SYLW PAWB AR GAERDYDD AR GYFER SIOE ORAU'R BYD
DYMA sioe chwaraeon fwya'r byd eleni - ac mae'n dod i Gaerdydd.
Mae disgwyl i gynulleidfa ryngwladol o 200 miliwn o bobl wylio Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn fyw pan fydd yn dod i brifddinas Cymru ym mis Mehefin.
Ac mae disgwyl i fwy na 170,000 o bobl gyrraedd yng Nghaerdydd ar gyfer y ffeinal ddydd Sadwrn, 3 Mehefin, pan fydd chwaraewyr gorau Ewrop yn brwydro dros deitl Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru (enw Stadiwm Principality ar gyfer y digwyddiad).
Mae gwaith wedi bod yn cael ei wneud i baratoi at benwythnos Cynghrair y Pencampwyr UEFA y tu ôl i'r llenni ers misoedd ac mewn ychydig o wythnosau, bydd llygaid pawb ar Gaerdydd ar gyfer un o ddigwyddiadau chwaraeon gorau'r blaned.
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n agos â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru a Stadiwm Principality er mwyn sicrhau bod Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd yn cael ei chofio am byth fel achlysur chwaraeon arbennig.
Mae disgwyl i'r digwyddiad ddod â budd economaidd o oddeutu £45m i Gaerdydd a'r rhanbarth ehangach.
Mae'r brand Y Ffordd i Gaerdydd / The Road to Cardiff wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers diwedd y gemau grŵp a disgwylir iddo gyrraedd cynulleidfa deledu fyd-eang o 1.3 biliwn erbyn diwedd y gystadleuaeth.
Budd uniongyrchol arall i Gaerdydd yw'r cae pêl-droed pump bob ochr artiffisial penigamp sy'n cael ei adeiladu yn Ngerddi'r Faenor yn Grangetown, sydd wedi'i ariannu gan Raglen Grassroots UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Gyda'r paratoadau olaf ar waith, mae'r ddinas yn gwneud ei gorau i sicrhau bod hwn yn ddigwyddiad i'w gofio.
Bydd Gŵyl y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o ddydd Iau 1 Mehefin tan ddydd Sul 4 Mehefin.
Er na fydd y gêm ei hun yn cael ei dangos yn fyw yn yr ŵyl - fel sy'n wir am bob Ffeinal arall Cynghrair y Pencampwyr UEFA - bydd llwyth o atyniadau eraill i ymwelwyr eu mwynhau yn ystod y pedwar diwrnod.
Mae'r atyniadau hyn yn cynnwys cae pêl-droed pump bob ochr ar ddŵr y bae, amgueddfa bêl-droed Oriel y Pencampwyr UEFA, Siop swyddogol Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr 2017 ac adloniant byw.
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gael tynnu llun am ddim gyda Thlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA.
Un o uchafbwyntiau'r wŷl fydd gweld enwogion pêl-droed yn chwarae yn ngêm Pencampwyr Pennaf UEFA ddydd Gwener, 2 Mehefin.
Mae'r wŷl ar agor i bawb ond mae disgwyl iddi fod yn brysur dros ben ddydd Sadwrn, gyda chefnogwyr y ddau dîm sydd yn y ffeinal yn mwynhau'r awyrgylch cyn y gêm.
O ystyried bod ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y ddinas yn debygol o fod yn brysur iawn ar y dydd Sadwrn, mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i ymweld â'r ŵyl ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul.
Bydd yr ŵyl yn cau am 5pm ar ddydd y ffeinal cyn y seremoni agoriadol am 7.30pm a'r gêm am 7.45pm.
Mae Ffeinal y Merched UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 1 Mehefin gyda'r gic gyntaf am 7.45pm.
Bydd cynnal digwyddiad o'r fath yn golygu un o'r gweithrediadau diogelwch mwyaf a welodd Gaerdydd erioed, ynghyd â chau ffyrdd yn ac o amgylch canol y ddinas a Bae Caerdydd.
Yn ystod pedwar diwrnod yr ŵyl, bydd llawer o ffyrdd wedi cau ym Mae Caerdydd. A bydd nifer o ffyrdd canol y ddinas wedi cau o hanner nos ddydd Gwener, 2 Mehefin tan oriau mân bore dydd Sul, 4 Mehefin.
Bydd mwy o heddlu o gwmpas a bydd gan rai ohonynt arfau.
Nid yw hyn oherwydd unrhyw wybodaeth benodol ynghylch y digwyddiad, ond yn hytrach yn sgil y bygythiad terfysgaeth rhyngwladol.
Bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith ar rai ffyrdd er mwyn creu Ardal Ddiogelwch Fewnol yng nghanol y ddinas.
Mae swyddogion y cyngor yn cysylltu â busnesau a phreswylwyr yr effeithir arnynt gan gau ffyrdd er mwyn trafod materion megis parcio, cludo nwyddau a rheoli gwastraff.
Cynhaliwyd cyfres o sesiynau gwybodaeth galw heibio i breswylwyr na effeithir arnynt fel arfer gan ddigwyddiadau yn y stadiwm.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhyngwladol enfawr i'r ddinas, a bydd teithio ar y ffordd yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y ffeinal yn drafferthus tu hwnt.
