Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Tachwedd

20/11/20

 

Croeso i ddiweddariad diwethaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n ymdrin â'r canlynol: yr Arena Dan Do; achosion a phrofion COVID-19; yr ysgolion diweddaraf yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19; Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd; cladin newydd ar gyfer fflatiau Lydstep; cynlluniau ar gyfer system unffordd newydd yn Heol Wellfield; adnewyddu ac achub dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd a newyddion am gymeradwyo pont newydd fydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Arena Dan Do Gam yn Nes

 

Bydd darparu arena dan do newydd gyda lle i 15,000 o bobl ym Mae Caerdydd yn dod gam yn nes pan fydd y Cyngor yn penodi'r cynigydd a ffefrir yng nghyfarfod y Cabinet sydd wedi'i drefnu ar gyfer 26 Tachwedd.

 

Bydd y lleoliad newydd a gynllunnir yn costio tua £150m i'w adeiladu a bydd yn denu mwy na miliwn o ymwelwyr ac amcangyfrif o £100m i'r economi leol bob blwyddyn. Bydd hefyd yn dod â swyddi newydd i bobl leol. Bydd dros 2000 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y rhaglen adeiladu tair blynedd a phan fo'r arena ar waith, bydd 1000 o swyddi uniongyrchol a 600 o swyddi eraill yn cael eu cefnogi yn yr economi leol.

 

Ers mis Rhagfyr y llynedd mae'r Cyngor wedi datblygu proses gaffael i gael partner o'r sector preifat ac mae dau gynnig bellach wedi dod i law i ddarparu lleoliad gyda'r gorau yn y DU a fydd yn galluogi'r ddinas i gynnal digwyddiadau o bob maint.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25274.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11Tachwedd - 19 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

19 Tachwedd

Achosion: 591

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 161.1(Cymru: 166.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4.366

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1.190.0

Cyfran bositif: 13.5%(Cymru: 12.7% cyfran bositif)

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithlo ar ysgollen: 20.11.20

 

Ysgol Uwchradd Cantonian

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cantonian.Mae 134 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a 2 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Oakfield

Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Oakfield. Mae 18 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 4 o ddisgyblion Blwyddyn 11 ynghyd ag 1 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. 

Ysgol Gynradd Gladstone

Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gladstone. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 22 o ddisgyblion Blwyddyn 3 ynghyd â 4 aelod ychwanegol o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Cymeradwyo cynlluniau i Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan

 

Heddiw mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna. 

Mae'r datblygiad yn fuddsoddiad gwerth £63.5m yn y gymuned leol a bydd Ysgol Uwchradd bresennol Fitzalan yn cael ei disodli gan ysgol fynediad 10 dosbarth newydd, a fydd yn cynnwys hyd at 1,500 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth.

Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd yn lle'r pwll nofio presennol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25252.html

 

Penodi contractwr i osod cladin newydd ar flociau fflatiau uchel

 

Mae contractwr wedi'i benodi i osod cladin newydd ar dri o flociau fflatiau uchel y ddinas.

Yn dilyn proses gaffael gystadleuol, mae'r Cyngor wedi rhoi'r contract i wneud gwaith i wella'r tri bloc tŵr yn fflatiau Lydstep yn Ystum Taf i ISG.

Bydd gwaith cyn-adeiladu i gynnig ateb gorchuddio i gymryd lle'r cladin a dynnwyd ddwy flynedd yn ôl yn sgil trychineb Tŵr Grenfell yn dechrau'n fuan gyda'r prif waith, sef gosod y cladin newydd, yn dechrau ar ddechrau Gwanwyn 2021.

Tynnwyd y cladin o bump o chwech bloc fflatiau uchel y Cyngor ar ôl i brofion ddangos, er nad oedd unrhyw un o'r adeiladau'n cynnwys ACM, y deunydd a oedd yn gorchuddio Grenfell, nad oedd yn bodloni safonau tân presennol.  

