Back
Datgelu manylion Cynllun Trafnidiaeth Cwr y Gamlas a Dwyrain Caerdydd

Gofynnir i drigolion Caerdydd am eu barn ar gynlluniau ar gyfer cwr camlas newydd a chyffrous yng nghanol y ddinas ac ar Gynllun Trafnidiaeth Dwyrain Caerdydd a fydd yn rheoli opsiynau traffig o amgylch rhannau o'r ddinas.

Gallai'r prosiect newydd gynnwys ailfodelu Boulevard de Nantes; Stuttgarter Strasse; Plas Dumfriesa Rhodfa'r Orsaf, gan ddisodli rhwydwaith ffyrdd 'hen ffasiwn' tra'n gwella cysylltiadau cerdded a beicio yn sylweddol rhwng y ganolfan ddinesig yn Neuadd y Ddinas, Stryd y Castell a chanol y ddinas.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys cam cyntaf y broses o ailagor camlas gyflenwi'r dociau ar Ffordd Churchill a chreu sgwâr cyhoeddus a man digwyddiadau newydd - a fydd yn cael eu hadeiladu oddi ar Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin.

Ym mis Mai y llynedd dechreuodd y Cyngor broses ymgysylltu â'r cyhoedd ar wella ansawdd aer yng nghanol y ddinas yn sylweddol - fel rhan o'i Brosiect Aer Glân. Lluniwyd cynlluniau i leihau lefelau traffig a Nitrogen Deuocsid (N02), yn benodol yn Stryd y Castell, tra'n gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ac yn creu llwybrau penodol i feicwyr a cherddwyr.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Ers i'r ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd ddechrau ym mis Mai y llynedd, mae'r Cyngor wedi ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i lunio'r dyluniad manwl ac rydym bellach mewn sefyllfa i ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cynllun terfynol. Wedi i ni ymgysylltu â'r cyhoedd, rydym yn gobeithio dechrau ar y safle yn haf 2021."

Byddai'r cynllun a fydd yn costio £13m i'w adeiladu, ac sy'n cynnwys £3m o arian y Fargen Ddinesig, yn cynnwys cynllun ffordd newydd ar hyd Boulevard de Nantes; ar i Stuttgarter Strasse; Plas Dumfries a Rhodfa'r Orsaf. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu llwybr beicio parhaol ar wahân; â llwybrau blaenoriaeth newydd i fysus; a phalmentydd ehangach i wella mynediad a diogelwch i gerddwyr.

 

Mae Prosiectau Cynllun Trafnidiaeth Dwyrain Caerdydd yn cynnwys:

Cam cyntaf Cwr y Gamlas:

Caiff camlas gyflenwi'r dociau ar Ffordd Churchill ei hailagor cyn y gyffordd â Stryd Ogleddol Edward hyd at Heol-y-Frenhines, er mwyn creu cyrchfan canol y ddinasa man cyhoeddusgwyrdd ac agored newydd.  Bydd y cynllun yn helpu i adfywio'r rhan hon o ganol y ddinas.

Caiff seddi ar ffurf amffitheatr, coed a phlanhigion gwyrdd newydd eu gosod, gyda phontydd troed wedi'u hadeiladu ar draws y gamlas fel y gall pobl fynd o un ochr Ffordd Churchill i'r llall. Mae nodwedd ddŵr newydd hefyd yn cael ei chynnig ar gyfer y safle, yn ogystal ag ardal fwyta alfresco wedi'i gorchuddio â phergola, a llwyfan ar gyfer digwyddiadau a pherfformiadau.

Caiff technegau draenio newydd eu defnyddio ym mhob rhan o'r cynllun a fydd yn gwella problemau draenio dŵr wyneb yn sylweddol. Caiff mannau parcio newydd i feiciau eu gosod ar ben deheuol Ffordd Churchill. Caiff y safle tacsis ei adleoli ymhellach i lawr Ffordd Churchill, ar ochr arall y gyffordd â Stryd Ogleddol Edward.

 

Sgwâr Cyhoeddus newydd:

Caiff man agored cyhoeddus newydd ei ddatblygu oddi ar Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin, a fydd yn gwella'r ardal yn sylweddol. Caiff y danffordd a ddefnyddir i gyrraedd Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig ei llenwi i greu croesfan newydd, fawr i gerddwyr ar yr un lefel â'r sgwâr cyhoeddus er mwyn cyrraedd Boulevard de Nantes, gan gysylltu'r gofod cyhoeddus newydd â'r ganolfan ddinesig gan ddefnyddio palmentydd newydd drwyddi draw. 