Hoffai'r Cyngor annog yn gryf fod pobl leol yn cerdded neu'n teithio ar fws ac yn gadael eu ceir gartref.
Mae cyfuniad o ffyrdd ar gau a degau o filoedd o gefnogwyr yn cyrraedd y ddinas ar 3 Mehefin yn golygu y dylai pobl gynllunio ymlaen llaw a dim ond teithio gyda char ar hyd coridor yr M4 os yw'r siwrne'n un hanfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd cynnal Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd yn creu etifeddiaeth economaidd enfawr i Gaerdydd, a bydd y ddinas yn dal i elwa ohono mewn blynyddoedd i ddod.
"Mae disgwyl i'r digwyddiad ddod â budd economaidd o oddeutu £45m i Gaerdydd a'r rhanbarth ehangach.
"Ers y gemau grŵp, mae'r brand Y Ffordd i Gaerdydd wedi cael ei ddefnyddio ym mhob gêm a disgwylir iddo gyrraedd cynulleidfa deledu fyd-eang o 1.3 biliwn erbyn diwedd y twrnamaint.
"Yn ogystal, mae disgwyl i werth ariannol sylw'r wasg ar brint, yn y cyfryngau ac ar-lein ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr UEFA a Chaerdydd fod yn fwy na £8.5m miliwn.
"Bydd cynnal achlysur chwaraeon o fri fel hyn yng Nghaerdydd, gyda phawb yn y byd yn ein gwylio, yn rhoi hwb enfawr a hir i'r ddinas gyfan - ei phobl, ei busnesau, ei llety a'i masnach dwristiaeth a'i phrifysgolion."
Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Bydd y sylw oll ar Gaerdydd a bydd eto'n gyfle i ni ddangos sut rydym yn plismona digwyddiadau mawr yma'n ne Cymru.
"Un o brif amcanion strategol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw denu rowndiau terfynol pêl-droed mawr i Gymru ac i ddefnyddio'r gemau hynny i ysgogi mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon a'r buddion diwylliannol ac iechyd sydd ynghlwm wrth hyn.
"Tra y bydd miliynau o bobl ledled y byd yn gwylio ffeinal y dynion a'r merched ar y teledu, bydd gan bobl Cymru gyfleoedd i ymgysylltu â'r holl ddigwyddiadau cysylltiedig a chael hwyl.
"Hoffwn annog y rheiny sy'n gallu i ddod i fwynhau awyrgylch ffeinal Ewropeaidd."
Dywedodd Tom Legg, Pennaeth Trafnidiaeth ar gyfer y digwyddiad: "Mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud i gynllunio'r trefniadau trafnidiaeth ar gyfer y digwyddiad fel ein bod yn sicrhau bod ein dinas yn dal i symud a bod y rhai sy'n dod i Gaerdydd yn cael profiad gwych.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid trafnidiaeth, gan gynnwys Network Rail, Great Western Railways, Trenau Arriva Cymru, National Express, Traffig Cymru, Highways England, Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Bryste ers tro.
"Tra bod digwyddiad o'r fath yn gyfle ffantastig i'r rhanbarth, yn amlwg bydd ychydig o darfu'n lleol oherwydd nifer fawr yr ymwelwyr.
"Rydym yn rhoi rhaglen weithgareddau ar waith i sicrhau bod pobl a busnesau yn deall effaith bosibl y digwyddiad ar eu teithiau rheolaidd, yn benodol ddydd Sadwrn, 3 Mehefin."
Dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru, Steve Furnham: "Bydd digwyddiad ar y raddfa hon yn gofyn am waith diogelwch manwl iawn, sydd wedi bod ar waith gyda'n partneriaid ers misoedd.
"Byddwn yn croesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i'n prifddinas ac rydym eisiau iddynt allu edrych yn ôl ar eu profiad gydag atgofion da iawn o'u hymweliad i Gymru.
"Ynghyd â'r heriau sydd ynghlwm wrth gael llawer o ymwelwyr rhyngwladol â Chaerdydd, mae angen i ni hefyd ystyried yr effaith y bydd y digwyddiad hwn yn ei gael ar bobl sy'n byw, gweithio ac yn teithio yn ac o amgylch Caerdydd."
Dywedodd Mark Williams, Rheolwr Cyffredinol Stadiwm Cenedlaethol Cymru, enw swyddogol y stadiwm ar gyfer cynnal Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA: "Mae denu Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn bluen enfawr yng nghap y ddinas ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yng nghanol y ddinas i gynnig y profiad gorau oll i ymwelwyr â Chaerdydd ym mis Mehefin.
"Mae ymwelwyr â'r ddinas bob amser yn cael eu syfrdanu gan leoliad canolog unigryw stadiwm cenedlaethol Cymru a gyda'n gilydd rydym am greu'r awyrgylch carnifal bywiog y mae Cymru'n enwog amdano wrth gynnal digwyddiadau mawr sy'n gwneud argraff barhaol ar ymwelwyr a phobl Cymru."
Ewch i www.cardiff2017.wales/travel i gael cyngor a gwybodaeth ar deithio'n lleol a dilynwch ni ar Twitter - @cardiff17travel neu @cyngorcaerdydd