Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 17 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; Caerdydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill statws Sefydliad Llythrennedd Carbon; a lansio her coginio iach.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 17 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:199,912(Cyfanswm ddoe: 4,026)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,228 (Dos 1) 3,197 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,134 (Dos 1) 1,154 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 19,030 (Dos 1) 387 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 25,268 (Dos 1) 19,144 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,898 (Dos 1) 5,641 (Dos 2)
  • 75-79: 14,071 (Dos 1) 1,143 (Dos 2)
  • 70-74: 20,249 (Dos 1) 6,159 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,346 (Dos 1) 2,897 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 16,869 (Dos 1) 334 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 24,722 (Dos 1) 1,676 (Dos 2)
  • 60-64: 10,830 (Dos 1) 423 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Mawrth - 12 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

16 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 126

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 34.3 (Cymru: 42.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,382

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,194.3

Cyfran bositif: 2.9% (Cymru: 3.9% cyfran bositif)

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 17.03.21

Ysgol Gynradd Gabalfa

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gabalfa. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a dau aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. 

Ysgol Gynradd Pontprennau

Mae 21 achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Pontprennau. Mae tri aelod o staff ac 80 o ddisgyblion o'r Dosbarthiadau Derbyn a Meithrin wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Caerdydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill statws Sefydliad Llythrennedd Carbon

Mae Cyngor Caerdydd wedi dod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael ei gydnabod fel Sefydliad Llythrennedd Carbon gan elusen garbon isel The Carbon Literacy Trust.

Fel rhan o'r broses achredu ar gyfer y dyfarniad lefel efydd mae'n rhaid i raglen hyfforddi Llythrennedd Carbon cael ei chreu a'i chofrestru gyda'r Prosiect Llythrennedd Carbon yn barod i'w chyflwyno i staff, ac mae'n rhaid i o leiaf un uwch aelod o'r sefydliad fod wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn a llwyddo.

Yn dilyn hyfforddiant cymeradwy'r Prosiect Llythrennedd Carbon a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd gan yr elusen datblygu cynaliadwy Cynnal Cymru, mae tri aelod Cabinet Cyngor Caerdydd ar flaen y gad yn strategaeth Caerdydd Un Blaned Caerdydd ar gyfer dinas sy'n garbon niwtral: Mae'r Cynghorydd Caro Wild (Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth), yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael, a'r Cynghorydd Chris Weaver (yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad), a staff o wasanaethau ar draws y sefydliad, wedi'u hardystio fel wedi llwyddo o ran Llythrennedd Carbon.

Os caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno ymhellach, a bod canran sylweddol o gyflogeion wedi'u hardystio fel rhai sy'n llythrennog o ran carbon, gallai'r Cyngor fynd ymlaen i ennill statws Arian.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae hyfforddiant Llythrennedd Carbon wedi'i gynllunio i newid y ffordd rydym yn gweithredu, ac yn ein helpu i feddwl o ddifri am ein hallyriadau carbon. Mae gwaith da eisoes yn cael ei wneud gan y Cyngor yn y maes hwn - mae allyriadau carbon uniongyrchol wedi gostwng 45% ers 2005 ac rydym yn gweithio'n galed i'w lleihau ymhellach. Bydd y dysgu hwn yn gwella'r gwaith hwnnw, ond bydd hefyd yn parhau i'n bywydau fel trigolion unigol gyda chyfraniad i'w wneud wrth i Gaerdydd ymdrechu i ddod yn ddinas garbon niwtral, Un Blaned."

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/26126.html

 

Lansio her coginio iach

Mae'r chwiliad wedi dechrau i ddod o hyd i gogyddion iach gorau Caerdydd mewn her newydd a lansiwyd gan Dîm Cyngor Ariannol a Gwasanaeth Dysgu Oedolion y Cyngor.

Bydd hanner cant o aelwydydd ar draws y ddinas yn cael y dasg o baratoi'r prydau iach gorau yn seiliedig ar ryseitiau iachus a maethlon a ddatblygwyd gan diwtoriaid Dysgu Oedolion.

Bydd pob egin gogydd yn derbyn blwch o gynhwysion iach ac offer coginio wedi'i anfon i'w gartref er mwyn iddo/iddi allu creu cyflenwad wythnos o brydau teuluol blasus trwy ddilyn y tiwtorialau fideo ar-lein a wneir gan Dysgu Oedolion, neu'r cardiau ryseitiau economaidd hawdd eu dilyn sydd wedi'u hamgáu.

Mae'r her wedi'i hwyluso trwy gyllid Llywodraeth Cymru fel rhan o'r dull Adeiladu Cymru Iachach trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y cytunwyd arno gan ein partneriaethau strategol lleol, sy'n ceisio trawsnewid iechyd a lles trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yr her goginio yn hybu arferion coginio a bwyta iach ymhlith preswylwyr sy'n cymryd rhan oherwydd bydd pob pryd bwyd yn cael ei ddewis yn ofalus ar sail ei werthoedd maethlon yn ogystal â'i gost-effeithiolrwydd.

Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk neu ffonio 029 2087 1071.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae ein her coginio iach yn ffordd wych o ennyn diddordeb trigolion ledled y ddinas mewn bwyta'n iach a choginio, er mwyn helpu i gefnogi eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Byddwn yn darparu'r holl gynhwysion sydd eu hangen ar bobl i goginio prydau maethlon i deulu o bedwar ac rydym yn gofyn iddynt anfon lluniau atom fel y gallwn farnu pa brydau bwyd sy'n edrych orau - yn anffodus, ni allwn gynnal profion blasu ar hyn o bryd!"

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/26120.html