Back
Rhannu adnoddau i adeiladu tai fforddiadwy newydd


 9/7/21

Caiff mwy o gartrefi cyngor newydd eu hadeiladu yng Nghaerdydd os caiff cynlluniau i roi hwb i raglen datblygu tai gyffrous y ddinas eu cymeradwyo'r wythnos nesaf.

 

Argymhellir y dylai'r Cabinet gytuno ar gyfres o gynigion a fyddai'n paratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu mwy o dai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt, gan helpu i fynd i'r afael â'r galw mawr iawn a'r pwysau ar restr aros tai'r ddinas.

 

Bydd y cynigion yn cynnwys y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid cymdeithasau tai, yn unol ag argymhelliad gan Lywodraeth Cymru i gydweithredu mwy i sicrhau yr adeiladir y swm mwyaf posibl o dai cymdeithasol newydd.

 

Yn ei gyfarfod nesaf, bydd y Cabinet yn ystyried:

 

  • Ymrwymo i gytundeb cyfreithiol gyda Chymdeithas Tai Linc i brynu hen safle Tafarn Michaelston oddi ar Drope Road, Trelái;
  • Cymeradwyo mynd i Gytundeb Cydweithredu gyda Chymdeithas Tai Hafod i gyd-ddatblygu hen safle Ysbyty Lansdowne a thir cyfagos sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhreganna i adeiladu 106 o dai fforddiadwy newydd
  • Rhoi cymorth strategol i Gymdeithas Tai Linc o ran dyrannu Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer adeiladu unedau tai cymdeithasol newydd gyda Willis Construction Ltd ar hen safle Morrisons Local ym Mhentwyn.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Llywodraeth Cymru'n annog mwy ogydweithio rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai lle y bo'n ymarferol er mwyn rhannu adnoddau a sicrhau yr adeiladir y swm mwyaf o gartrefi fforddiadwy â phosibl a dyma'n union yr hyn rydym am ei wneud yn y cynigion diweddaraf hyn.

 

"Mae ein targed uchelgeisiol i adeiladu 2,000 o dai cyngor newydd wedi'i osod mewn ymateb uniongyrchol i'r galw cynyddol a wynebwn am dai fforddiadwy yn ein dinas ac er ein bod yn ystyried yr holl gyfleoedd a allwn i adeiladu tai cynaliadwy o ansawdd, mae pwysau'n parhau'n uchel iawn wrth i fwy o bobl ymuno â'r rhestr aros am dai cymdeithasol.

 

"Y newyddion da yw ein bod ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i adeiladu 1,000 o gartrefi erbyn 2022 ac mae ein rhaglen yn gallu adeiladu dwbl y swm hwnnw yn y tymor hwy, drwy nifer o ddulliau cyflawni gan gynnwys y set o gynigion rydym yn eu hystyried yr wythnos nesaf."

 

Mae'r llwybrau cyflawni ar gyfer rhaglen datblygu tai'r Cyngor yn cynnwys Bargeinion Pecyn a arweinir gan ddatblygwyr, rhaglen adeiladu ychwanegol y Cyngor ei hun, prynu eiddo o'r farchnad agored a pharhau â chynllun Cartrefi Caerdydd, sy'n creu 1,500 o gartrefi newydd - 600 ohonynt yn gartrefi cyngor, gyda Wates Residential.

 

Mae'r cynnig i gaffael hen safle tafarn Michaelston yn cysylltu'n uniongyrchol â chynigionRhaglen Cartrefi Caerdyddpresennol y Cyngor ar gyfer safle sy'n ffinio hen Goleg Cymunedol Llanfihangel, lle mae cynlluniau i adeiladutai fforddiadwy i bobl hŷn ac amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer y gymuned ehangach.

 

Bydd modd cynnwys y tir a geir trwy brynu hen safle'r dafarn o Lincyn uwchgynllun ehangach y Cyngor ar gyfer yr ardal, sy'n canolbwyntio ar adeiladu cymysgedd o dai fforddiadwy i bobl hŷn a theuluoedd, a bydd modd hefyd adolygu cynlluniau er mwyn cyflwyno cynnig datblygu mwy cyfannol i ymgynghori arno gyda'r gymuned ehangach.

 

Rhan o gytundeb mewn egwyddor a gyflawnodd y Cyngor gyda Linc ynglŷn â'r caffaeliad hwn yw cynnig bargen pecyn a oedd gynt yn cael ei ystyried gan yr awdurdod i adeiladu 28 o fflatiau newydd ar hen safle Morrisons Local ym Mhentwyn gyda Willis Construction i Linc yn lle hynny, a rhoi cymorth strategol ar gyfer y cynllun.

 

Byddai'r cynnig cydweithio gydaChymdeithas Tai Hafod i ddatblygu tir ar y cyd ar Heol y Sanatoriwm yn Nhreganna yn cynnwys 106 o gartrefi newydd i'r ardal mewn cynllun â dim ond tai cymdeithasol.Caffaelodd Hafod hen safle Ysbyty Lansdown yn 2019 a chaffaelodd y Cyngor lain o dir rhwng Ysgol Treganna a hen safle'r ysbyty yn 2020.

 

Byddai tri deg wyth (40 y cant) o'r cartrefi newydd yn eiddo i'r Cyngor, yn cynnwys 12 o dai tref tair ystafell wely, tri thŷ tref pedair ystafell wely i helpu i ateb y galw mawr yn y ddinas am gartrefi teuluol mwy, a 23 o fflatiau un a dwy ystafell wely. Byddai gweddill y cartrefi yn cael eu rheoli gan Hafod.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae gan ein partneriaid cymdeithasau tai rôl bwysig i'w chwarae o ran helpu i gynyddu swm y tai cymdeithasol sydd ar gael yn y ddinas felly rwy'n falch iawn o'n gweld yn cydweithio mor agos i adeiladu cartrefi newydd o ansawdd da."

 

Caiff yr argymhellion eu hystyried gan y Cabinet ddydd Iau, 15 Gorffennaf.