08/10/21
Gall Caerdydd gymryd cam tuag at fod y ddinas gyntaf sy'n dda i bobl hŷn yng Nghymru yr wythnos nesaf wrth i'r awdurdod ystyried ymuno â rhwydwaith byd-eang o gymunedau sy'n dda i bobl hŷn.
Bydd y Cabinet yn trafod cynlluniau i gyflwyno cais i Sefydliad Iechyd y Byd i ymuno â'r rhwydwaith byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn ddydd Iau, 14 Hydref.
Sefydlwyd rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd, gyda'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymuned yn lle gwych i dyfu'n hŷn. Nod y rhwydwaith yw gwneud hyn drwy ysbrydoli newid drwy ddangos yr hyn y gellir ei wneud a sut y gellir ei wneud, gan gysylltu dinasoedd a chymunedau i hwyluso'r gwaith o gyfnewid gwybodaeth a phrofiad; a chefnogi dinasoedd a chymunedau i ddod o hyd i atebion arloesol a phriodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddod yn well i bobl hŷn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae Caerdydd eisoes wedi ymrwymo i fod yn ddinas sy'n lle gwych i bobl dyfu'n hŷn, ar ôl llofnodi Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn yn Ewrop yn 2013 a nodi nifer o ymrwymiadau i bobl hŷn yn ein Hasesiad o Les a'n Cynllun Gweithredu Lleol.
"Credwn y gallwn adeiladu ymhellach ar hyn a bydd ymuno â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu a chynnal Amgylcheddau sy'n Dda i Bobl Hŷn, sy'n meithrin heneiddio iach a gweithgar, wrth darparu'r gallu i fanteisio ar arfer gorau ac arbenigedd gan fwy na 1,100 o ddinasoedd a chymunedau ledled y byd."
Mae'r ffaith bod poblogaeth Caerdydd yn tyfu'n gyflym yn golygu y rhagwelir y bydd nifer y dinasyddion rhwng 65 ac 84 oed dros yr 20 mlynedd nesaf yn codi 44% tra y disgwylir i nifer y bobl dros 85 oed bron â dyblu.
Daw pobl hŷn yn ased pwysig i'r ddinas, gan wneud cyfraniadau sylweddol i'r economi, bywyd y ddinas a'i chymunedau, ac wrth i'r ddinas dyfu, bydd yn bwysig i'r cymunedau newydd gael eu cynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion pobl hŷn.
Mae poblogaeth sy'n heneiddio hefyd yn llawer mwy tebygol o fod angen gwasanaethau iechyd a gofal i'w helpu i fyw bywydau annibynnol ac mae heriau i'w rheoli.
Mae'r cyflwyniad i Sefydliad Iechyd y Byd yn cynnwys 'Cynllun Gweithredu Caerdydd yn Gweithio tuag at Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn', sy'n dwyn ynghyd nifer o strategaethau a chynlluniau cyfredol ar gyfer pobl hŷn sydd wedi'u datblygu ar draws y Bartneriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus a thu hwnt.
Fe'i datblygwyd yn seiliedig ar wyth maes a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i ddisgrifio dinasoedd a chymunedau sy'n ystyriol o oedran - Mannau awyr agored ac adeiladau cyhoeddus, Tai, Trafnidiaeth, Cymorth Cymunedol ac Iechyd, Cyfathrebu a Gwybodaeth, Cyfranogiad Cymdeithasol, Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth, a Pharch a Chynhwysiant Cymdeithasol.
Mae'r cynllun yn nodi cyfres o addewidion 'Byddwn ni' gan gynnwys ymrwymiadau i sicrhau bod dinasyddion Caerdydd yn gallu byw'n annibynnol, ac yn gysylltiedig â'u cymunedau, i greu cymunedau gwydn a datblygu rhwydweithiau cymunedol cryf a all gefnogi pobl hŷn i fyw'n dda a darparu gwasanaethau mewn ar lefel leol, yn agos at gartrefi dinasyddion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Elsmore: "Mae sut mae cymdeithas yn trin pobl wrth iddynt fynd yn hŷn yn adlewyrchu ei gwerthoedd a'i hegwyddorion, ac yn anfon neges bwysig i genedlaethau'r dyfodol. Credwn fod gweithio tuag at ddod yn Ddinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd yn anfon neges gref am ein gweledigaeth i brifddinas Cymru fod yn lle gwych i heneiddio, lle mae pobl hŷn yn fwy grymus, iach a hapus, gyda chefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol rhagorol."