Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; cam nesaf cynigion Ysgol Uwchradd Cathays; a hwb ariannol i Ysgol Farchogaeth Caerdydd diolch i'r Grŵp Cyfeillion.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 08 Hydref
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 736,752 (Dos 1: 372,592 Dos 2: 364,160)
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Medi - 02 Hydref)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
06 Hydref 2021, 09:00
Achosion: 1,989
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 542.1 (Cymru: 489.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 13,086
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,566.6
Cyfran bositif: 15.2% (Cymru: 14.4% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (01/10/21 i 07/10/21)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 964
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Cam nesaf cynigion Ysgol Uwchradd Cathays
Bydd argymhellion i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael eu cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.
Mae adroddiad sy'n amlinellu'r cynigion hefyd yn crynhoi canfyddiadau'r ymgynghoriad a ddilynodd yr Hysbysiad Statudol Cyhoeddus a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mehefin 2021
Pe bai'n cael ei datblygu, byddai'r ysgol newydd yn cael ei chyflwyno fel cynllun blaenoriaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â'r ysgolion hynny y nodwyd eu bod mewn cyflwr gwael, gyda diffygion mawr, gyda phroblemau addasrwydd neu y maent yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol.
Gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol, byddai'r cynllun yn sicrhau cyfleusterau gwell ar y safle, sydd ar gael at ddefnydd y gymuned a rennir.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
Trwy ehangu'r ysgol, byddai hefyd cyfle i ateb y galw a ragwelir am leoedd yn ei dalgylch ac i ateb y galw gormodol am leoedd o ddalgylchoedd cyfagos eraill, o ganlyniad i ddatblygiadau tai newydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Rhaglen Band B yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau mwyaf difrifol o ran digonolrwydd a chyflwr yng Nghaerdydd ac mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi'i nodi'n ysgol mae angen buddsoddi ynddi a'i datblygu. Bydd hyn yn galluogi disgyblion, staff a'r gymuned leol i fanteisio ar gyfleusterau modern, gwell ac ysbrydoledig, sy'n addas ar gyfer dysgu'r 21ain Ganrif.
"Mae lleoliad canolog yr ysgol yn y ddinas yn golygu y gall gefnogi twf yn ei hardal yn ogystal ag ardaloedd eraill, gan helpu i ateb y galw a ragwelir am leoedd Saesneg cymunedol yn ogystal ag ateb y galw am leoedd ychwanegol mewn CAA ledled y ddinas i ddysgwyr ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth."
Datblygwyd y cynigion ar gyfer yr ysgol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyfnod hysbysu statudol. Mae hyn wedi cynnwys llunio map ffin llinell goch dangosol o safle arfaethedig yr ysgol sy'n nodi graddau'r man mynediad agored cymunedol a fyddai ar gael.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae ymgynghoriadau cyhoeddus wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau hyd yma. Bu cefnogaeth sylweddol i ailddatblygu'r ysgol, ond rwy'n ymwybodol o nifer o bryderon ynghylch yr effaith ar fannau mynediad agored cyhoeddus a'r defnydd o amwynderau hamdden lleol presennol.
"Mae hyn wedi cael ei ystyried a phe bai'r cynlluniau'n cael eu datblygu, byddai ardal fawr fwy o ofod cymunedol yn cael ei chadw a fyddai'n cael ei thirlunio mewn rhannau i greu'r ardal fwyaf priodol a defnyddiadwy bosibl. Byddai hyn yn ychwanegol at y cyfleusterau a fyddai'n cael eu cynnig o fewn ffin yr ysgol a fyddai ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol a hefyd y gallu parhaus i ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Maendy."
Yn rhan o gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan hamdden a chwaraeon o ansawdd uchel ar y safle ym Mae Caerdydd, mae gwaith yn parhau i greu trac awyr agored newydd yn rhan o'r cam nesaf i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd adleoli'r trac beicio ym Maendy i'r cyfleuster pwrpasol newydd hwn yn sicrhau y gellir parhau i gefnogi talent leol. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am hyn yma:Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu'r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (newyddioncaerdydd.co.uk)
Bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet pan fydd yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 14 Hydref 2021. Bydd adroddiad pellach ar faterion tir yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet.
Hwb ariannol i Ysgol Farchogaeth Caerdydd diolch i'r Grŵp Cyfeillion
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi cael hwb ariannol i ddarparu ysgol awyr agored newydd a gwell i farchogwyr.
Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Caerdydd a Chyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd - sydd wedi rhoi £27,000 i'r gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Llun, 11 Hydref.
Mae'r ysgol awyr agored yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yng Nghaeau Pontcanna, wedi bod ar gau ers 2018. Dirywiodd y cyfleusterau yn sylweddol o 2013 pan ddechreuodd yr ysgol fynd yn adfail.
Fodd bynnag, bydd opsiynau marchogaeth awyr agored yn ailddechrau cyn diwedd mis Tachwedd ar ôl cwblhau'r gwaith gwella yn yr ysgol.
Wedi'i lleoli mewn 35 erw o barcdir, bydd Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cael ei gwella gan y cyfleusterau awyr agored newydd a fydd yn darparu profiad marchogaeth amlbwrpas i bobl o bob gallu mewn lleoliad sy'n addas ar gyfer pob tywydd. Mae gweithgareddau gan gynnwys gwersi, clwb merlod, gwersi marchogaeth i bobl anabl a gwersi marchogaeth merlod i blant ar gael, yn ogystal âchystadlaethau dressage a chyrsiau hyfforddi neidio ceffylau.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn ased cymunedol gwych sy'n caniatáu i drigolion Caerdydd ac ymwelwyr gael gwersi marchogaeth ceffylau yng nghanol y ddinas.
"Mae'r lleoliad yn caniatáu i bobl gael mynediad hawdd at gyfleuster a fyddai fel arall allan o gyrraedd iddynt.
"Bydd y cyfleusterau newydd yn dod â'r lle segur hwn yn ôl i ddefnydd i gynyddu'r capasiti ar gyfer gwersi a gwella ansawdd yr ysgol i fanyleb llawer uwch.
"Bydd y gwaith adeiladu yn ailgylchu deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio o'r ysgol awyr agored bresennol ac yn cynnwys gwelliannau i'r system ddraenio a gwella bioamrywiaeth y tiroedd cyfagos. Bydd yr ysgol newydd nid yn unig yn edrych yn wych ac yn darparu cyfleoedd marchogaeth awyr agored gydol y flwyddyn i gwsmeriaid, ond bydd y gwaith cysylltiedig yn helpu i wella ansawdd yr amgylchedd o'i gwmpas.
"Hoffwn ddiolch i'r Grŵp Cyfeillion sydd wedi cefnogi'r Ysgol Farchogaeth ers ei sefydlu yn 2013. Mae'r Cyfeillion a'r gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r ysgol - gan godi arian ychwanegol a gweithio'n galed i gynnal a gwella cyfleusterau yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd i farchogion, ymwelwyr a cheffylau."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd: "Fel grŵp Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd, rydym wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau codi arian gyda'r nod yn y pen draw o gyfrannu at adnewyddu ein harena farchogaeth awyr agored. Rydym wrth ein boddau ac yn llawn cyffro bod y prosiect hwn wedi denu cefnogaeth y Cyngor, a bod y gwaith yn dechrau ddydd Llun. Ffurfiwyd y grŵp yn 2013, a'n nod yw codi ymwybyddiaeth o fodolaeth a manteision yr ysgol farchogaeth, cefnogi'r staff a gwella cyfleusterau yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys helpu i ofalu am y ceffylau a'r merlod a chynorthwyo i gynnal amgylchedd yr ysgol."