Back
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Canada yn Stadiwm y Principality Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf. Gyda'r gic gyntaf yn cael ei

02/07/21


Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Canada yn Stadiwm y Principality Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf.

Gyda'r gic gyntaf yn cael ei chynnal am 3pm, bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau yn llwyr o 12.30pm tan 6pm i sicrhau y gellir cadw pellter cymdeithasol, a gall y rhai sy'n mynychu gasglu eu tocynnau a mynd i mewn i'r stadiwm ar yr adeg y cânt eu cynghori i wneud hynny.

Cynghorir y rhai a fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 12.30pm.

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'u cyffyrdd â Despenser Place i'w cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr.)
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren ar Ffordd Churchill.

Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost - £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig) 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio a Theithio'r Digwyddiad ym Mhentwyn

Ni fydd parcio a theithi oar gyfer y digwyddiad hwn, ond bydd Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd ym Mhentwyn yn gweithredu yn unol a'i oriau gweithredu arferol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://www.cardiffbus.com/

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost - £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bysiau eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas wedi cau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium 

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/ 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer. 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 12.30pm ac yn ailagor am 6pm.