Back
Gwaith ymchwilio ar gyfer cyfleuster Iechyd a Lles newydd posibl i orllewin Caerdydd


25/6/21 

Bydd ymchwiliadau i safleoedd, a allai baratoi'r ffordd ar gyfer cyfleuster iechyd a lles integredig newydd sbon ar gyfer gorllewin y ddinas, yn dechrau'r wythnos nesaf.

 

Mae'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gydweithio i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles newydd ar gyfer cymunedau Trelái a Chaerau, yn debyg i'r cyfleuster integredig sy'n cael ei godi yn Hyb y Pwerdy yn Llanedeyrn.

 

Er bod y cysyniad yn dal i fod ar gam cynnar iawn, byddai'r cyfleuster yn dod â gwasanaethau iechyd a chymunedol yn agosach at ei gilydd, gan ei gwneud yn haws i bobl leol gael gafael ar wasanaethau sydd eu hangen arnynt.

 

Bydd gwaith ymchwilio yn cael ei wneud ar barcdir y tu ôl i Hyb Trelái a Chaerau oddi ar Ffordd Treseder, o Ddydd Llun 28 Mehefin i nodi unrhyw rwystrau i ddatblygu'r safle yn y dyfodol. Bydd angen cloddio mewn gwahanol leoliadau ond bydd yr holl dir dan sylw yn cael ei adfer ar ddiwedd yr ymchwiliadau.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydym yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar syniad ar gyfer canolfan newydd ac er nad yw'r cynlluniau hyn wedi'u datblygu ar hyn o bryd, mae angen cynnal rhai ymchwiliadau i lywio unrhyw waith dylunio am addasrwydd y tir ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol.  Felly bydd pobl yn yr ardal yn gweld contractwyr ar y tir ger yr hyb presennol.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Pe bai'r cynllun yn mynd rhagddo, bydd yn hwb gwirioneddol i'r gymuned leol gan ddarparu gofod clinigol newydd i feddygon teulu lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, sy'n gallu cynnal amrywiaeth o glinigau iechyd arbenigol - gan ddod â nhw'n nes at y cymunedau sy'n eu defnyddio."

 

Mae'r Hwb Iechyd a Lles arfaethedig yn rhan o weledigaeth y BIP i ddarparu mwy o gyfleusterau gofal iechyd yn nes at adref fel rhan o'i strategaeth Llunio Ein Dyfodol.

 

Bydd dyluniadau arfaethedig a manylion pellach am yr hyn y bydd y cyfleuster yn eu cynnwys yn cael eu cyhoeddi ar ôl i'r cyllid a'r amserlenni ar gyfer y cynllun gael eu cadarnhau.