Caiff planhigion â blodau trwy gydol y flwyddyn eu plannu er mwyn gwella gwyrddni'r ardal a chaiff system draenio dinesig cynaliadwy ei gosod a fydd yn defnyddio gerddi glaw sy'n debyg i'r rhai a ddefnyddir yn rhan o brosiect penigamp Grangetown Werddach.

Mae cynlluniau i gynnwys siop goffi ac ardal fwyta awyr agored newydd yn yr ardal hefyd. Caiff seddau ychwanegol eu rhoi o amgylch y man cyhoeddus a allai hefyd gynnwys stondinau marchnad ar ddiwrnodau digwyddiadau.

 

Cynllun Trafnidiaeth Dwyrain Canol y Ddinas

 

Er mwyn ailfodelu Boulevard de Nantes, Stuttgarter Strasse, Plas Dumfries a Rhodfa'r Orsaf, caiff lonydd traffig eu hail-leoli a chaiff beicffordd â dwylôn ar wahân eu hadeiladu ar hyd y cynllun.  Bydd y feicffordd hon wedyn yn cysylltu â'r feicffordddros dro bresennol sy'n cael ei hadeiladu ar Heol Casnewydd, hyd at y gyffordd â Heol Lydan (Broadway).

Caiff safleoedd bysus bio-amrywiol eu gosod gyda blodau gwyllt wedi'u plannu ar eu toeau er mwyn denu gwenyn a phryfed eraill.  Caiff croesfannau mwy a diogelach i gerddwyr eu gosod ar hyd yr ailddatblygu ar y rhan hon o'r lôn gerbydau a chaiff cyffyrdd pob ffordd gyfagos eu gwella.

Ail-gyfeirio traffig ar Rodfa'r Orsaf:

Oherwydd y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r rhwydwaith ffyrdd, bydd newidiadau o ran sut mae pobl yn cyrraedd yr ardal mewn car preifat. Bydd pob mynediad i Ffordd Churchill o'r pen deheuol ar hyd Stryd Adam a Rhodfa Bute.

Gellir cyrraedd yr holl feysydd parcio ar Rodfa'r Orsaf - gan gynnwys y bloc preswylwyr a Neuadd y Seiri Rhyddion - o'r pen gogleddol ar hyd Heol Casnewydd a Phlas Dumfries a bydd "porth bysus" yn cyfyngu ar fynediad ar ôl y troad i faes parcio Neuadd y Seiri Rhyddion.

Hefyd caiff y mynediad i'r ardal i gerddwyr ar Heol-y-Frenhines ei newid yn rhan o'r cynllun, gan y bydd y prif bwynt mynediad yn symud o'i leoliad presennol, ar gyffordd Plas Dumfries, i Windsor Place. Bydd yr amseroedd ar gyfer cludiadau'n parhau rhwng canol nos a 10am a phan fydd cerbydau'n gadael yr ardal, bydd angen iddynt adael trwy'r allanfa ar ochr orllewinol Heol-y-Frenhines.

Blaenoriaethau a Gwelliannau i Fysus:

Bydd lonydd blaenoriaeth i fysus ar Rodfa'r Orsaf, Ffordd Churchill a Rhodfa Bute yn cynnig llwybrau newydd ac uniongyrchol i fysus ddefnyddio'r gwelliannau trafnidiaeth yma a gynlluniwyd:

  1. Parcio a Theithio/Cylch Byr Rhanbarthol: Cylch byr newydd ac yn ôl i Rodfa'r Orsaf a Ffordd Churchill, gan ollwng a chasglu wrth Orsaf Drenau Heol-y-Frenhines a Ffordd Churchill
  2. Llwybr Bysus Newydd i'r Gyfnewidfa Drafnidiaeth a'r Metro Canolog newydd
  3. Llwybr Traws-ddinas newydd - Trwy ddwyrain a de Canol y Ddinas
  4. Blaenoriaeth newydd i fysus ar Ddiwrnodau Digwyddiadau - bydd bysus yn gallu defnyddio'r ardal a'r gyfnewidfa fysus newydd i weithredu yn ystod diwrnodau gemau.

https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/dwyrain-canol-y-ddinas/