Back
Mynwent Newydd i Ogledd Caerdydd i agor yn swyddogol

19.10.2021

A picture containing tree, outdoor, grass, groundDescription automatically generated
 

Bydd mynwent newydd Gogledd Caerdydd, arHeol Draenen Pen-y-graig yn agor yn swyddogol ddydd Mercher, 20 Hydref, gan gynnig lle claddu y mae mawr ei angen yng ngogledd y ddinas am y 15 mlynedd a mwy nesaf.

Mae dyluniad y fynwent yn cynnwys beddau lawnt, beddau traddodiadol, beddau i weddillion a amlosgir, yn ogystal ag ardal gladdu naturiol a fydd yn cael ei rheoli i wella bioamrywiaeth o fewn y safle.

Mae'r safle wedi'i ddylunio a'i dirlunio i gynnwys mwy o goed i ddarparu profiad therapiwtig a chyfannol i'r rhai sydd wedi colli ffrindiau a pherthnasau.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael,yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylched: "Mae'r fynwent newydd hon yn darparuateb hirdymor i'r angen am fwy o le claddu yn y ddinas.

"Mae gan ein dinas ddemograffeg gynyddol ac amrywiol, ac mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i fodloni anghenion ein trigolion mewn bywyd yn ogystal â marwolaeth.

"Mae dyluniad cyffredinol y safle wedi bod yn ystyriol o'r amgylchedd ac wedi lleihau effaith weledol yr ardal. 

"Yr unig adeilad yw bloc toiledau i ymwelwyr, sydd wedi'i osod â tho byw o flodau gwyllt a gwair i annog bioamrywiaeth.

"Bydd Mynwent y Gogledd yn cael ei rheoli'n sensitif i sicrhau ei bod yn dod yn lle croesawgar er budd trigolion ac ymwelwyr yn ogystal ag ar gyfer bywyd gwyllt lleol."

Cynhelir yr agoriad swyddogol ar y safle ddydd Mercher, 20 Hydref,lle bydd clogfaen seremonïol yn cael ei ddadorchuddio i nodi'r achlysurgan yr Arweinydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'rAelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael.

Yn bresennol bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd,Y Cynghorydd Rod McKerlich;trefnwyr angladdau lleol a seiri maen henebionachynrychiolwyr oSoroptimyddion o Gaerdydd, a fydd yn plannu coeden i nodi canmlwyddiant Soroptimyddion Rhyngwladol, mudiad gwirfoddol byd-eang sy'n gweithio ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol i addysgu, grymuso a galluogi cyfleoedd i fenywod a merched.