Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Hydref

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cwmpasu: achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; prydau ysgol am ddim i barhau gydol y gwyliau; defnydd o nextbike am ddim a 1,000 o goed i ysgolion i nodi lansio Caerdydd Un Blaned; gorfodi diogelwch strydoedd ysgol; mwy o dai yn dod i barneriaeth Cartrefi Caerdydd; mae gan Gaerdydd erbyn hyn 14 o barciau baner werdd; a chyfle arlwyo newydd ym Mharc Bute.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Dilynwch y canllawiau:

www.caerdydd.gov.uk/Cyfnodclo

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

15 Hydref

Achosion: 869

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 236.8 (Cymru: 128.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,559

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,515.1

Cyfran bositif: 15.6% (Cymru: 10.4% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu prydau ysgol am ddim tan y Pasg 2021

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud cynlluniau i sicrhau bod teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu parhau i fanteisio ar y ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod £11 miliwn wedi'u gwarantu tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim ar gyfer pob adeg gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021, mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud trefniadau i sicrhau na fydd dros 13,000 o blant yn colli allan.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar bawb, mae'n hanfodol bod y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n cael budd o brydau ysgol am ddim yn gallu parhau i fanteisio ar y ddarpariaeth hanfodol yma.

"Ers i ysgolion gau i addysg statudol am y tro cyntaf ym mis Mawrth, mae tîm ymroddedig wedi gweithio'n galed i sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu, gan gynnwys datblygu system dalu BACS newydd, cynllun talebau archfarchnad newydd ac ar ddechrau'r cyfnod cloi, y gwaith o ddarparu 45,000 o becynnau bwyd yn llwyddiannus.

"Felly, mae'n galonogol bod arian wedi'i neilltuo fel y gall ein tîm barhau i gynnig y cynllun hwn syudd ei angen yn fawr yn ystod gwyliau ysgol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24996.html

 

Defnydd am ddim o'r nextbike a 1,000 o goed i ysgolion er mwyn lansio strategaeth Un Blaned Caerdydd

Dim ond dwy o'r mentrau a gyhoeddwyd heddiw yw'r defnydd am ddim o'r nextbike i drigolion ac ymwelwyr â Chaerdydd a'r 1,000 o goed ifanc a roddir i ysgolion cynradd i'w plannu i gydnabod rhyddhau strategaeth 'Un Blaned Caerdydd'.

Cymeradwywyd y strategaeth, sy'n nodi ymateb y cyngor i'r Argyfwng Newid Hinsawdd ac sy'n galw ar ddinasyddion a busnesau i ymuno â'r awdurdod lleol i wneud prifddinas Cymru yn Niwtral o ran Carbon erbyn 2030, gan y cabinet Ddydd Iau, 15 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:  "Rydym am annog trigolion a busnesau i ymuno â ni i helpu i leihau allyriadau carbon y ddinas.  Rydym yn wynebu argyfwng yn yr hinsawdd ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.

"Gan ddefnyddio ein ceir yn llai, gwneud gwell defnydd o'n gerddi, meddwl am yr hyn rydym yn ei fwyta, ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl, dyma rai o'r newidiadau bach y gall pob un ohonom eu gwneud er mwyn helpu i sicrhau newid mwy.

"Rwy'n credu bod pawb bellach yn cydnabod yr argyfwng y mae ein planed yn ei hwynebu. Mae Caerdydd ei hun yn ddinas tair blaned.  Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau fel rydym yn ei wneud yma yna byddai angen tair planed ar y byd i oroesi. Dyna pam fod yn rhaid inni wneud newidiadau nawr a pham rydym yn galw ar bawb yng Nghaerdydd i ymuno â ni."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24986.html

 

Camerâu gorfodi wedi'u hactifadu ar 'Strydoedd Ysgol' i wella diogelwch a helpu i hyrwyddo ymbellhau cymdeithasol

Bydd camerâu gorfodi mewn nifer o ysgolion ledled y ddinas yn cael eu hactifadu o heddiw ymlaen i wella diogelwch, helpu disgyblion a theuluoedd i gynnal ymbellhau cymdeithasol ar adegau gollwng a chasglu ac annog teithio llesol.

Bydd arwyddion parhaol yn cefnogi'r cynlluniau a bydd camerâu'n weithredol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu i atal rhieni rhag parcio ar farciau Cadwch yn Glir y tu allan i gatiau'r ysgol.

