Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Gorffennaf - 16 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
20 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 706
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 192.4 (Cymru: 190.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,664
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,816.3
Cyfran bositif: 10.6% (Cymru: 10.6% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 21 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 669,009 (Dos 1: 355,763 Dos 2: 313,246)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent
Mae cymorth ymarferol ar gael gan y Cyngor i aelwydydd sydd wedi cael trafferth talu eu rhent ac sy'n poeni am golli eu cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent cronnol.
Mae cymorth ar gael i bob tenant sy'n cael trafferth talu ei rent, p'un a yw'n cael budd-daliadau ai peidio, gan gynnwys tenantiaid Cymdeithasau Tai, tenantiaid y Cyngor a'r rheini sy'n rhentu gan landlord preifat.
Cynghorir tenantiaid sy'n profi caledi ac anawsterau yn ystod y pandemig i gysylltu â'r Cyngor ar frys i gael gwybod am y ffyrdd amrywiol y gall yr awdurdod eu helpu a'u cefnogi.
Mae help ar gael drwy ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu drwy e-bostio cymorthrhent@caerdydd.gov.uk
Mae'r timau Dewisiadau Tai a Chynghori wedi gweithio gyda'i gilydd i greu pecyn cynhwysfawr i'r rheini sydd wedi cronni ôl-ddyledion rhent neu sy'n ei chael hi'n anodd talu eu hymrwymiadau rhent parhaus.
Bydd aelwydydd ag ôl-ddyledion rhent yn gallu gwneud cais am gymorth ymarferol i leihau eu hôl-ddyledion, yn ogystal â chael cyngor ar wasanaethau'r Cyngor a all helpu i fynd i'r afael â'u pwysau ariannol, fel rheoli arian a chyngor ar ddyledion, gwybodaeth am fudd-daliadau, grantiau a disgowntiau y gallant fod yn gymwys i'w cael, cyfeirio at gymorth gwaith a hyfforddiant a mwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "I lawer o aelwydydd yn y ddinas, y pecyn achub rhent newydd yw'r peth a fydd yn eu helpu i beidio â cholli eu cartrefi. Yn amlwg, mae unigolion a theuluoedd sydd ag ôl-ddyledion rhent oherwydd y pandemig eisoes wedi cael anawsterau mawr felly
rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn eu cartrefi ac i atal hyd yn oed mwy o alw am wasanaethau digartrefedd, sydd eisoes dan bwysau sylweddol.
"Rydym yn gwybod bod yna aelwydydd yn y ddinas nad ydynt erioed wedi bod ar ei hôl hi gyda'u rhent o'r blaen nac wedi ystyried ceisio help bellach mewn ôl-ddyledion oherwydd yr argyfwng. Mae'r cyfnod hwn yn parhau'n un anodd, ond rydym yma i'ch helpu. Nid dim ond i gwsmeriaid sy'n cael budd-daliadau y mae ein help, rydym yma i bawb."
Read more here: