Back
Gwelliannau yn ansawdd aer Caerdydd

 08/10/20

 

Mae Caerdydd yn dathlu Diwrnod Aer Glân heddiw gyda'r newyddion, yn seiliedig ar ganlyniadau dros dro, y bu gostyngiad sylweddol mewn lefelau Nitrogen Deuocsid (NA2) ledled y ddinas.

Mae effaith Covid, llai o draffig ar y ffyrdd yn gyffredinol, a mwy o bobl yn dewis cerdded a beicio, wedi gweld lefelau Nitrogen Deuocsid (NA2) yn gostwng 52% yng nghanol y ddinas rhwng mis Mai a mis Awst eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. 

Mae'r data hefyd yn dangos, er bod lefelau traffig yn codi eto ar ôl y cyfnod cloi cynnar, bod lefelau ansawdd aer wedi gwella ym mhob safle profi ledled y ddinas o gymharu â'r un data o 2019.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym wedi bod yn monitro'n agos y data llif traffig ac ansawdd aer ledled y ddinas i asesu effaith y pandemig a chau Stryd y Castell i gerbydau modur.

"Fel y byddech yn disgwyl mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos bod ansawdd aer wedi gwella'n sylweddol yng nghanol y ddinas eleni, ond yn holl bwysig mae hefyd wedi gwella ym mhob rhan o'r ddinas o gymharu â llynedd, hyd yn oed yn ystod y misoedd ar ôl y cyfnod cloi cychwynnol.  Yn syml, mae llai o deithiau car yn cael eu cynnal, ac mae mwy o deithiau beic a cherdded yn digwydd."

Cyn digwyddiadau eleni fe wnaeth arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor ragweld, pe bai pethau'n parhau fel ag y maent, yna byddai lefelau llygredd NO2 yn y dyfodol yn torri terfynau cyfreithiol yr UE y tu hwnt i 2021, gyda ffyrdd eraill cyfagos hefyd yn destun pryder. Am y rheswm hwn, roedd gan y cyngor eisoes gynlluniau ar gyfer Stryd y Castell a fyddai'n lleihau llif traffig.

Mae'r Cyngor yn ystyried opsiynau i ailagor Stryd y Castell. Bydd yn rhaid i'r rhain ystyried gofynion aer glân Cyfarwyddyd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i leihau lefelau llygredd ar y stryd. Bydd dewisiadau ail-agor hefyd yn ystyried dulliau o sicrhau y gellir parhau i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar Stryd y Castell.

Gwelwyd gwelliannau o ran ansawdd aer hefyd mewn rhannau eraill o Gaerdydd lle gwelwyd gostyngiadau sylweddol yn NO2 mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a oedd yn agos at dorri'r terfyn cyfreithiol neu'n torri'r terfyn cyfreithiol.

Gwelwyd gostyngiad o 35% ran NO2yn Stephenson Court, ym Mhlasnewydd; gostyngiad o 30% yn Llandaf; a gostyngiad o 25% ym Mhont Trelái. Cymharwyd yr holl ddata â mis Mai i fis Awst y llynedd.

Ychwanegodd y Cyng. Wild: "Mae'r ffigurau hyn yn galonogol iawn, ond dydyn ni ddim eisiau bod yn hunanfodlon. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwbl ymwybodol bod traffig ffyrdd yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at lefelau NO2. Os ydym am gael dinas lanach, mae'n rhaid i ni alluogi mwy o bobl i ddefnyddio moddau trafnidiaeth heblaw ceir preifat. Fel Cyngor byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn teithio llesol a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel y gallwn helpu pobl i leihau eu dibyniaeth ar geir preifat. Mae angen opsiynau ar bobl sy'n gweithio iddynt ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ganddynt yr opsiynau hynny fel y gallant wneud dewisiadau sy'n arwain at ddinas wyrddach a mwy cynaliadwy"

Mae'r safon ansawdd aer ar gyfer NO2yn seiliedig ar gyfartaledd blynyddol felly er mwyn cael darlun llawn o'r gwelliannau, bydd angen i'r Cyngor asesu'r 12 mis llawn o ddata. Mae'r 4 mis o ddata sydd wedi'i ddadansoddi yn galonogol iawn