Back
Datganiad gan y Cyngor ar Stryd y Castell

17/06/21


Wrth wneud penderfyniad ar leihau llygredd aer ar Stryd y Castell mae gan y Cyngor nifer o ffactorau y mae angen eu cydbwyso'n ofalus - gan gynnwys:

 1.     A fydd y cynllun aer glân ar gyfer Stryd y Castell yn sicrhau bod y lefelau llygredd ar y stryd hon sydd heb breswylwyr ar y cyfan, o fewn y gofynion cyfreithiol?

2.   A allai lleihau lefelau traffig cyffredinol ar Stryd y Castell arwain at fwy o draffig yn y strydoedd cyfagos, gan gynyddu lefelau llygredd mewn ardaloedd sydd â mwy o eiddo preswyl na Stryd y Castell?

Roedd y Cyngor yn edrych ar ddau opsiwn i wella ansawdd aer ar Stryd y Castell ac mewn rhannau eraill o'r ddinas.

Opsiwn 1:  Caniatáu i lai o gerbydau ddefnyddio'r stryd;

Opsiwn 2:  Caniatáu i fysus, tacsis a beicwyr yn unig ddefnyddio'r stryd.

Mae'r ddau opsiwn hyn yn bodloni gofyniad cyfreithiol rwymol i leihau llygredd ar Stryd y Castell fel y bydd o fewn y terfynau cyfreithiol.

Mae Opsiwn 1 yn copïo'r cynllun sydd yng Nghynllun Aer Glân y Cyngor a gymeradwywyd gan banel arbenigol annibynnol Llywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd gan Weinidogion pan gymeradwywyd y cynllun ym mis Rhagfyr 2019 cyn dechrau'r pandemig.

Fodd bynnag, mae'r modelu diweddaraf, a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr arbenigol sy'n arbenigo mewn trafnidiaeth ac ansawdd aer, yn dangos y gallai lefelau llygredd gynyddu mewn 34 o 42 stryd ac ar lwybrau allweddol i'r ddinas os na chaniateir i geir deithio ar hyd Stryd y Castell mwyach ac os mabwysiadir Opsiwn 2 gan y Cyngor.

Er bod y cynnydd sydd wedi'i fodelu yn yr ardaloedd cyfagos o fewn y terfynau cyfreithiol, cyn i'r Cabinet wneud unrhyw benderfyniad, mae angen ystyried yn ofalus bryderon amlwg ynghylch unrhyw gynnydd mewn llygredd aer mewn ardaloedd preswyl. Bydd hyn er mwyn cyflawni lefelau llygredd is ar Stryd y Castell, sydd wedi'r cwbl yn stryd heb breswylwyr. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gan lawer o'r ardaloedd preswyl hyn lefelau cymharol wael o ansawdd aer yn barod.

Mae pryderon hefyd ynghylch sut olwg fydd ar lif traffig ar ôl dod â'r cyfnod cloi i ben ac ar ôl i bethau ddychwelyd i'r arfer. Os gwelwn gynnydd yn y defnydd o geir o ganlyniad i'r gofynion parhaus i gadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus, yna gallai lefelau llygredd mewn strydoedd preswyl cyfagos gynyddu'n fwy na'r hyn a ragwelir ar hyn o bryd.

O ganlyniad, mae'r Cyngor am gasglu mwy o ddata ar lif traffig ar draws canol y ddinas wrth i gymudwyr ddychwelyd i'r gwaith ac wrth i niferoedd ymwelwyr ddychwelyd i'r arfer ar ôl y pandemig. Bydd y data diweddaraf hwn ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig wedyn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau i leihau llygredd aer a thagfeydd yn y ddinas ymhellach. Mae'r Cyngor hwn wedi ymrwymo i wella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded ar draws y ddinas gan wneud yr aer yng Nghaerdydd yn lanach i bawb anadlu lle bynnag y maent yn byw.

Heddiw dewisodd y Cabinet fabwysiadu opsiwn 1 dros dro tra bod mwy o ddata ar lif traffig a llygredd aer ar ôl y pandemig ar draws y ddinas yn cael ei gasglu. Nid yw'r opsiwn hwn yn golygu ailagor Stryd y Castell fel ag yr oedd cyn COVID.  Dim ond dwy lôn a gaiff eu hailagor i draffig a bydd y lôn fysus tua'r gorllewin a'r feicffordd ddwyffordd ar wahân a osodwyd yn ystod y pandemig yn aros.  Yn ôl y modelu a'r duedd gyfredol o bobl yn parhau i ddewis defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i deithio, dylai hyn leihau lefel y traffig stryd i tua 50% o'r hyn ydoedd cyn Covid yn ystod yr oriau brig.

Byddai hyn yn bodloni gofyniad cyfreithiol rwymol i leihau llygredd ar y stryd i derfynau derbyniol yn yr amser byrraf posibl ac mae'n cynrychioli cynllun gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ffordd fel y nodir yn y Cynllun Aer Glân a gynhyrchwyd gan Gyngor Caerdydd ac a gymeradwywyd wedyn gan Lywodraeth Cymru yn 2019.

O ystyried natur drosiannol y cynllun, ni fydd Opsiwn 1 ar gyfer Stryd y Castell yn dibynnu ar arian Aer Glân gan Lywodraeth Cymru a gellir ei ariannu trwy gyllidebau presennol sy'n ymwneud â Phriffyrdd.