Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 3 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Cynnal adolygiad o Wasanaethau hamdden Caerdydd yn dilyn gostyngiad o 50% mewn presenoldeb oherwydd COVID-19; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar ysgolion sydd wedi eu heffeithio; a gofyn am farn ar gynllun adfywio cyffrous.

#ArhoswchGartref #AchubBywydau.

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Cynnal adolygiad o Wasanaethau hamdden Caerdydd yn dilyn gostyngiad o 50% mewn presenoldeb oherwydd Covid-19

Bwriedir cynnal adolygiad o gyfleusterau a gweithrediadau hamdden Caerdydd, a ddarperir gan fenter gymdeithasol GLL, i fynd i'r afael ag effaith Covid-19.

Yn sgil y pandemig, mae presenoldeb wedi gostwng gan tua 50%, canslwyd 20% o aelodaeth debyd uniongyrchol a gostyngodd gwerthiant aelodaeth newydd gan 23% yn ôl yr adroddiad, ac mae hyn wedi cael "effaith sylweddol ar berfformiad ariannol y contract."

Yn amodol ar gael ei gytuno mewn cyfarfod y Cabinet ar 19 Tachwedd, bydd y Cyngor yn cydweithio â GLL i gynnal adolygiad o'r holl gyfleusterau a gweithrediadau.

Nod yr adolygiad fydd mynd i'r afael â chynaliadwyedd hirdymor y contract a sicrhau parhad yn y gwasanaethau a ddarperir drwy nodi amrywiadau posibl i'r contract 15 mlynedd, a ddechreuodd yn 2016.

Ers dechrau'r pandemig, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio ar sail 'llyfr agored' gyda GLL ac mae wedi darparu £1 miliwn o gyllid rhyddhad cyflenwyr i helpu i gadw swyddi staff. Gallai fod angen £1.1 miliwn arall i dalu am y colledion sy'n weddill erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol a bydd y Cyngor yn parhau i geisio cymorth gan Lywodraeth Cymru i gadw'r busnes yn sefydlog yn ystod uchafbwynt y pandemig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Cyn y pandemig, roedd y contract gyda GLL wedi darparu gwerth £14 miliwn o effaith gymdeithasol. Roedd wedi caniatáu i'r Cyngor ddileu ei gymhorthdal blynyddol o £3.5 miliwn ar gyfer hamdden, ac ynghyd â chadw pob un o'r wyth cyfleuster ar agor, sicrhaodd hefyd y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ddarparu cyfleusterau gwell i breswylwyr - fel adnewyddu'r ganolfan hamdden yn y Tyllgoed.

"Un o'n nodau yw cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ac roedd y contract gyda GLL yn helpu i gyflawni hynny. Cynyddodd presenoldeb gan 35,000 ar y flwyddyn flaenorol, ond mae Covid-19 wedi newid y gêm yn llwyr.

"Yn y pen draw, mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â gwneud yr hyn a allwn i sicrhau, yn wyneb pwysau digynsail, nid yn unig ar GLL, ond ar draws y diwydiant hamdden, bod preswylwyr yn dal i allu manteisio ar y gwasanaethau hamdden o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu pan ddaw'r pandemig i ben.

"Hyd at y pwynt hwn rydym wedi gallu gweithio gyda GLL i sicrhau nad oes unrhyw swyddi wedi'u colli. Nawr mae angen i ni nodi ble mae'r heriau mwyaf, ystyried unrhyw gyfleoedd ar gyfer arloesi a moderneiddio, fel y gallwn ddenu buddsoddiad, parhau i gynyddu cyfranogiad a sicrhau dyfodol hirdymor y gwasanaeth."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25120.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

2 Tachwedd
 

Achosion: 1,116

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 304.2 (Cymru: 260.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,434

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,481.0

Cyfran bositif: 20.5% (Cymru: 19.4% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 3 Tachwedd 2020

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 38 o ddisgyblion Blwyddyn 8 ac 20 o ddisgyblion Blwyddyn 13 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gynradd Pontprennau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Pontprennau. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 2 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Pwll Coch
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Pwll Coch. Mae 40 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 7 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Canolfan Blant Trelái a Chaerau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yng Nghanolfan Blant Trelái a Chaerau. Mae 25 o blant o'r gwasanaeth gofal dydd a 13 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

Ysgol Uwchradd Cantonian
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Cantonian. Mae 10 disgybl o Flwyddyn 12 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gynradd Kitchener
Mae athro cyflenwi wedi cael prawf positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd Kitchener. Mae 150 o ddisgyblion a 5 aelod o staff wrthi'n hunanynysu yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. 

Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd. Mae 26 o ddisgyblion o Flwyddyn 4 ac 1 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Gofyn am farn ar gynllun adfywio cyffrous

Mae'r Cyngor yn gofyn i bobl Grangetown rannu eu barn ar ailddatblygiad arfaethedig ystâd Trem y Môr.

Yn dilyn ymgysylltiad helaeth â thrigolion ar yr ystâd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ymgynghoriad cymunedol ehangach yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn gwahodd trigolion sy'n byw gerllaw, pobl sy'n gweithio yn y ward, busnesau a sefydliadau lleol i wneud sylwadau ar gynlluniau i adfywio'r rhan hon o Grangetown i ddarparu tai newydd i breswylwyr presennol a newydd.

Bydd ailddatblygu'r ystâd yn creu cyfuniad o dai ac eiddo fforddiadwy o ansawdd uchel ac eiddo i'w gwerthu ar y farchnad agored, yn ogystal â gwell cysylltedd i bobl sy'n byw yn yr ardal â thrafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau lleol, mannau cyhoeddus a rhannau eraill o'r ddinas. Mae'r cynigion adfywio yn cyfrannu at darged y Cyngor o ddarparu 2,000 o gartrefi cyngor newydd y mae mawr eu hangen ar gyfer y ddinas. 

Cynhyrchwyd uwchgynllun yn dangos sut y gellid ailddatblygu'r ystâd yn ogystal â'r manylion ar gyfer cam cyntaf yr ailddatblygiad sy'n canolbwyntio ar amnewid y bloc twr uchel presennol.

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan drigolion yr ystâd eto yn ogystal â phobl o'r gymuned ehangach am y cynlluniau a fyddai'n creu tua 400 o gartrefi newydd, gan gynnwys llety i bobl hŷn, ac ardal gyhoeddus fwy dymunol.  Oherwydd effaith y pandemig cenedlaethol ni all y cyngor gynnal digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd wyneb yn wyneb ac felly mae proses ymgynghori ar-lein ar y gweill trwy gydol mis Tachwedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Trem y Môr yn gymuned gref a bywiog o fewn Grangetown ond mae nifer o broblemau o ran cyflwr yr ystâd bresennol felly rydyn ni'n awyddus i fwrw ymlaen gyda'r adfywiad cyffrous hwn er budd yr ardal gyfan.

"Bydd ein cynigion yn creu amgylchedd lleol mwy deniadol i bawb, gyda phensaernïaeth drawiadol a phwyslais cryf ar greu lleoedd ac ymgorffori seilwaith arloesol, gwyrdd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25126.html