Back
Gorchymyn i breswylydd dalu dros £400 am dipio chwe bag o sbwriel yn anghyfreithlon

19/07/21


Mae Walio Abdullah, 27, o Stryd Pomeroy yn Butetown wedi cael gorchymyn i dalu £433 am dipio chwe bag o wastraff y cartref yn anghyfreithlon y tu allan i fflat ar Hunter Street yn agos i'w gartref.

Daeth yr achos i Lys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf (13 Gorffennaf) ar ôl i Mr Abdullah fethu â thalu hysbysiad cosb benodedig o £300 a roddwyd iddo yn y lle cyntaf ym mis Rhagfyr 2019.

Er bod cynllun talu wedi'i drefnu i Mr Abdullah dalu'r hysbysiad cosb benodedig dros gyfnod o dri mis, ni wnaed taliad, felly paratowyd yr achos ar gyfer y llys.

Yn y cyfweliad honnodd Mr Abdullah nad oedd wedi tipio'r gwastraff yn anghyfreithlon, ond efallai mai ei dad oedd wedi'i wneud - Abdul Abdullah - a ddisgrifiwyd mewn cyfweliad fel 'hen ŵr' sy'n byw yn yr un eiddo ac weithiau'n mynd â'r sbwriel allan o'r tŷ.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon. Mae'n difrodi'r dirwedd ac yn costio swm sylweddol o arian bob blwyddyn i ymchwilio iddo a'i waredu.

"Mae'r preswylwyr i gyd yn cael casgliad gwastraff ymyl y ffordd o'u cartref, fel y gallant wahanu gwastraff a'i roi yn y cynhwysydd cywir i'w gasglu.

"Mae hwn yn achos lle mae rhywun wedi tipio gwastraff yn llythrennol ar stepen ei ddrws ei hun, a'r cyfan y bu'n rhaid i Mr Abdullah ei wneud oedd rhoi'r gwastraff yn ei fin olwynion du.

"Nawr mae wedi costio dros £400 iddo gael gwared ar chwe bag o wastraff cartref, felly gobeithio ei fod wedi dysgu ei wers. Bydd y Cyngor yn parhau i ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ledled y ddinas ac rwy'n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn anfon neges glir nad yw tipio anghyfreithlon yn dderbyniol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n troseddu."

Cafodd Mr Abdullah ei erlyn dan Adran 34(2a) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am 'fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei drosglwyddo'n ddiogel i gludwr gwastraff cofrestredig'. Cafodd ddirwy o £300 a gorchmynnwyd iddo dalu costau ychwanegol o £100 a thâl dioddefwr o £33.