Bydd camerâu gorfodi hefyd yn cael eu hactifadu ar ffyrdd 'Strydoedd Ysgol' sy'n cael eu cau, lle mae mynediad a pharcio wedi'u cyfyngu i ddeiliaid trwyddedau preswyl, deiliaid bathodynnau glas a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Mae'r ysgolion a ddewiswyd ar gyfer gorfodi neu gau ffyrdd 'Strydoedd Ysgol',yn aml yn wynebu problemau gyda thraffig a pharcio yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol a bydd y mesurau hyn hefyd yn helpu i gefnogi plant a theuluoedd i ymbellhau'n gymdeithasol wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r ymateb a gawsom gan ysgolion, disgyblion, rhieni a thrigolion lleol ynghylch cynlluniau gorfodi a Chau Ffyrdd Strydoedd Ysgol wedi bod yn rhagorol.  O ganlyniad, rydym wedi sicrhau cyllid i barhau â'r cynlluniau hyn ar draws y ddinas.

"Bydd y mesurau hyn yn sicrhau diogelwch plant a theuluoedd drwy gadw ffyrdd y tu allan i ysgolion yn glir o draffig a cherbydau wedi'u parcio. Bydd amseroedd gollwng a chasglu yn fwy diogel a bydd yn caniatáu i gymunedau ysgolion gynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24990.html

 

Wates Residential yn cryfhau ei bartneriaeth adeiladu tai Cartrefi Caerdydd â Chyngor Caerdydd gyda dau gam adeiladu pel

Mae'r contractwr a'r datblygwr, Wates Residential wedi'i benodi'n swyddogol i gyflawni camau nesaf ei bartneriaeth ‘Cartrefi Caerdydd' 10 mlynedd â Chyngor Caerdydd i adeiladu 1,500 o gartrefi ledled y ddinas erbyn 2027 i helpu i ateb y galw cynyddol am dai.

Bydd o leiaf 40 y cant o'r cartrefi sy'n cael eu datblygu ledled y ddinas yn rhan o'r camau nesaf yn rhai i'w rhentu o'r Cyngor neu i'w gwerthu trwy Gynllun Perchnogaeth Cartref â Chymorth yr awdurdod.

Disgwylir i'r datblygiadau newydd cyntaf ddechrau ar y safle yr hydref hwn a chynnwys y datblygiad Cartrefi Caerdydd mwyaf hyd yma ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch, fydd yn cynnwys 214 o gartrefi newydd gan gynnwys 44 o fflatiau Byw yn y Gymuned i bobl hŷn yn Nhŷ Addison. Yr adeilad cyfoes hwn fydd y cyntaf o'r cynlluniau Byw yn y Gymuned y mae'r Cyngor yn eu hadeiladu yn rhan o'r Strategaeth Pobl Hŷn ar gyfer y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24984.html

 

14 Baner Werdd i barciau a mannau gwyrdd Caerdydd

Mae Gwarchodfa Natur Fferm y Fforest a Pharc Hailey wedi cael Baneri Gwyrdd mawr eu bri am y tro cyntaf, sy'n golygu bod gan 14 o barciau a mannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd yr anrhydedd ryngwladol mawr ei heisiau hon erbyn hyn.

Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Victoria oll wedi llwyddo i gadw eu dyfarniadau presennol.

Bernir y gwobrau gan arbenigwyr mannau gwyrdd yn ôl ystod o feini prawf caeth gan gynnwys bioamrywiaeth, cynnwys y gymuned, cynnal a chadw, cyflwyniad, glendid a rheoli amgylcheddol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Erbyn hyn mae gan Gaerdydd fwy o fannau safon y Faner Werdd nag unman arall yng Nghymru ac mae ychwanegu dau le newydd eleni, a'n gweithlu wedi lleihau cymaint â 50% ar adegau yn ystod y pandemig hwn gyda staff yn hunanynysu, yn hunanwarchod neu'n cael eu hadleoli i feysydd eraill i helpu yn ymateb Covid-19 y Cyngor, yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled y tîm."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24964.html

 

Bwyty newydd ym Mharc Bute

Gallai Parc Bute yng Nghaerdydd fod yn cael bwyty newydd i wasanaethu ardal ogleddol y man gwyrdd poblogaidd yng nghanol y ddinas.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi tendr i ddod o hyd i arlwywr profiadol i gynnal bwyty symudol, gan weithredu mewn un o dri lleoliad ar unrhyw adeg benodol. Mae'r tri safle, ger Pont y Gored Ddu, Neuaddau Preswyl Tal-y-bont ac Ystafelloedd Newid y Gored Ddu yn boblogaidd drwy'r flwyddyn ac mae llawer o  ymwelwyr ynddynt ar wahanol adegau o'r dydd a'r wythnos.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24977.html