Back
Diweddariad COVID-19: 9 Rhagfyr

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; a Sefydlu Uned Brofi Symudol yn, Grangetown.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (30 Tachwedd - 06 Rhagfyr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

08 Rhagfyr

 

Achosion: 1,534

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 418.1 (Cymru: 351.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 8,682

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,366.3

Cyfran bositif: 17.7% (Cymru: 16.7% cyfran bositif)

 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 09.12.20

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 33 disgybl o Flwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Gynradd Kitchener

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Kitchener. Mae 29 o ddisgyblion o'r Dosbarth Derbyn a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

 

Ysgol Gynradd Pentyrch

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pentyrch. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 2 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Uwchradd Cantonian

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cantonian. Mae 7 o ddisgyblion o'r Ganolfan Gymorth a 2 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Ysgol Uwchradd Corpus Christi

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Mae 34 disgybl o Flwyddyn 9 ac 1 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.    


Ysgol Hamadryad

Oherwydd argaeledd staff, bydd dosbarthiadau derbyn yn aros gartref. Bydd hyn yn cael ei adolygu os bydd lefelau staffio yn gwella.

 

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Mae dau achos cadarnhaol o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Gofynnwyd i 260 o ddisgyblion o Flwyddyn 7 a Blwyddyn 12 aros gartref tra bod olrhain cysylltiadau yn cael ei wneud.

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant. Mae 255 o ddisgyblion o Flynyddoedd 8, 9, 12 ac 13 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Sefydlu Uned Brofi Symudol COVID-19 yn Nhrem y Môr, Grangetown

Mae Uned Brofi Symudol COVID-19 dros dro wedi'i sefydlu yn Grangetown mewn ymateb i gynnydd o 75 y cant yn nifer yr achosion ledled Caerdydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Wedi'i lleoli yn y maes parcio cyhoeddus ar Jim Driscoll Way, mae'r uned brofi dros dro ar agor rhwng 9am a 3pm, gan weithredu ar y diwrnodau canlynol:

  • Dydd Mercher 9 - Dydd Gwener 11 Rhagfyr
  • Dydd Mercher 16 - Dydd Gwener 18 Rhagfyr
  • Dydd Mawrth 22 - Dydd Iau 24 Rhagfyr
  • Dydd Mawrth 29 - Dydd Iau 31 Rhagfyr
  • Dydd Mercher 6 - Dydd Gwener 8 Ionawr

 

Mae'r uned yn agored i drigolion lleol sy'n dangos symptomau COVID-19 ar sail apwyntiad,naill ai drwy ffonio 119 neu ymweld llyw.cymru/coronafeirwsar-lein. Ni fydd aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'r uned heb apwyntiad yn cael prawf.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Fel rydyn ni'n ei weld yng Nghymru yn gyffredinol, mae nifer yr achosion yn cynyddu ledled Caerdydd, ond yn enwedig yng nghornel dde-orllewin y ddinas, gan gynnwys Grangetown.

"Rydym wedi gweld y gwerth a geir o gynnal profion yn effeithiol drwy gydol y pandemig, ac mae'r Uned Brofi Symudol wedi cael ei defnyddio yng Nghaerdydd ar adegau eraill cyn nawr, drwy bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Drwy ddefnyddio'r dull targedig hwn, gallwn greu darlun clir o'r hyn sy'n achosi lledaeniad yr haint yn yr ardal, a nodi unrhyw leoliadau sy'n destun pryder penodol.

Os ydych yn byw yn yr ardal ac os oes gennych symptomau Covid-19 - peswch parhaus newydd, mae eich ymdeimlad o flas neu arogl wedi diflannu neu newid, tymheredd uchel, - gofynnaf i chi drefnu prawf yn yr Uned Brofi Symudol ar unwaith."

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro:  "Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion ymhlith pob grŵp oedran ledled Caerdydd dros yr wythnos ddiwethaf. "Mae'n hanfodol bwysig felly bod pawb sy'n dangos symptomau Coronafeirws yn hynanynysu ac yn trefnu prawf iddyn nhw'u hunain ar unwaith. Dyma sut y gallwn atal lledaeniad y feirws gyda phob un ohonom yn chwarae rhan yn y gwaith o amddiffyn ein teuluoedd, ein cymdogion a'n cymunedau lleol."