Back
Cam arall ymlaen i gynllun adfywio Dumballs Road

11/09/20

Bydd ailddatblygiad safle tir llwyd strategol mawr yng nghanol y ddinas yn camu yn ei flaen y mis hwn. Byddai'r cynllun yn golygu bod mwy na 2,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yng nghanol Caerdydd.

Nod cynllun adfywio Dumballs Road yw creu dros 2,000 o eiddo preswyl ochr yn ochr â gofod masnachol a manwerthu ar safle 40 erw yn Butetown fydd yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng canol y ddinas a'r bae ar hyd glannau afon Taf.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn penderfynu a ddylid gwerthu 8.5 erw o dir oddi ar Dumballs Road i'r datblygwr - Vastint - mewn cytundeb fyddai'n galluogi gwireddu'r  weledigaeth lawn sydd wrth wraidd y datblygiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng Russell Goodway: "Mae'r cynllun hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y ddinas a fydd yn creu tai fforddiadwy yn ogystal â chyswllt hir ddisgwyliedig rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.

"Oherwydd ei orffennol diwydiannol, mae'r tir wedi bod yn anodd ac yn ddrud i'w ddatblygu. Mae hyn, ynghyd â materion cymhleth yn ymwneud â pherchnogaeth tir, wedi arwain at nifer o ymdrechion aflwyddiannus i ailddatblygu.  Mae'r tir wedi parhau heb ei ddatblygu ac yn rhannol adfeiliedig am y 30 mlynedd diwethaf.  Penderfynodd y Cyngor fod yn rhan o'r ymdrechion, a thrwy weithio ochr yn ochr â'r sector preifat mae wedi gallu cynnig buddsoddiad sydd mawr ei angen fydd yn darparu cartrefi, swyddi a chymuned fywiog newydd mewn ardal sydd wedi dirywio'n rhy hir.   Mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen a bydd yn darparu cynllun o ansawdd yng nghanol y ddinas."

Gan fod y Cyngor wedi cytuno i werthu'r tir cyn cynllunio, cytunwyd ar gontract gyda'r datblygwr i warantu lefel ofynnol o gyfraniad tai fforddiadwy.  Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau'r opsiwn i gaffael hyd at 100 o gartrefi Cyngor ychwanegol mewn cytundeb pecyn. 

Mae gan Vastint hanes o gyflawni datblygiadau o ansawdd uchel ar safleoedd trefol anodd ledled Ewrop, gan gynnwys cynlluniau defnydd cymysg ar raddfa fawr ar hyn o bryd yn Aire Park yn Leeds a Sugar House Island yn Llundain. Mae'r cwmni'n fuddsoddwr ac yn ddatblygwr sy'n cadw'r rhan fwyaf o'r adeiladau y maen nhw'n eu codi fel buddsoddiadau hirdymor. Mae hyn yn golygu eu bod hefyd yn parhau i gymryd rhan yn y cynlluniau ymhell ar ôl eu cwblhau i reoli'r eiddo maen nhw'n eu hadeiladu ac maen nhw'n gwneud ymdrechion glew i gadw eu tenantiaid a'u meddianwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae'r Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu 1,000 o gartrefi cyngor erbyn 2022 gyda 1,000 ychwanegol i'w hadeiladu yn y blynyddoedd canlynol, gydag amserlen gyflawni glir. Bydd ailddatblygu Dumballs Road yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at y nod hwn. Bydd y cytundeb gydag Vastint yn gwarantu ein bod yn cymryd cam mawr ymlaen o ran darparu mwy o dai Cyngor fel rhan o safle datblygu niwtral o ran tenantiaeth mewn ardal lle mae galw mawr."

Ychwanegodd Andrew Cobden, Rheolwr Gyfarwyddwr Vastint UK, "Ers caffael y parseli tir cyntaf ddiwedd 2016 rydym wedi bod yn gweithio'n dda gyda'r Cyngor i gynllunio'r safle 40 erw a chyflwyno gweledigaeth ar gyfer ei ddatblygu.  Rydym yn agos at fod yn barod i rannu'r weledigaeth yn agored pan fyddwn yn croesawu adborth i sicrhau ein bod yn bodloni  anghenion y gymuned leol a dinas Caerdydd. Bydd penderfyniad y Cabinet, a ddisgwylir ddydd Iau nesaf, gan gynnwys gwerthu'r tir i Vastint, yn dod â ni gryn dipyn yn nes at gwblhau'r cynlluniau tir ac mae'n gam pwysig arall tuag at newid y llecyn adfeiliedig hwn o Gaerdydd yn lleoliad glan afon newydd i fyw a gweithio ynddo".