Back
Datgelu gweledigaeth i wella llwybrau beicio a cherdded Caerdydd



09/07/21

Mae Caerdydd am gynyddu nifer y bobl sy'n cerdded neu'n beicio i'r gwaith o 31% i 43% erbyn 2030.

Datgelwyd gweledigaeth newydd wedi'i diweddaru ar gyfer teithio llesol yn y ddinas gan Gyngor Caerdydd sy'n cynnwys:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am rwydwaith o lwybrau lle byddai llwybrau beicio ar wahân yn ddichonadwy;
  • Gwelliannau wedi'u cynllunio i Lwybr Taf, Llwybr Elái a Llwybr Rhymni
  • Sicrhau bod rhestr flaenoriaeth y cyngor o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd yn cloi i mewncyd-redeg gyda chynlluniau gwella i gerddwyr a llwybrau teithio llesol;
  • Cysylltu 130 o ysgolion y ddinas â'r rhwydwaith teithio llesol; a
  • Parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd i nodi llwybrau teithio llesol newydd yn y ddinas.

Mae cael gweledigaeth 15 mlynedd yn ofyniad statudol i Awdurdodau Lleol o dan y ddeddf Teithio Llesol, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ledled Cymru, ac i benderfynu i le y dyrennir cyllid y llywodraeth. Mae'r cynllun yn cynnwys rhestr o 280 o gynlluniau seilwaith a fydd, os cytunir arnynt, yn sail i gynlluniau o flwyddyn i flwyddyn ledled y ddinas.

Gofynnir am ganiatâd gan Gabinet y Cyngor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol 12 wythnos ar y map wedi'i ddiweddaru cyn ei gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.  Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobl roi eu barn ar gynigion ac awgrymu cynigion ychwanegol y gellid eu hychwanegu at y rhestr derfynol o gynlluniau a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gyda'r map newydd.

Rhyddhaodd Cyngor Caerdydd ei Bapur Gwyn ar Drafnidiaeth ym mis Chwefror 2019, gan nodi strategaeth drafnidiaeth y cyngor am y 10 mlynedd nesaf. Roedd yn cynnwys cynlluniau'r cyngor i adeiladu pum prif feicffordd ar draws y ddinas, wedi'u cysylltu â dolen canol dinas o lwybrau beicio ansawdd uchel.

 Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Ers lansio'r Papur Gwyn ar Drafnidiaeth, bydd pobl wedi gweld llwybrau beicio newydd yn cael eu codi, y cynllun llogi beiciau ar y stryd, NextBike, a'r gwaith parhaus o ddatblygu cynlluniau teithio llesol ar gyfer ysgolion ledled ein dinas.

"Ond rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud i alluogi pobl i wneud teithiau bob dydd ar feic ac ar droed.  Yr ydym i gyd am gael aer glanach ac rydym i gyd am wneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd. Mae gwella opsiynau beicio, cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus i bawb yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor hwn.  Rydym yn ei weld fel modd y gallwn annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref, a fydd yn lleihau tagfeydd, yn glanhau'r aer rydym yn ei anadlu ac yn ein helpu i ddod ychydig yn iachach ac yn hapusach.

"Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r partneriaid niferus ac aelodau o'r cyhoedd a'n helpodd i adeiladu'r mapiau hyn, gyda'r arolwg Commonplace am y tro cyntaf mae gennym gynllun gwirioneddol o'r bôn i'r brig gyda phobl yn dweud wrthym sut y gellir gwella eu teithiau dyddiol."

Mae lansio'r ymgynghoriad ar y Map Teithio Llesol Drafft newydd yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad y bydd ail gam Beicffordd 1 yn cael ei godi. Bydd hyn yn rhedeg o Cathays hyd at Brifysgol Cymru a disgwylir i'r gwaith ddechrau'r hydref hwn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y llwybr beicio newydd hwn yr haf diwethaf. Ymatebodd 876 o bobl i'r arolwg, gyda 57% o bobl o blaid a 23% o bobl yn erbyn y cynlluniau.

Bydd y llwybr yn ymestyn y llwybr beicio presennol a adeiladwyd ar Gilgant Eglwys Andreas a Heol Senghennydd, ac ar hyd Teras Cathays, i Heol yr Eglwys Newydd, i fyny Heol Allensbank i Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda chynlluniau i gwblhau'r llwybr newydd erbyn Gwanwyn 2022. Mae'r cynllun yn cynnwys ail-ddylunio'r briffordd a'r palmentydd yn llwyr, gan wneud y llwybr yn lle llawer mwy diogel a dymunol i gerdded a beicio. Bydd gerddi glaw a choed newydd yn darparu draeniad mwy cynaliadwy i ddiogelu rhag llifogydd lleol, ac yn ychwanegu bioamrywiaeth i un o'r ardaloedd sydd â'r lleiaf o fannau gwyrdd. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieIssueDetails.aspx?IId=27992&PlanId=0&Opt=3#AI25174