Back
Ymgynghoriad ar Gynllun Peilot Talu ac Arddangos Rhodfa Lloyd George


06/04/21

Mae Cyngor Caerdydd wedi agor ymgynghoriad ar gynllun arfaethedig i gyflwyno parcio talu ac arddangos ar Rodfa Lloyd George, yn Butetown.

 

Mae'r newid arfaethedig yn golygu cau'r lôn fewnol sy'n mynd tua'r gogledd o Fae Caerdydd i ganol y ddinas, er mwyn creu'r mannau parcio 'trwyn i gynffon' newydd. Byddai ochr bresennol Rhodfa Lloyd George tua'r de, o ganol y ddinas i Fae Caerdydd, yn cael ei hagor i draffig ei defnyddio i'r ddau gyfeiriad.

 

Byddai mesurau tawelu traffig yn cael eu cyflwyno ar y lôn tua'r gogledd a fyddai'n cael ei defnyddio i gael mynediad i'r mannau parcio newydd. Byddai hyn yn rhwystro pobl rhag gyrru'n rhy gyflym, ac yn annog gyrwyr i beidio â'i defnyddio fel llwybr drwodd i ganol y ddinas.

Byddai gan y cynllun arfaethedig 92 o fannau Talu ac Arddangos, gyda lle ychwanegol i ryw 14 o gerbydau, ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Byddai newid y ffordd mae'r ffyrdd yn cael eu defnyddio yn creu cyfleuster parcio newydd i ymwelwyr â Bae Caerdydd a chanol y ddinas. Mae Rhodfa Lloyd George fel arfer yn dawel iawn, sy'n gallu arwain at oryrru a gyrru gwrthgymdeithasol arall, a byddai'r newidiadau hefyd yn creu cynllun ffordd addas at yr amgylchedd preswyl."

 

Byddai bysiau'n parhau i ddefnyddio Rhodfa Lloyd George, gyda safleoedd newydd wedi'u cynnwys yn y dyluniadau. Byddai angen ardal fach o'r llain ganol i greu un o'r safleoedd bws, a byddai gweddill y mannau gwyrdd ar hyd y llwybr yn cael eu cadw. Byddai'r croesfannau i gerddwyr i gyd yn cael eu cadw hefyd, ynghyd â'r cyffyrdd fel y maen nhw ar hyn o bryd.

 

Byddai'r rhan o'r lôn sy'n mynd tua'r de ar Rodfa Lloyd-George, ac sydd â thraffig dwy-ffordd, yn rhedeg rhwng y cyffyrdd â Stryd Tyndall a Heol Hemingway. Byddai'r parcio arfaethedig ar yr ochr tua'r gogledd yn dechrau wrth gyffordd Ffordd Garthorne.

 

Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 21 Ebrill 2021. Mae manylion llawn ar gael ar-lein ymaYmgynghoriadau (cardiff.gov.uk), a gellir cyflwyno sylwadau drwy e-bostioProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk.