Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gwahodd trigolion i ddweud eu dweud am greu coedwig drefol Caerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; Ymgynghoriad cyhoeddus nawr ar agor ar y cynigion i gynyddu darpariaeth Caerdydd i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol; a dyfodol disglair i ddau o adeiladau treftadaeth gorau Caerdydd.
Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud am greu coedwig drefol Caerdydd
Gwahoddir trigolion Caerdydd i gwblhau arolwg Coed Caerdydd i rannu eu barn ar greu coedwig drefol ar draws y ddinas.
Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.
Yn hydref 2019, dosbarthwyd arolwg dinasyddion i ddarganfod sut mae coed yn effeithio ar fywydau trigolion; a ydynt yn ymwybodol bod mwy o goed wedi cael eu plannu; a pha fath o blannu yr hoffech ei weld yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, "Mae profiadau'r 18 mis diwethaf wedi achosi i lawer o bobl ail-werthuso eu blaenoriaethau a meddwl mwy am faterion amgylcheddol.
"Bydd prosiect Coed Caerdydd yn helpu i wireddu uchelgeisiau Caerdydd i greu coedwig drefol ar gyfer dinas werddach a'n gwthio'n nes at ein nod o gynyddu gorchudd coed y ddinas i 25%.
"Mae'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn arolwg 2019 wedi ein helpu i sicrhau ychydig yn brin o £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw i lansio ein rhaglen Coed Caerdydd a byddwn yn dechrau plannu coed ar draws y ddinas dros y ddau dymor plannu nesaf, hyd at fis Mehefin 2023.
"Hoffem gael gwybod a yw barn eich barn ar blannu coed wedi newid ers 2019; yn enwedig ers pandemig Covid-19, cyhoeddi Strategaeth Un Blaned y ddinas a datgan yr argyfwng hinsawdd."
Bydd arolwg Coed Caerdydd yn cau ddydd Gwener, 29 Hydref. Mae'n cymryd tua 10 munud i'w gwblhau a gellir ei wneud ar-lein yn:
www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Hydref - 07 Hydref)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
11 Hydref 2021, 09:00
Achosion: 2,337
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 637.0 (Cymru: 514.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 12,468
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,398.2
Cyfran bositif: 18.7% (Cymru: 16.7% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 08 Hydref
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 736,752 (Dos 1: 372,592 Dos 2: 364,160)
Mae ymgynghoriad cyhoeddus sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddweud eu dweud ar gynigion i gynyddu'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd, ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) bellach ar agor.
Gellir cyflwyno barn ar ddau gynllun i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am ddarpariaeth ADY yn yr oedran cynradd ac ehangu'r cymorth i ddysgwyr gydag anghenion iechyd emosiynol ac lles ac Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC).
Mae'r rhain yn cynnwys:
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, os ânt yn eu blaen, gallai'r cynigion hefyd weld Ysgol y Court, y mae ei chyflwr wedi ei nodi fel gwael neu anaddas, yn cael ei hadnewyddu a'i hehangu gydag adeiladau newydd o dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry; "Yng Nghaerdydd, mae lefel y cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau sydd ar gael mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu eu bod wedi dod yn fwy cynhwysol ac yn gallu diwallu anghenion y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol. Mae 17 Canolfan Adnoddau Arbenigol wedi'u sefydlu ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu a datblygu Ysgolion Riverbank ac Woodlands.
"Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu. Mae cyfraddau goroesi gwell ar gyfer plant sy'n cael eu geni ag anableddau sylweddol sy'n arwain at anableddau difrifol a chymhleth hefyd wedi cynyddu, sy'n golygu bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol arbennig neu Ganolfan Adnoddau Arbenigol wedi parhau i dyfu.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27728.html
Dyfodol disglair i ddau o adeiladau treftadaeth gorau Caerdydd
Mae cynlluniau ar waith i adfywio dau o adeiladau treftadaeth gorau Bae Caerdydd, sydd wedi bod yn wag ers 20 mlynedd.
Ar ddiwedd 2020 prynodd Cyngor Caerdydd Merchant Place/Adeiladau Cory ar gornel Stryd Bute a Stryd James. Bwriad y Cyngor oedd diogelu'r adeiladau fel rhan o'i gynlluniau i adfywio ardal Glanfa'r Iwerydd a'r Bae, a dod o hyd i bartner yn y sector preifat a allai brynu'r eiddo gan y Cyngor a rhoi bywyd newydd iddynt heb unrhyw gost i'r trethdalwr.
Nawr bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad ddydd Iau, 13 Hydref, sy'n argymell bod y Cyngor yn gwerthu'r adeiladau i Dukes Education, perchnogion Coleg 6ed Dosbarth Caerdydd, sydd wedi'i leoli ar Heol Casnewydd ar hyn o bryd.
Mae'r argymhelliad yn dilyn ymarfer marchnata a welodd bedwar cais am yr adeiladau yn cael eu cyflwyno a fyddai wedi galluogi'r Cyngor i adennill yr arian a wariwyd ganddo i gaffael yr eiddo.
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Bydd y cynnig yn caniatáu i'r Cyngor adennill ei fuddsoddiad cychwynnol yn llawn. Bydd yn arwain at adfer yr adeiladau treftadaeth yn llawn a bydd yn darparu cynllun bywiog sy'n cyd-fynd yn dda â'r amgylchedd lleol ac yn cefnogi strategaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal. Bydd Dukes Education yn darparu cynllun perchen-feddiannwr, gan leihau lefel y risg datblygu o'i gymharu â chynlluniau sy'n dibynnu ar sicrhau tenantiaid. Gallai natur ryngwladol y coleg hefyd roi hwb o ran denu ymwelwyr rhyngwladol i Fae Caerdydd, ond ein prif ystyriaeth oedd sicrhau cynllun cadarn sy'n adfywio'r adeiladau."
Darllenwch fwy yma: