Back
Newidiadau i’r rheolau parcio am Ddim

22/06/21

Bydd staff y GIG sydd wedi elwa o gael parcio am ddim yn rhai o feysydd parcio'r  cyngor yn ystod y pandemig bellach yn gorfod cofrestru am drwydded ddigidol drwy ap parcio MiPermit y cyngor i barhau i ddefnyddio'r cynllun. 

 

Ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 roedd y cyngor wedi galluogi grŵp ehangach o weithiwyr hanfodol i barcio am ddim.Nawr fod cyfyngiadau'r cyfnod clo yn cael eu llacio ni dderbynnir trwyddedau papur mwyach a dim ond gweithwyr y GIG wrth eu gwaith sy'n gymwys i barcio am ddim.  Bydd rhaid i'r holl weithwyr hanfodol eraill dalu i ddefnyddio meysydd parcio neu fannau parcio talu ac arddangos.

 

Y meysydd parcio sydd ar gael i staff y GIG eu defnyddio yn rhad ac am ddim yw: 

 

Parc y Mynydd Bychan

Gerddi Sophia

Stryd Wellington

Heol Lecwydd

Severn Road

Grey Street

Harvey Street

 

Mae manylion ar sut i wneud cais am gyfleusterau parcio am ddim i staff y GIG wedi'u rhoi i reolwyr y GIG a rheolwyr iechyd y cyhoedd i'w rhannu gyda'u staff. Caiff y cynllun ei adolygu eto ar ddiwedd mis Gorffennaf.