Yn dilyn arolygon ac argymhellion gan ymgynghorwyr ar gyfer yr ateb mwyaf priodol, caiff cladin cerameg sy'n seiliedig ar frics ei osod er mwyn gwella effeithlonrwydd thermol yr adeiladau; tra'n cynnal y safonau diogelwch tân uchaf.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25270.html

 

Sêi bendith I gynlluniau Heol Wellfield

 

 

Mae'r cynllun terfynol y cytunwyd arno ar gyfer Heol Wellfield sy'n cynnwys system unffordd newydd, beicffordd dros dro, gwell cyfleusterau i gerddwyr, yn ogystal â pharcio arhosiad byr, wedi cael sêl bendith, gyda 74% o drigolion lleol a arolygwyd yn cefnogi'r cynlluniau newydd.

 

Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ar ddechrau'r flwyddyn nesaf a bydd yn cymryd pedair wythnos i'w gwblhau. Bydd yr effaith ar fasnachwyr lleol yn fach iawn - gyda'r ffordd yn aros ar agor a mynediad i gerddwyr yn cael ei chynnal ar ddwy ochr y ffordd drwy gydol y gwaith.

 

Bydd y cynllun newydd yn gwneud Heol Wellfield yn system unffordd tua'r gogledd o Heol Albany wrth deithio i fyny tuag at Heol Pen-y-Lan. Bydd traffig tua'r de yn troi i'r chwith i Heol Pen-y-Lan wrth y gyffordd â Heol Wellfield, ac yn aros ar y ffordd hon tan y gyffordd â Heol Albany. Yna bydd bysiau'n troi i'r dde yn Heol Albany i barhau i ganol y ddinas.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25256.html

Bydd dau adeilad pwysig ym Mae Caerdydd yn cael eu hadnewyddu a'u hachub

Bydd dyfodol dau adeilad treftadaeth pwysig ym Mae Caerdydd yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth i gynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau perchnogaeth gael eu cymeradwyo.

 Mae Adeiladau Cory / Merchant Place mewn sefyllfa amlwg ym Mae Caerdydd yn union gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru, ond mae'r ddau wedi bod yn wag ac wedi'u bordio ers dros ddegawd.

 Mae'r Cyngor yn bwriadu prynu'r adeiladau rhestredig Gradd 2 a bydd yn ceisio cymorth grant i gefnogi costau adnewyddu ac adfywio.

 

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25266.html

 

Cynllunlau'n symud ymlaen ar gyfer pont newydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48

 

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd fydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48 yn uniongyrchol wrth gyffordd Pentwyn wedi symud cam ymlaen yn dilyn ceisiadau sector preifat i gyflawni'r cynllun.

Mae adroddiad ar y cynigion - fydd yn ffurfio rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw, ddydd Iau 19 Tachwedd, lle cytunwyd i werthu tir er mwyn ariannu'r gwaith datblygu.

Bydd y cynnig yn golygu adeiladu pont newydd a chyswllt ffordd dros Afon Rhymni gan gysylltu Llanrhymni â'r safle Parcio a Theithio a'r A48. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn creu cyfleoedd swyddi yn y ddinas.

Bydd ymgynghoriad yn dechrau'n fuan ar gynlluniau sy'n cynnwys datblygu tir ar bwys Neuadd Llanrhymni, oddi ar Ball Road, sydd yn gae chwarae i Glwb Rygbi Llanrhymni ar hyn o bryd. Caiff swm sylweddol o'r ardal werdd o flaen Neuadd Llanrhymni ei chadw, ond cytunwyd i ail-leoli'r cae chwarae i dir oddi ar Mendip Road nad yw'n addas i gael ei ddatblygu.

Yn ogystal â chreu cae newydd i Glwb Rygbi Llanrhymni, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu cae glaswellt newydd i Glwb Pêl-droed Llanrhymni, caeau bach a chlwb newydd sbon ac ystafelloedd newydd i'r ddau dîm eu defnyddio. Bydd clybiau lleol yn gallu defnyddio, ar gyfraddau cymunedol, ardal chwaraeon newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei chreu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar safle cyfredol caeau chwarae Prifysgol Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25264.html