Back
Diweddariad COVID-19: 14 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Rhagfyr - 09 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

13 Rhagfyr

 

Achosion: 1,827

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 498.0 (Cymru: 450.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,689

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,640.8

Cyfran bositif: 18.9% (Cymru: 19.5% cyfran bositif)

 

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng:

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 14.12.20

Ysgol Gynradd Albany

Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Albany wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a dau aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Llwynbedw

Mae disgybl Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Llwynbedw wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 29 o ddisgyblion i hunanynysu am 10 diwrnod. 

Bryn y Deryn

Mae tri aelod staff yn Bryn y Deryn wedi cael profion Covid-19 positif. Mae 28 disgybl a phedwar aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.

Ysgol Gwaelod y Garth

Mae disgybl Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gwaelod y Garth wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 80 o ddisgyblion (cysylltiadau Dosbarth Derbyn ynghyd â chysylltiadau ar y bws) a phum aelod o staff i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae pump aelod o staff yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae dau ddisgybl Blwyddyn 9 a chwech aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Herbert Thompson

Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 27 o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.   

Ysgol Gynradd Kitchener

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Kitchener wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 6 ac un aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Marlborough

Mae disgybl Dosbarth Derbyn, disgybl Blwyddyn 1 a disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Marlborough wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 90 o ddisgyblion ac wyth aelod o staff i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Oakfield

Mae disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Oakfield wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 28 o ddisgyblion a thri aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Pencaerau

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Pencaerau wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae 17 o ddisgyblion Blwyddyn 1 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Parc y Rhath

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 55 o ddisgyblion dosbarth derbyn i hunanynysu am 10 diwrnod.   

Ysgol Gynradd Radur

Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Radur wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 60 o ddisgyblion ac un aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

Mae disgybl Blwyddyn 9 ac aelod o staff yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 174 o ddisgyblion a thri aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10.

Ysgol Gynradd Gatholig San Pedr

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd San Pedr wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 70 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a phum aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 16 o ddisgyblion meithrin i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Severn

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Severn wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a phum aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Springwood

Mae disgybl Blwyddyn 5 yn y Ganolfan Adnoddau ASD yn Ysgol Gynradd Springwood wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 27 o ddisgyblion ac 14 aelod staff i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen

Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 57 o ddisgyblion a dau aelod staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 29 o ddisgyblion wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.

Ysgol Gynradd Windsor Clive

Mae disgybl ym Mlwyddyn 2 a disgybl ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Windsor Clive  wedi derbyn prawf COVID-19 positif. Mae 58 o ddisgyblion wedi ei cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod.