Mae'r holl ardaloedd chwarae i blant yng Nghaerdydd
sydd wedi pasio archwiliadau diogelwch bellach wedi ailagor.
Bydd ailagor y 3 ardal chwarae hyn - ger y
Morglawdd (Bae Caerdydd), Heol Llanisien Fach (Rhiwbeina) a
Rhydypenau (Cyncoed) yn golygu y bydd 107 o 116 o ardaloedd chwarae'r
ddinas ar gael i blant eu mwynhau.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a
deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle
ac mae’r offer a’r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd
ardal chwarae cymwys, cyn eu hailagor.
Mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu pobl i gadw
pellter cymdeithasol a lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19 – er enghraifft,
mae seddau rhai siglenni wedi eu symud i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael
ei gadw.
Er mwyn helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion
newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd sy’n gofyn i deuluoedd sy’n defnyddio’r
safleoedd:
·
olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth
ddefnyddio’r offer;
·
dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol;
·
cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
·
bod ag uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal
chwarae.
Bydd 8 ardal chwarae yn aros ar gau am y tro, ar ôl
arolygiadau diogelwch aflwyddiannus.
Roedd llawer o'r 8 safle hyn eisoes wedi'u
clustnodi ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol cyn y cyfnod cloi ac maent wedi
dirywio neu wedi cael eu fandaleiddio ymhellach yn ystod yr amser y buont ar
gau.
Mae cynlluniau’n cael eu llunio ar gyfer gwneud y
gwaith gwella sylweddol mae ei angen i ailgyflwyno’r safleoedd hyn yn ddiogel.
Ceisir tendrau ar hyn o bryd ar gyfer darparu cyfleuster newydd ym Mharc
Caedelyn (Rhiwbeina) ac adnewyddu Gerddi’r Faenor (Grangetown) yn llwyr.
Yr 8 safle sydd ar gau dros dro yw:
Caeau Anderson (Adamsdown); Parc y Fynwent (Adamsdown);
Maes Hamdden Ffordd y Felin (Trelái); Gerddi’r Faenor (Grangetown);
man agored Ffordd y Coleg (Ystum Taf); Drovers Way (Radur a
Phentre-Poeth); Parc Caedelyn (Rhiwbeina); Parc Caerllion (Trowbridge).
Bydd man chwarae arall, yn Nhŷ'r Winch (Pontprennau
a Llaneirwg), hefyd yn aros ar gau tra bydd y Cyngor Cymuned yn cwblhau
gwaith i adnewyddu'r cyrtiau tenis.
Dyma'r 107 safle sydd bellach ar agor:
Man agored Adamscroft (Adamsdown);
Sgwâr Adamsdown (Adamsdown); Parc Bragdy (Adamsdown); y Morglawdd (Bae
Caerdydd), Belmont Walk (Butetown); Parc Britannia
(Butetown); Parc y Gamlas (Butetown); Craiglee Drive (Butetown);
Parc Hamadryad (Butetown);Sgwâr Hodges (Butetown); Sgwâr Loudon (Butetown);
Parc Iau Schooner Way (Butetown); Parc Babanod Schooner Way (Butetown);
Windsor Esplanade (Butetown); Emblem Close (Caerau); Emerson
Close (Caerau); Heol Homfrey (Careau); Heol Trelái (Caerau);
Parc Trelái (Caerau); Parc Treseder (Caerau); Parc y Jiwbilî (Treganna);
Sanatorium Road – Babanod (Treganna); Parc Fictoria – Plant Iau (Treganna);
Parc Fictoria – Iau (Treganna); Llwybr Chwarae Parc Bute (Cathays); Gerddi
Cogan (Cathays); Parc Maendy (Cathays); Ardal Chwarae Creigiau (Creigiau
a Sain Ffagan); Rhydlarfer (Creigiau a Sain Ffagan); Parc y Rhath (Cyncoed);
Rhydypenau (Cyncoed); Green Farm
Road (Trelái); Parc Babanod Ffordd Wilson (Trelái); Parc Plant
Iau Ffordd Wilson (Trelái); Ffordd Beechley (Tyllgoed); Cau Côr (Tyllgoed);
Parc y Tyllgoed (Tyllgoed); Rosedale (Tyllgoed); Whitland
Crescent (Tyllgoed); Parc Maitland (Gabalfa); Maitland Road -
ardal ystwythder (Gabalfa); Parc Sevenoaks (Grangetown); Y Marl –
Babanod (Grangetown); Y Marl – Plant Iau (Grangetown); Parc y
Mynydd Bychan (Y Mynydd Bychan); Heol y Delyn (Llys-faen); Mill
Heath Drive (Llys-faen); Matthew Walk (Llandaf); Parc Hailey
Plant Iau (Ystum Taf); Parc Hailey Babanod (Ystum Taf); Parc Iau
Bryn Glas (Llanisien); Parc Babanod Bryn Glas (Llanisien); Heol y
Barcud (Llanisien); Parc Llanisien (Llanisien); Parc Hamdden
Parkland/Draenen Pen-y-graig (Llanisien); Sant Martin Crescent – Babanod
(Llanisien); Sant Martin Crescent – Plant Iau (Llanisien); Sgwâr
Watkin (Llanisien); Tir Hamdden Tredelerch (Llanrhymni); Heol
Sedgemoor (Llanrhymni); Coed y Gores (Pentwyn); Chapelwood (Pentwyn);
Glenwood (Pentwyn); Parc Coed y Nant (Pentwyn); Waun Fach (Pentwyn);
Garth Newydd (Pentyrch); Garth Olwg (Pentyrch); Ffordd Penuel
(Pentyrch); Gerddi Cyncoed (Pen-y-lan); Ffordd Hammond (Pen-y-lan);
Sovereign Chase (Pen-y-lan); Gerddi Shelley (Plasnewydd); Tir
Hamdden y Rhath (Plasnewydd); Parc Butterfield (Pontprennau a
Llaneirwg); Crawford Drive (Pontprennau a Llaneirwg);
Lascelles Drive (Pontprennau a Llaneirwg); Parc
Peppermint (Pontprennau a Llaneirwg); Fferm Cwm Plant Iau (Radur); Fferm
Cwm Babanod (Radur); Fisherhill Way (Radur/Treforgan); Heol
Llanisien Fach (Rhiwbeina); Gerddi
Despenser Iau (Glan yr Afon); Gerddi Despenser Babanod (Glan yr
Afon); Gerddi Kitchener (Glan yr Afon); Caeau Llandaf Plant Iau (Glan
yr Afon); Caeau Llandaf Babanod (Glan yr Afon); Wyndham Street (Glan
yr Afon); Ffordd Greenway (Tredelerch); Gerddi Catherine (Tredelerch);
Sgwâr Beaufort (Sblot); Horwood Close (Sblot); Gerddi Llyfrgell
Rhostir (Sblot); Runway Road (Sblot); Parc Sblot (Sblot); Parc
Tremorfa (Sblot); Wilkinson Close (Sblot); Cemaes Crescent –
Babanod (Trowbridge); Cemaes Crescent – Plant Iau (Trowbridge); Coleford
Drive (Trowbridge);Heol Maes Eirwg (Trowbridge);
Parc Treftadaeth (Trowbridge); Heol Brooker (Yr Eglwys
Newydd a Thongwynlais); Hollybush (Yr Eglwys Newydd a
Thongwynlais); Ironbridge Road (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais);
Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd – Babanod (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais);
Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd – Plant Iau (Yr Eglwys Newydd a
Thongwynlais).