Back
Cynlluniau’n symud ymlaen ar gyfer pont newydd yn cysylltu Llanrhymni â’r A48

 

13/11/20

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd fydd yn cysylltu Llanrhymni â'r A48 yn uniongyrchol wrth gyffordd Pentwyn wedi symud cam ymlaen yn dilyn ceisiadau sector preifat i gyflawni'r cynllun.

Cyflwynir adroddiad ar y cynigion - fydd yn ffurfio rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 19 Tachwedd, lle yr argymhellir bod y Cyngor yn cytuno i werthu tir er mwyn ariannu'r gwaith datblygu.

Byddai'r cynnig yn golygu adeiladu pont newydd a chyswllt ffordd dros Afon Rhymni gan gysylltu Llanrhymni â'r safle Parcio a Theithio a'r A48. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn creu cyfleoedd swyddi yn y ddinas.

Bydd ymgynghoriad yn dechrau'n fuan ar gynlluniau sy'n cynnwys datblygu tir ar bwys Neuadd Llanrhymni, oddi ar Ball Road, sydd yn gae chwarae i Glwb Rygbi Llanrhymni ar hyn o bryd. Caiff swm sylweddol o'r ardal werdd o flaen Neuadd Llanrhymni ei chadw, ond cytunwyd i ail-leoli'r cae chwarae i dir oddi ar Mendip Road nad yw'n addas i gael ei ddatblygu.

Yn ogystal â chreu cae newydd i Glwb Rygbi Llanrhymni, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu cae glaswellt newydd i Glwb Pêl-droed Llanrhymni, caeau bach a chlwb newydd sbon ac ystafelloedd newydd i'r ddau dîm eu defnyddio.  Bydd clybiau lleol yn gallu defnyddio, ar gyfraddau cymunedol, ardal chwaraeon newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei chreu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar safle cyfredol caeau chwarae Prifysgol Caerdydd.

Hefyd, ar y tir sy'n cael ei werthu gan y Cyngor, bydd canolfan logisteg ar y safle ar bwys yr A48 fydd yn creu swyddi newydd yn yr ardal. Cedwir yr holl fannau parcio a theithio sydd ar gael ar hyn o bryd. Hefyd bydd 170 o gartrefi newydd ar y tir oddi ar Ball Road a Ball Lane, y bydd tua 80 ohonynt yn dai Cyngor newydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Ar hyn o bryd mae'r holl draffig cymudo sy'n teithio i ganol y ddinas o wardiau Llanrhymni, Tredelerch, Trowbridge ac i ryw raddau Llaneirwg yn gorfod defnyddio Heol Casnewydd sy'n peri tagfeydd sylweddol yn ystod yr oriau brig. 

"Bydd y seilwaith newydd hwn yn gwella dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion lleol o'r diwedd.  Bydd yn creu cyswllt uniongyrchol â'r cyfleuster Parcio a Theithio lle y bydd lôn fysus ddynodedig i fynd â phobl yn syth i ganol y ddinas ar drafnidiaeth gyhoeddus. O ganlyniad bydd pobl yn cyrraedd y gwaith yn gyflym, bydd teithiau mewn ceir yn llawer byrrach a bydd llai o dagfeydd.

"Bydd y cynllun hefyd yn helpu i ysgogi buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol. Caiff y clybiau lleol yn yr ardal gyfleusterau newydd a gwell a bydd hefyd modd iddynt ddefnyddio ardal chwaraeon newydd Llanrhymni ar gyfraddau cymunedol. 

"Er mwyn sicrhau y gall y gwaith datblygu symud yn ei flaen, mae angen i ni roi pwrpas newydd i dir yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau tir sy'n addas ar gyfer datblygu tai a rhoi cyfleusterau lleol ar dir nad yw'n addas ar gyfer datblygu tai.

"Caiff yr arian a geir trwy werthu'r safleoedd hyn ei glustnodi i adeiladu'r bont a'r cyswllt ffordd newydd a bydd yn ariannu'r cyfleusterau chwarae newydd, gan ddod â buddsoddiad y mae ei angen yn fawr i'r ardal."

Mae penawdau'r telerau wedi'u cytuno gyda datblygwyr ar gyfer gwerthu'r tir fydd yn dechrau ar y 19eg os bydd y Cabinet yn ei awdurdodi.