Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 26 Tachwedd


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gweithredu yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol; datgan argyfwng natur; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; cyfanswm brechu ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg;Eglwys Norwyaidd yn dathlu Gŵyl y Golau a diwrnod ym mywyd gwirfoddolwr Parc Bute.

Creu Caerdydd fwy diogel: Diweddariad ynghylch diogelwch cymunedol y ddinas

Mae dull targedig o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau troseddu - rhan o nifer o ymyriadau diogelwch cymunedol sy'n digwydd ledled y ddinas - yn talu ar ei ganfed.

Mae Grŵp Datrys Problemau amlasiantaethol, sy'n cynnwys mwy na 30 o sefydliadau gan gynnwys y Cyngor, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd, yn llwyddo i lywio ymateb cydgysylltiedig i broblemau amrywiol mewn nifer o fannau sy'n dioddef o'r ymddygiad hwn drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, fandaliaeth ac ymddygiad troseddol.

Mae'r prosiect peilot, sydd wedi canolbwyntio ar ardaloedd yn Llanrhymni a Sblot, wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr adroddiadau am ddigwyddiadau ar ôl cyflwyno mesurau dargyfeiriol a diogelwch cymunedol, yn ogystal â gwell ymgysylltiad â'r gymuned.

Mwy yma:Creu Caerdydd fwy diogel: Diweddariad ynghylch diogelwch cymunedol y ddinas (newyddioncaerdydd.co.uk)

Cyngor Caerdydd yn pleidleisio i ddatgan argyfwng natur ledled y ddinas

Yng nghyfarfod Cyngor Llawn Caerdydd neithiwr, cafodd pleidleisiau eu bwrw a arweiniodd at ddatganiad o argyfwng natur yn y brifddinas.

Cyflwynwyd y datganiad brys mewn cynnig a gyflwynwyd gan grŵp Llafur y Cyngor, gyda dau ddiwygiad ar wahân gan grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a'r grŵp Ceidwadol.

Daw ar ôl penderfyniad y Cyngor i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, a'r ymrwymiad carbon niwtral cyhoeddus a wnaed ym mis Hydref eleni, a nodir yn yStrategaeth Un Blaned a gymeradwywyd gan y Cabinet.

Mwy yma:Cyngor Caerdydd yn pleidleisio i ddatgan argyfwng natur ledled y ddinas (newyddioncaerdydd.co.uk)

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Tachwedd - 21 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

25 Tachwedd 2021, 09:00

Achosion: 1,845

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 502.9 (Cymru: 494.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,790

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,668.3

Cyfran bositif: 18.8% (Cymru: 17.8% cyfran bositif)

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (19/11/21 i 25/11/21)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 512

  • Disgyblion a myfyrwyr = 444
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 68

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Tachwedd

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:859,941(Dos 1:387,257Dos 2: 348,943DOS 3:6,019Dosau atgyfnertha117,679:)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf23Tachwedd

 

  • 80 a throsodd:20,198 / 94.7%(Dos 1)20,044 / 94%(Dos 2)
  • 75-79:14,980 / 96.5%(Dos 1)14,853 / 95.6%(Dos 2)
  • 70-74:21,408 / 95.8%(Dos 1)21,294 / 95.3%(Dos 2)
  • 65-69:21,994 / 94.4%(Dos 1)21,753 / 93.4%(Dos 2)
  • 60-64:26,117 / 92.5%(Dos 1)25,792 / 91.3%(Dos 2)
  • 55-59:29,453 / 90.4% (Dos 1)28,978 / 89%(Dos 2)
  • 50-54:29,150 / 88.2%(Dos 1)28,542 / 86.4%(Dos 2)
  • 40-49:55,759 / 82.1%(Dos 1)54,028 / 79.6%(Dos 2)
  • 30-39:61,649 / 76.4%(Dos 1)58,107 / 72%(Dos 2)
  • 18-29:82,348 / 77.8%(Dos 1)74,161/ 70.1%(Dos 2)
  • 16-17:4,128 / 74.9%(Dos 1)4,128 / 74.9%(Dos 2)
  • 12-15:14,948 / 48.2%(Dos 1)220/0.8% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,107 / 98.4%(Dos 1)2,086 / 97.4%(Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed:11,244 / 94.5%(Dos 1)11,062 / 93%(Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:11,062 / 93%(Dos 1)44,538 / 87.5%(Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15):598 / 60.6%(Dos 1)174 / 17.6% (Dos 2)
  • Imiwnataliedig Difrifol6,753 / 99.4% (Dos 1) 5,525 /81.3% (Dos 2)

Yr Eglwys Norwyaidd yn dathlu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch

Ddydd Sul 5 Rhagfyr bydd yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd yn agor am ddiwrnod yn llawn hwyl yr ŵyl i ddathlu Nadolig yn arddull Norwy.

Bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd yn mynychu'r digwyddiad sy'n dathlu'r cysylltiadau gefeillio rhwng Caerdydd a Vestland yn Norwy, ac yn cynnau'r goleuadau Nadolig yn swyddogol yn rhan o'r seremoni goleuo'r goeden. 

Hefyd yn bresennol bydd yr Arglwydd Faeres ochr yn ochr â Dr Tyra Oseng-Rees, Cadeirydd Cymdeithas Norwy-Cymru, Dr Martin Price, Cadeirydd Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Norwy yn Llundain a Chyngor Vestland.

Mwy yma:Yr Eglwys Norwyaidd yn dathlu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch (newyddioncaerdydd.co.uk)

Diwrnod ym Mywyd Gwirfoddolwr - Rachael

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ddydd Sul 5 Rhagfyr, mae Parc Bute yn dathlu ei wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn brysur yn gweithio'n galed i wneud parc canol dinas Caerdydd yn fwy diogel a glanach i drigolion ac ymwelwyr.

I ddathlu,rydym yn rhannu straeon gwirfoddolwyr Parc Bute bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch am yr hashnodau #GweithioDrosGaerdydd a #GwirfoddolwyrParcBute

Gwirfoddolodd Rachael fel ffotograffydd digwyddiadau a Pharc Bute wrth astudio Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. 

Mwy yma:Diwrnod ym Mywyd Gwirfoddolwr - Rachael (newyddioncaerdydd.co.uk)