Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a dyddiaduron ‘Diff Un Flwyddyn yn Ddiweddarach, ffilm fer yn dangos hanesion o fywyd dan glo.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 29 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:247,556(Cyfanswm ddoe: 4,570)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Mawrth - 24 Mawrth)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
28 Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 123
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 33.5 (Cymru: 38.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,566
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,517.0
Cyfran bositif: 2.2% (Cymru: 2.8% cyfran bositif)
Dyddiaduron ‘Diff Un Flwyddyn yn Ddiweddarach: Ffilm fer yn dangos hanesion o fywyd dan glo
Mae profiadau ac emosiynau plant yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws wedi cael eu cofnodi mewn ffilm fer.
Flwyddyn ar ôl dechrau'r cyfnod clo ledled y wlad fis Mawrth diwethaf pan gaeodd ysgolion, dechreuodd addysg gartref ac roedd angen i aelwydydd aros gartref, mae'r prosiectDyddiaduron ‘Diff- a wahoddodd bobl ifanc ar draws y ddinas i ddogfennu sut roedd eu bywydau wedi newid trwy gydol y pandemig, wedi arwain at fideo 30 munud sy'n cyflwyno'r cyfraniadau.
Lansiwyd y prosiect gan Addewid Caerdydd, menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth o ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc i lunio twf swyddi yn y dyfodol. Cefnogwyd y prosiect gan Screen Alliance Wales, Cymdeithas Adeiladu'r Principality a Phrifysgol De Cymru.
Gwahoddwyd plant a phobl ifanc i gyflwyno dyddiadur fideo byr, gludwaith lluniau neu gofnodion dyddiadur ysgrifenedig yn dangos sut yr oeddent yn cadw'n brysur, y sgiliau newydd yr oeddent yn eu datblygu o gartref a sut yr oeddent yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a ffrindiau er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu profiadau yn ystod y cyfnod heriol hwnnw.
Mae ffilm fer bellach wedi'i chynhyrchu gan fyfyrwyr cynhyrchu cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru, un o bartneriaid y prosiect, i ddathlu'r prosiect a phawb a gyfrannodd ato. Bydd darnau o'r ffilm fer yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac Addewid Caerdydd. Gellir gweld y fersiwn lawn yma: https://www.youtube.com/watch?v=jDj53UcGzug
Gan weithio gydag Amgueddfa Caerdydd, bydd y fideos hefyd yn cael eu cadw i helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall sut beth oedd byw yn y cyfnod digynsail hwn i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd. Bydd yr agwedd hon ar y prosiect yn cael ei datblygu pan fydd yr amgueddfa'n gallu ailagor eto.
Darllenwch fwy yma: