Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 30/11/20

 

27/11/20 - Coblynnod Covid yn ceisio cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn

Cyn bo hir, bydd corachod bach lliwgar Nadolig yn lledaenu hwyl yr ŵyl a negeseuon diogelwch Covid-19 coblyn o bwysig yng nghanol dinas Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25318.html

 

27/11/20 - Arena Dan Do Gam yn Nes

Nodi Live Nation fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer arena dan do â 15,000 sedd ym Mae Caerdydd

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25315.html

 

26/11/20 - Sefydlu Arglwydd Faer newydd Caerdydd

Sefydlwyd Arglwydd Faer newydd Caerdydd mewn cyfarfod y Cyngor Llawn heddiw (26 Tachwedd) fel y Cynghorydd Rod McKerlich.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25310.html

 

26/11/20 - Bwrdd iechyd i weithredu canolfannau brechu Covid-19 yn adeiladau'r Cyngor ym Mhentwyn a Sblot

Bydd canolfannau brechu Covid-19 yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn a chanolfan STAR gynt yn Splott Road fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu rhaglen frechu dorfol ar gyfer Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25308.html

 

25/11/20 - Diwrnod y Rhuban Gwyn 2020: Gweithio i roi stop ar drais gan ddynion yn erbyn menywod

Mae symbol mudiad byd-eang dynion a bechgyn sy'n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched wedi ei daflunio ar dirnod mwyaf eiconig Caerdydd, i nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod a merched.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25301.html

 

25/11/20 - Bydd Stryd y Castell yn ailagor i fysiau, tacsis a cherbydau argyfwng ar 29 Tachwedd

Mae'r Cyngor yn bwriadu ailagor Stryd y Castell i fysiau, tacsis a cherbydau argyfwng fel mesur dros dro ar Ddydd Sul 29 Tachwedd tra cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25299.html