01/21/21
Mae ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Caerdydd yn dechrau heddiw, a fydd yn gofyn i drigolion am eu barn ar amrywiaeth o opsiynau o ran twf tai a swyddi ar gyfer y ddinas hyd at 2036.
Yn gynharach eleni gofynnodd Cyngor Caerdydd i drigolion, ac ystod eang o sefydliadau, grwpiau a chyrff cyhoeddus, am eu barn ar y weledigaeth a'r amcanion drafft ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol newydd a chafwyd 1,215 o ymatebion i'r holiadur ar-lein.
Yn dilyn y sylwadau hyn, cafodd fersiynau diwygiedig o weledigaeth ac amcanion y CDLl eu cynhyrchu a'u cyflwyno i'r Cyngor llawn i'w cymeradwyo, cyn eu hychwanegu at y ddogfennaeth.
Cam nesaf y broses yw ymgynghoriad 10 wythnos sy'n canolbwyntio ar dwf tai a swyddi. Bydd hyn yn digwydd trwy ystafell ymgynghori rithwir -https://cardiffldp.consultation.ai-a fydd yn galluogi trigolion i roi eu barn tan 8 Chwefror a chynhelir amrywiaeth o grwpiau ffocws wedi'u cynllunio i alluogi'r rheiny nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan yn y mathau hyn o ymgynghori i leisio eu barn.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar dwf tai a swyddi yn asesu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
- Unrhyw angen am gartrefi newydd i ddarparu ar gyfer y twf parhaus ym mhoblogaeth y ddinas;
- Unrhyw angen i fodloni'r gofyniad brys am dai fforddiadwy;
- Unrhyw ofyniad am gartrefi newydd i ddarparu ar gyfer pobl a theuluoedd sy'n symud i Gaerdydd ar gyfer swyddi newydd;
- Dyheadau parhaus y ddinas i fod yn sbardun economaidd i Ranbarth De-ddwyrain Cymru;
- Darparu swyddi i gyd-fynd â'r cynnydd ym mhoblogaeth y ddinas hyd at 2036; a
- Lleihau diweithdra a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ledled y ddinas.
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd CDLl wedi'i fabwysiadu i sicrhau y gellir rheoli twf y ddinas yn effeithiol. Mae hyn yn sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn digwydd yn y lleoliadau cywir ac yn bodloni amcanion polisïau lleol a chenedlaethol.
Mae'r CDLl wedi'i fabwysiadu wedi sicrhau bod gan y ddinas eisoes 15,400 o gartrefi ychwanegol yn yr arfaeth nad ydynt wedi'u hadeiladu eto. Mae'r holl gartrefi newydd hyn i bob pwrpas yn y ‘banc tir' a byddant yn cael eu cyflwyno i'r CDLl newydd ar gyfer y ddinas. Nid yw pob darn o dir â chaniatâd cynllunio yn cael ei adeiladu arno, felly mae addasiadau wedi'u gwneud i ganiatáu ar gyfer hyn.
Mae'r rhan gyntaf o'r ymgynghoriad yn edrych ar dri senario gwahanol a gyflwynwyd i'w trafod, ar sut y gallai'r ddinas dyfu a nifer y cartrefi y byddai angen eu hadeiladu i ddarparu ar gyfer y twf hwn hyd at 2036.
- Opsiwn A:Gallai'r opsiwn hwn ddarparu 19,000 o gartrefi newydd a 30,000 o swyddi newydd. Gyda'r tai sydd eisoes wedi'u diogelu trwy'r CDLl presennol, byddai'r opsiwn hwn yn gofyn am yr angen i ddod o hyd i safleoedd ar gyfer2,140o gartrefi. Yn ogystal â nifer y cartrefi sydd eisoes yn y 'banc tir', y gyfradd adeiladu sy'n ofynnol ar gyfer yr opsiwn hwn fyddai 1,267 o gartrefi newydd y flwyddyn. Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar darged economaidd y Cyngor i ddarparu 1,600 o swyddi newydd bob blwyddyn.
- Opsiwn B:Gallai hyn ddarparu 24,000 o gartrefi newydd a 32,000 o swyddi newydd a byddai angen i'r CDLl newydd ddod o hyd i safleoedd ar gyfer7,640o gartrefi, ar gyfradd adeiladu 1,600 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae'r opsiwn hwn wedi'i fodelu i ddarparu mwy o dai fforddiadwy i ateb galw cynyddol y 7,700 o ymgeiswyr sydd ar y rhestr dai ar hyn o bryd, gyda 514 o'r ymgeiswyr hyn yn ddigartref ar hyn o bryd.
- Opsiwn C:Gallai'r opsiwn hwn ddarparu 30,500 o gartrefi newydd a 43,000 o swyddi newydd a byddai angen i safleoedd adeiladu14,790o gartrefi ychwanegol, ar gyfradd adeiladu 2,033 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae'r senario hwn yn defnyddio amcanestyniadau twf poblogaeth a thai 2014 a ddefnyddir yn y CDLl wedi'i fabwysiadu presennol. Byddai'r opsiwn hwn yn helpu i fodloni'r angen am dai fforddiadwy yn y ddinas, wrth roi mwy o gyfle i adfywio datblygiadau defnydd cymysg a darparu mwy o ddewis a chyflenwad o ran y safleoedd tai a fyddai ar gael.
Bydd yr ail ran o'r ymgynghoriad yn edrych ar 8 opsiwn gwahanol a gyflwynwyd i'w trafod, ar sut y gellir darparu ar gyfer lefelau twf yn y ddinas. Mae'r holl opsiynau a gaiff eu hystyried yn seiliedig ar 3 egwyddor allweddol. Dyma'r tair egwyddor:
- Cefnogi Caerdydd fel y prif sbardun ar gyfer twf economaidd yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru;
- Sicrhau bod egwyddorion twf a chreu lleoedd cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau;
- Sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â nodau'r Strategaeth Un Blaned i sicrhau bod y Cyngor a'r ddinas yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Bydd y CDLl newydd yn llunio golwg a naws Caerdydd am flynyddoedd i ddod, felly roedd yn bwysig iawn i ni glywed ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau. Yn ystod y cam hwn o'r broses, rydym yn edrych ar nifer o senarios gwahanol ar y lefelau twf posibl yng Nghaerdydd hyd at 2036, a'r angen i adeiladu tai i ddarparu ar gyfer y twf hwn.
"Mae'n bwysig bod pobl yn deall canlyniadau'r opsiynau, gan y bydd gan y rhan fwyaf o'r senarios twf fanteision ac anfanteision o ran materion pwysig fel tir ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth, yr effaith ar yr amgylchedd, mynd i'r afael â'r angen am dai, cefnogi'r gwaith o greu seilwaith cymunedol a thrafnidiaeth, a faint o dai gwirioneddol fforddiadwy y gellid eu darparu."
Dyma'r 8 opsiwn sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r ymgynghoriad:
- Opsiwn 1:Estyn y safleoedd strategol presennol a nodwyd yn y CDLl presennol sydd ar safleoedd maes glas. Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar y safleoedd strategol presennol a'r posibiliadau ar gyfer twf yn y dyfodol, wedi'u cysylltu'n agos â'r gwelliannau arfaethedig i drafnidiaeth gyhoeddus, ysgolion newydd a chyfleusterau cymunedol. Oherwydd costau is datblygu ar safleoedd maes glas, gallai'r opsiwn hwn ddarparu mwy o dai fforddiadwy ac ystod a dewis ehangach o ran y mathau o dai a fyddai ar gael, gan gynnwys tai i deuluoedd.
- Opsiwn 2:Cynyddu datblygiadau mewn ardaloedd trefol ar safleoedd tir llwyd yn unig. Mae'r opsiwn hwn yn ceisio gwneud y mwyaf o'r tir sydd ar gael mewn lleoliadau trefol, a fyddai'n golygu dwysedd uwch o dai mewn rhai ardaloedd. Er bod yr opsiwn hwn yn diogelu safleoedd maes glas yng nghefn gwlad, oherwydd y costau uwch i ddatblygu'r tir hwn, gellid darparu llai o dai fforddiadwy yn yr opsiwn hwn, a gallai fod llai o ddewis o ran y safleoedd tai a'r gwahanol fathau o lety a fyddai ar gael.
- Opsiwn 3:Adnewyddu ac adfywio ar sail safleoedd tir llwyd defnydd cymysg Mae'r opsiwn hwn yn ceisio sicrhau'r twf a'r datblygiad mwyaf posibl mewn ardaloedd trefol yn unig ac nid yng nghefn gwlad. Byddai hyn hefyd yn cynnwys tai dwysedd uwch mewn ardaloedd priodol, gyda'r cyfle i dai gael eu cysylltu'n agos â gwelliannau newydd i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r opsiwn hwn yn cefnogi economi gymysg, gan gydbwyso swyddi â thwf tai a byddai'n diogelu datblygiadau ar safleoedd maes glas yn y dyfodol. Yn anffodus, mae canolbwyntio ar safleoedd tir llwyd yn unig yn golygu y gallai fod llai o dai fforddiadwy ar gael oherwydd y costau uwch i ddatblygu'r tir hwn, ynghyd â llai o ddewis o ran y mathau o dai a fyddai ar gael.
- Opsiwn 4:Byddai'r opsiwn hwn yn canolbwyntio'r twf o amgylch y canolfannau lleol ac ardal presennol, yn unol â'r cysyniad 'dinas pentrefi'. Yn debyg i opsiwn 2, byddai hwn mewn lleoliadau trefol yn gwneud y defnydd gorau o safleoedd tir llwyd, gan ddarparu mwy o ddatblygiadau defnydd cymysg gyda gwell seilwaith cerdded a beicio i greu 'cymdogaethau 20 munud'. Er y gallai'r opsiwn hwn ddiogelu safleoedd maes glas yng nghefn gwlad, byddai llai o dai fforddiadwy neu amrywiaeth o dai yn cael eu darparu unwaith eto, oherwydd y costau cynyddol ar ddatblygwyr.
- Opsiwn 5:Twf ar sail cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd trefol. Byddai'r opsiwn hwn yn canolbwyntio'r twf o amgylch ardaloedd trefol gyda chysylltiadau trafnidiaeth da sy'n bodoli eisoes, gan sicrhau bod tai sy'n cael eu hadeiladu yn y lleoliad gorau i fodloni anghenion cymunedau presennol ac yn y dyfodol, gan gysylltu'n uniongyrchol â rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy. Gan fod yr opsiwn hwn yn canolbwyntio'n llwyr ar safleoedd tir llwyd, gellid darparu llai o dai fforddiadwy neu amrywiaeth o dai yn rhan o'r opsiwn hwn, oherwydd costau cynyddol datblygu mewn ardaloedd trefol.
- Opsiwn 6:Canolbwyntio twf o amgylch y 'coridorau twf tramwy' - a allai alinio tai arfaethedig yn agos â gwelliannau trafnidiaeth y METRO hyd at Ogledd-orllewin Caerdydd a thu hwnt, gan gysylltu'n agos â chyflawni gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, fel llwybrau rheilffordd newydd a gorsafoedd trenau newydd. Gan fod hwn yn opsiwn safle maes glas, byddai lefelau tai fforddiadwy yn uwch a byddai ystod a dewis ehangach o ran y tai a fyddai ar gael.
- Opsiwn 7:Gallai'r opsiwn hwn ganolbwyntio ar safleoedd maes glas nad ydynt eisoes wedi'u nodi'n Safleoedd Strategol yn y CDLl wedi'i fabwysiadu presennol. Gallai'r opsiwn hwn ystyried tir a gyflwynwyd gan dirfeddianwyr i'w ddatblygu y tu allan i'r ffin ddeheuol ar safleoedd maes glas newydd ar gyrion ffin y ddinas.
- Opsiwn 8:Gallai'r opsiwn hwn ystyried cyfuniad o safleoedd maes glas a safleoedd tir llwyd mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad. Gallai'r opsiwn hwn sicrhau'r cydbwysedd rhwng manteision y ddau, trwy ddefnyddio safleoedd tir llwyd credadwy ar gyfer defnyddiau datblygu cymysg dwysedd uchel, yn ogystal â darparu mwy o dai fforddiadwy a dewisiadau o ran y mathau o dai ar safleoedd maes glas.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Ar y cam hwn o'r broses, mae'r holl opsiynau a gyflwynir yn yr ymgynghoriad yn opsiynau posibl, yn hytrach na bod yn opsiynau a ffefrir. Gallai'r Strategaeth a Ffefrir gyfuno nifer o'r opsiynau hyn gyda'i gilydd. Bydd yr holl adborth gan y cyhoedd yn cael ei ystyried, ochr yn ochr â gwaith technegol pellach, a fydd yn helpu'r Cyngor i baratoi'r Strategaeth a Ffefrir yr ymgynghorir arni gyda'r cyhoedd yn hydref 2022."