Back
Mwy o fynediad at gymorth digidol


 

25/09/20
Mae clybiau swyddi wyneb yn wyneb a mynediad i gyfrifiaduron cyhoeddus mewn canolfannau cymunedol ledled y ddinas yn cael eu hail-gyflwyno i gefnogi pobl i mewn i waith.

 

Wrth i effaith y pandemig ar y farchnad swyddi barhau i gael ei theimlo, mae'r Cyngor yn addasu gwasanaethau i ateb y galw ac yn sicrhau y gall pobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt ar faterion cyflogaeth a hawliadau budd-dal.

 

Symudodd Gwasanaeth I Mewn i Waith y Cyngor rai o'i sesiynau cymorth i fod ar-lein yn ystod y cyfnod cloi er mwyn parhau i gynorthwyo preswylwyr i chwilio am help. Erbyn hyn mae clybiau swyddi wyneb yn wyneb yn cael eu hailgyflwyno o'r wythnos hon mewn canolfannau ledled y ddinas, gan ddechrau gyda Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Grangetown, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau. Bydd y cymorth wedyn yn ehangu i bob canolfan dros yr wythnosau nesaf ar sail wedi'i hamserlennu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a  Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae I mewn i Waith Caerdydd wedi cefnogi pobl drwy'r pandemig gyda sesiynau rhithwir ac apwyntiadau mewn hybiau pan na fu'n bosibl helpu dros y ffôn neu ar lwyfan digidol.

 

"Er mwyn ateb y galw sydd bellach yn dod i'r amlwg, bydd clybiau swyddi wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn hybiau yn y ddinas, ar sail apwyntiad yn unig.

 

"Mae'r pandemig wedi effeithio ar drigolion ar draws y ddinas mewn gwahanol ffyrdd ond rydyn ni'n gwybod i lawer, bydd wedi golygu ffyrlo, colli swyddi a llawer iawn o ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol. Gall I Mewn i Waith Caerdydd gefnogi pobl sy'n wynebu newid cyfeiriad yn eu gyrfaoedd, drwy eu cefnogi i swyddi mewn gwahanol sectorau, eu helpu i gael hyfforddiant neu tuag at ddysgu i oedolion, help gyda CVs a chwilio am swyddi a hyd yn oed rhoi cyngor i'r rhai sy'n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain."

 

Mae nifer hawlwyr Credyd Cynhwysol yng Nghaerdydd wedi mwy na dyblu ers dechrau'r flwyddyn hon i 16,180 ym mis Gorffennaf, sy'n golygu y bydd angen help ar fwy o breswylwyr i chwilio am waith ac i gynnal eu cais.

 

Mae'r diffyg mynediad at ddyfeisiau digidol wedi bod yn rhwystr i nifer sylweddol o bobl sydd angen cymorth yn y ddinas ac felly o ddydd Llun, Medi 28, bydd trigolion yn gallu archebu apwyntiad i ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas.

 

Mae mesurau iechyd a diogelwch wedi'u rhoi ar waith i ganiatáu ail-gyflwyno'r defnydd o gyfrifiadur PC, a bydd gwaith glanhau trylwyr yn digwydd ar ôl pob defnydd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig y dyddiau hyn, ond nid oes gan bawb fynediad at ddyfais ac nid oes gan lawer o bobl sgiliau digidol sylfaenol felly mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn gallu cael gafael ar help a'r dechnoleg sydd ei hangen arnynt yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn."

 

Dylai cwsmeriaid a hoffai fynychu Clwb Gwaith o Ddydd Llun Medi 21 ffonio 029 2087 1071 i drefnu apwyntiad mewn hyb. Gellir archebu apwyntiadau i ddefnyddio cyfrifiaduron o Ddydd Llun Medi 28 ar yr un rhif.

 

Bydd angen i gwsmeriaid sy'n ymweld â chanolfannau ledled y ddinas ar gyfer apwyntiadau wedi'u harchebu ymlaen llaw wisgo masg wyneb y tu mewn i'r adeilad, oni bai bod rheswm dros beidio.

 

O ddydd Llun yr wythnos hon, ail-agorodd Llyfrgell yr Eglwys Newydd fel Hyb yr Eglwys Newydd, ar ôl ei hadnewyddu.  Fel gyda hybiau eraill yn y ddinas, bydd yr Eglwys Newydd yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig gan ddarparu gwasanaethau llyfrgell clicio a chasglu, a mynediad i gyfrifiaduron PC o 28 Medi ymlaen.