD, grwpiau Ffrindiau a Chymdogion a Chôr Tŷ Willcox, yn cynnal dros 50 o ddigwyddiadau drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017, o Ddydd Llun 15 Mai tan Ddydd Sadwrn 20 Mai.

 

Mae lleoliadau yn cynnwys Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Hybiau Cymunedol y cyngor, Neuadd y Sir, Tŷ Willcox, Canolfan Gelfyddydau'r Chapter, Canolfan Siopa Dewi Sant, Parc y Rhath, John Lewis ac Ikea.

 

Dywedodd Rob Sadler, pencampwr Dementia a Swyddog Newid Busnes i Lyfrgelloedd Caerdydd yng Nghyngor Caerdydd: " Mae wythnos lawn dop wedi ei chynllunio, gan gynnwys ystod o weithgareddau, sesiynau gwybodaeth ac adloniant gyda sgrinio ffilmiau a darlleniadau barddoniaeth. Byddwn yn helpu pobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr i fynd ar-lein a lawrlwytho e-lyfrau i'w mwynhau yn hamddenol.

 

Ar Ddydd iau Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, byddwn yn agor Caffi Dementia'r Gymdeithas Alzheimer yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd y gobeithiwn a fydd yn cynnig lle diogel i bobl sy'n byw â dementia i gyrchu gwybodaeth a gwasanaethau mewn awyrgylch gymdeithasol.

 

Gobeithiwn weld lawer o bobl yn dod trwy ein drysau yn ystod yr wythnos ac i'n helpu ni i chwarae ein rhan yn adeiladu cymdeithas dementia-gyfeillgar sy'n helpu'r rhai hynny a effeithiwyd i fyw bywydau gwell a llawnach."

 

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Asesu Gofalwyr yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar Ddydd Llun 15 a Dydd Mercher 17 Mai i gynnig gwybodaeth a chyngor. Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod o ofal a chymorth gydol y flwyddyn, gan gynnwys gofal cartref personol, gofal seibiant a chymorth gofalwyr.

 

Fel rhan o'r gwaith tuag at ennill statws dinas dementia-gyfeillgar, mae'r cyngor yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i'r staff cyfan a hyfforddiant i alluogi staff i ddod yn bencampwyr dementia.

 

Trwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017, mae gwasanaeth Teleofal Caerdydd yn cynnig i'r rheiny sydd â dementia, uned sail a roddwyd am ddim gyda phob teclyn canfod cwymp neu sensor gadael eiddo a gaiff ei brynu wrth danysgrifio i'w Wasanaeth Ymateb Symudol. Ceir gwybodaeth bellach ar sut mae tanysgrifio ar gael drwy ffonio Teleofal Caerdydd ar 029 2053 7080.

 

Yn y Caffi Dementia Ddydd Iau 18 Mai bydd y Cyngor yn ail lansio ei wasanaeth Pryd ar Glud. Gan ddosbarthu prydau cynnes, maethlon i gwsmeriaid ledled y ddinas, mae Pryd ar Glud nawr yn caniatáu i bobl atgyfeirio eu hunain i'r gwasanaeth neu gael eu hatgyfeirio gan deulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd cwsmeriaid sy'n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth Ddydd Iau yn cael eu pryd cyntaf am ddim.

 

Mae'r Gymdeithas Alzheimer, y sefydliad y tu cefn i Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017, yn gofyn i bawb ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i uno yn erbyn dementia.

 

Dywedodd Melanie Andrews, Rheolwr Gweithrediadau Cymdeithas Alzheimer Cymru yn Ne Ddwyrain Cymru: "Mae dros 4,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghaerdydd. Mae uno â Llyfrgelloedd Caerdydd ledled y ddinas yn berthynas mor bwysig i ni ei gael am fod eu gwasanaeth yn darparu rhan allweddol yn y gymuned ledled y Brifddinas. Rydym yn hynod falch pa mor uchelgeisiol y bu'r llyfrgell yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia hwn gyda digwyddiadau wedi eu cynllunio gydol yr wythnos gan gynnwys lansio Caffi Dementia.

 

"Rydym yn galw ar bobl yng Nghaerdydd i ddangos eu cefnogaeth i'r Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia hon. Dyw Dementia ddim yn parchu neb; gallai effeithio arnom ni oll. Mae ar y ffordd i fod y clefyd sy'n lladd y mwyaf o bobl yn y G21, gyda rhywun yn datblygu symptomau bob tri munud a chymaint yn ei wynebu ar eu pennau eu hunain.

 

"Mae pobl â dementia yn aml yn teimlo - ac yn cael - eu cam-ddeall, eu gwthio i'r cyrion a'u hynysu ond gyda'r gefnogaeth iawn a dealltwriaeth gallan nhw barhau i fyw bywydau llawn a gwneud cyfraniadau yn eu cymunedau. Felly, unwch â ni nawr a dewch draw i'r nifer o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.

 

Cliciwch yma am restr lawn o ddigwyddiadau Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 2017 yng Nghaerdydd gan gynnwys lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd. Caiff manylion eu rhannu hefyd yn ystod yr wythnos drwy gyfrwng cyfrif Twitter y Cyngor - @CyngorCaerdydd a'u tudalen Facebook - facebook.cardiffcouncil1