Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 25 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; fersiwn ddigidol Pàs COVID y GIG ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys; a gwasanaeth penwythnos galw heibio dos cyntaf brechlyn COVID-19 yn y Bae.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Mehefin - 20 Mehefin)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

24 Mehefin 2021, 09:00

 

Achosion: 167

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 45.5 (Cymru: 37.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,399

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,199.0

Cyfran bositif: 3.8% (Cymru: 2.9% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  583,557  (Dos 1: 350,576 Dos 2:  232,925)

 

  • 80 a throsodd: 20,952 / 94.5% (Dos 1) 20,211 / 91.1% (Dos 2)
  • 75-79: 15,105 / 96.1% (Dos 1) 14,700 / 93.5% (Dos 2)
  • 70-74: 21,474 / 95.5% (Dos 1) 21,223 / 94.4% (Dos 2)
  • 65-69: 21,917 / 93.9% (Dos 1) 21,218 / 90.9% (Dos 2)
  • 60-64: 25,979 / 92% (Dos 1) 25,357 / 89.8% (Dos 2)
  • 55-59: 29,236 / 89.8% (Dos 1) 28,141 / 86.4% (Dos 2)
  • 50-54: 28,803 / 87.2% (Dos 1) 27,090 / 82% (Dos 2)
  • 40-49: 54,165 / 80.1% (Dos 1) 37,641 / 55.7% (Dos 2)
  • 30-39: 57,495 / 72.2% (Dos 1) 20,830 / 26.1% (Dos 2)
  • 18-29: 73,411 / 71.9% (Dos 1) 16,946 / 16.6% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,961 / 98.2% (Dos 1) 1,917 / 96% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,327 / 93.6% (Dos 1) 10,981 / 90.7% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,752 / 88.8% (Dos 1) 42,420 / 82.4% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Fersiwn ddigidol Pàs COVID y GIG ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys

Bydd pobl sy'n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen [25ain Mehefin] i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.

Mae tystysgrifau brechu wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y bobl sydd angen teithio'n rhyngwladol ar frys, a darparu tystiolaeth o'u statws brechu. Caiff y tystysgrifau eu hanfon yn y post. Bydd tystysgrifau papur yn parhau i gael eu rhoi i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r Pàs digidol. Mae mynediad at Bàs COVID y GIG yng Nghymru'n golygu y bydd tystiolaeth o'r brechlyn ar gael i bobl ei dangos ar eu ffôn, llechen neu liniadur.

Gallwch gael statws brechu COVID os ydych:

  • wedi cael y brechlyn COVID
  • wedi cael eich brechu yng Nghymru
  • yn 16 oed neu'n hŷn

Bydd y pàs digidol yn dangos a ydych wedi cael y brechlyn COVID, er y bydd angen ichi wirio'r gofynion mynediad ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadu teithio iddi, fel nifer y brechiadau, profi ac ynysu, a bydd angen ichi ddilyn y rheolau teithio fel cael prawf cyn teithio.

Gallwch weld eich statws brechu COVID ar-lein ar wefan Pàs COVID y GIG, lle gallwch ei lawr lwytho neu ei argraffu fel dogfen PDF. Dyma'r unig statws brechu digidol dilys sydd ar gael; nid yw unrhyw wasanaethau eraill sy'n honni eu bod yn cynnig tystiolaeth o statws brechu am ffi yn ddilys.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/manteisiwch-ar-bas-covid-y-gig-i-ddangos-eich-statws-brechu-er-mwyn-teithio#section-70614

Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667.

 

Gwasanaeth Penwythnos Galw Heibio Dos Cyntaf Brechlyn COVID-19 yn y Bae

Cynhelir clinigau galw heibio dos cyntaf bob penwythnos yng Nghanolfan Frechu Torfol y Bae (hen safle Toys R Us).

Dewch draw ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul unrhyw bryd rhwng 8am a 4pm, os:

  • nad ydych wedi derbyn dos cyntaf eich Brechlyn COVID-19 eto, a'ch
  • bod yn 18 oed neu'n hyn, ac 
  • yn byw a/neu weithio yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg

Dewch â phrawf adnabod gyda chi, ynghyd â phrawf o gyfeiriad cartref neu fan gwaith yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg.