Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 12 Ebrill

12/04/21

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, gwybodaeth am Gastell Caerdydd a Marchnad Caerdydd; a chyngor ar deithio i Gaerdydd, wrth i siopau nad ydynt yn siopau hanfodol ailagor yng nghanol y ddinas.

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd lechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro- 12 Ebrill

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 302,407(Cyfanswm ddoe:3,349)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal:4,346 (Dos 1)3,815(Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,180(Dos 1)1,835(Dos 2)
  • 80 a throsodd:19,163(Dos 1)6,556(Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen:27,102(Dos 1)22,864(Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol:9,769(Dos 1)7,598(Dos 2)
  • 75-79:14,158(Dos 1) 2,203(Dos 2)
  • 70-74: 20,484(Dos 1)16,437(Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed:9,686 (Dos 1)7,598(Dos 2)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69:17,292(Dos 1)801(Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:43,516(Dos 1)3,870(Dos 2)
  • 60-64:13,342(Dos 1)3,194(Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (1Ebrill-7Ebrill)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

11Ebrill2021, 09:00

 

Achosion: 116

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 31.6 (Cymru:17.5achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,309

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 901.9

Cyfran bositif: 3.5% (Cymru:2%cyfran bositif)

 

Marchnad Caerdydd yn ailagor I gwsmeriaid (a'u cŵn)

 

Mae Marchnad Caerdydd yn ail-agor heddiw (12 Ebrill) gydag amrywiaeth o stondinau yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel ac, fel rhan o dreial newydd a gynlluniwyd i ddenu mwy o gwsmeriaid, eu cŵn.

Mae'r mesurau sydd ar waith i sicrhau diogelwch cwsmeriaid yn cynnwys:

  • system un ffordd
  • mesurau ymbellhau cymdeithasol
  • gofyniad i wisgo masg
  • gorsafoedd diheintio dwylo.

Mae nifer o stondinau newydd hefyd yn agor ym Marchnad Caerdydd, gan gynnwys: Spirit Infusions; Casa Agape;a Bloomfield Handmade.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26313.html

 

Tiroedd Castell Caerdydd yn ailagor fel mannau cyhoeddus am ddim


Mae tiroedd Castell Caerdydd wedi ailagor heddiw (dydd Llun 12 Ebrill), fel man cyhoeddus â mynediad am ddim.

Bydd gwasanaeth caffi tecawê ar gael ar y tir ac mae croeso i ymwelwyr ddod â phicnic ac ymlacio yn erbyn tirnod mwyaf eiconig Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae tŵr y castell a'r prif dŷ yn dal ar gau o dan reoliadau'r Coronafeirws, ond mae tîm y Castell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'r tiroedd, am ddim, i fwynhau rhywfaint o fannau gwyrdd ychwanegol gwerthfawr yng nghanol y ddinas."

Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt fod ar dennyn. Mae raciau beiciau ar gael ar dir y Castell i ddarparu diogelwch ychwanegol i unrhyw un sy'n beicio i ganol y ddinas.

Oriau agor y Castell yw Lluniau (10am-4pm) a Gwe-Sul (9am - 6pm).

Mae tŵr y castell a'r prif dŷ yn parhau ar gau i ymwelwyr o dan ddeddfwriaeth y Coronafeirws.

 

Manwerthu nad yw'n hanfodol yn agori'r cyhoedd yng Nghaerdydd heddiw - dydd Llun Ebrill 12

 

Croeswir ymwelwyr a thrigolion i Ganol Dinas Caerdydd heddiw wrth i fanwerthu nad yw'n hanfodol gael y golau gwyrdd i ailagor i'r cyhoedd.

Wrth i'r siopau wneud eu cynlluniau i agor eu busnesau dros yr wythnosau diwethaf, mae staff o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn ymweld â'r safleoedd hyn i roi cyngor ac arweiniad ar sut y gall siopau yng nghanol y ddinas weithredu'n ddiogel yn unol â chyfyngiadau parhaus COVID.

Bydd stiwardiaid hefyd yn gweithio ar y stryd i helpu busnesau manwerthu i reoli'r cyhoedd sy'n ciwio i fynd i mewn i'r siopau.

O ystyried nifer y bobl yr ydym yn disgwyl iddynt ddod i Gaerdydd, wrth i'r ddinas ddechrau ailagor, anogir pawb sy'n gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded, yn gryf i wneud hynny. Gellir gweld yr holl wybodaeth am amserlenni a gwasanaethau ar wefan Traveline Cymruyma.

Fel arall, os ydych yn teithio mewn car, ystyriwch y cyfleuster Parcio a Theithio ym Mhentwyn, neu'r cyfleuster Parcio a Cherdded o Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Mae canllaw llawn i ymwelwyr ar sut i deithio i Gaerdydd ar gael ar wefan Croeso Caerdyddyma.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26317.html