Back
Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth


9/6/21 

Mae Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a sefydlwyd i ddelio ag anghydraddoldeb hiliol ledled Caerdydd wedi rhyddhau ei set gyntaf o argymhellion.

 

Mae'r Tasglu, a gynigiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU, wedi bod yn gweithio ar gyfres o gynigion i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd.

 

Mae'r set gyntaf o argymhellion yn cynnwys:

 

  • Codi ymwybyddiaeth o asiantaeth gyflogaeth y cyngor, 'Caerdydd ar Waith' ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig;
  • Cynnal cyfres o wasanaethau Cyngor i Mewn i Waith gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad lleiafrifoedd ethnig ac sy'n gysylltiedig â chyfleoedd Caerdydd ar Waith;
  • Darparu cynllun mentora a dilyniant gyrfa ar gyfer gweithwyr presennol y cyngor;
  • Gwella gweithdrefnau mewn ysgolion ar gyfer adrodd am fwlio a throseddau casineb a'u cofnodi;
  • Galluogi ysgolion i ymuno â'r rhwydwaith 'Ysgolion Noddfa';
  • Dod yn llofnodwr Maniffesto Cynghrair Hil Cymru;
  • Prosiect Ymgysylltu Democrataidd Pobl Ifanc: Creu cynllun sy'n annog pobl ifanc, dosbarth gweithiol, i ddatblygu sgiliau arwain a'r hyder i gymryd rôl arweiniol wrth gynrychioli eu cymunedau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Er bod gan Gaerdydd hanes balch o amlddiwylliannaeth, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, mae digwyddiadau yn ddiweddar wedi dangos i ni na allwn ganiatáu i ni ein hunain fyth ddod yn hunanfodlon. Mae pobl o liw yn ein dinas sy'n wynebu hiliaeth fel nodwedd o'u bywydau bob dydd ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Sefydlwyd y Tasglu i gyflwyno argymhellion a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd a chyflogaeth ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym am i bawb yn ein dinas deimlo'n ddiogel a chael yr un cyfleoedd i wneud bywyd gwell iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd waeth beth fo'u hil neu liw eu croen. Rwy'n credu bod y cynigion cychwynnol hyn, a dim ond y dechrau yw hyn, yn dechrau proses ymarferol a fydd yn helpu i sicrhau canlyniadau go iawn a chadarnhaol."

 

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Pan sefydlon ni'r Tasglu, gwnaethom yn glir ein bod am ddod o hyd i atebion ar gyfer y gwahaniaethu a'r anfanteision y mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd yn eu hwynebu. Anfanteision a amlygwyd yn drasig gan bandemig COVID. Yn dilyn ein trafodaethau cychwynnol, rydym wedi canolbwyntio ar geisio cyflwyno atebion ymarferol a all helpu pobl i mewn i waith a chynnig llwybr gyrfa iddynt unwaith y byddant yn sicrhau gwaith. Rydym hefyd wedi ystyried sut y gallwn wella bywydau pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn yr ysgol a bod ganddynt hyder i siarad am y problemau y maent yn eu hwynebu. Os ydym am newid sefyllfa cydraddoldeb hiliol, yna mae angen i bobl gael yr un cyfleoedd mewn bywyd, a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."

 

Mae 10 cam ym Maniffesto Cynghrair Hil Cymru i wireddu Cymru Gwrth-Hiliol, gan gynnwys: yr angen cydnabod hiliaeth gyfundrefnol; yr angen gwella casglu, monitro a defnyddio data ethnig fel y gellir monitro anghydraddoldeb hiliol a newid polisi ac ymarfer i fynd i'r afael â hiliaeth mewn addysg, cyflogaeth, cynrychiolaeth, iechyd a thai.

 

Mae'r rhwydwaith Ysgolion Noddfa yn fudiad sydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o barch, lletygarwch a chroeso i bawb, yn enwedig ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Bydd ysgolion Caerdydd sy'n ymuno â'r cynllun yn cael cynnig pecyn o fesurau a fydd yn cynnwys: hyfforddiant staff a llywodraethwyr, adnoddau, cynnig siaradwyr gwadd a gweithdai disgyblion.

 

Nod y Prosiect Ymgysylltu Democrataidd Pobl Ifanc yw grymuso pobl ifanc dosbarth gweithiol i ddatblygu sgiliau arwain a magu hyder i gefnogi eu cymunedau drwy ddarparu addysg ddemocrataidd effeithiol a fydd yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae cynnig arall a gyflwynwyd yn cynnwys casglu data ar draws y maes democrataidd/gwleidyddol gan gynnwys ymgysylltu democrataidd â phobl ifanc 16-17 oed yn etholiad diweddaraf y Senedd, er mwyn gwella niferoedd pleidleisio yn y dyfodol yn y grŵp oedran hwnnw a dysgu gan arfer da.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Ebrahim: "Megis dechrau'r gwaith y mae'r Tasglu wedi bwriadu ei wneud yw hyn. Hoffwn ddiolch i bawb o'n cymunedau sydd wedi cymryd rhan, gan ein helpu i ffurfio syniadau a gwireddu cynllun gweithredu ymarferol. Byddwn yn dechrau gweithio ar y camau gweithredu hyn ar unwaith ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno argymhellion uchelgeisiol pellach yn y misoedd a ddaw."