Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf
#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel
Dilynwch y canllawiau:
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
11 Hydref 2020
Achosion
555
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth
151.3
Achosion profi
5,033
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth
1,371.8
Cyfran bositif
11%
Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Cafwyd prawf COVID-19 positif o ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.Mae 76 o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
Mae achos positif o COVID-19wedi'i gadarnhau yn Uwchradd Gatholig Illtud Sant mewn cysylltiad ag un disgybl ym Mlwyddyn 9. Mae 174 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd y Tyllgoed
Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed gan un disgybl ym Mlwyddyn 2. Mae 36 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 5 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
Ysgol Gynradd Babyddol Syr Phillip Evans
Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau mewn un disgybl ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Babyddol Syr Phillip Evans. Mae 53 o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.