Croeso i'r ddiweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: Y newyddion diweddaraf bod cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, galw ar y cyhoedd ddweud eu barn am barcio beiciau yng nghanol y ddinas a'r newyddion mai Gofal Maeth Caerdydd sy'n noddi Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru 2020.
Cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Bu cynnydd yn y dyddiau diwethaf yn nifer gyfartalog yr achosion positif o COVID-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gyda chynnydd amlwg yng Nghaerdydd ei hun.
Y gyfradd heintio bresennol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg yw 10.9 fesul 100,000 o bobl, yr uchaf ers dechrau mis Mehefin.
Er y disgwylir amrywiadau dyddiol yn y ffigurau, mae nifer yr achosion newydd yng Nghaerdydd, dros y 7 diwrnod diwethaf, wedi codi i 14.0 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Mae'r cynnydd hwn wedi gweld niferoedd yr achosion lleol yn symud o fod yn sylweddol is na'r cyfartaledd yn Lloegr i fod yn uwch na'r cyfartaledd (y cyfartaledd yn Lloegr yw 11.9 fesul 100,000 o bobl ar 18 Awst).
O fewn hyn, mae cyfradd y profion sy'n cael canlyniad positif hefyd wedi cynyddu, o 0.3% ar ddechrau mis Awst i 2.5% ar 22 Awst.
Mae'r ffigurau diweddaraf, a rennir gan bartneriaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro, hefyd yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion ymhlith oedolion yn eu 20au a'u 30au.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24593.html
Rydyn ni eisiau clywed eich barn am barcio beiciau yng Nghaerdydd
Gyda mwy o bobl yn dewis beicio yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad ar barcio beiciau yng nghanol y ddinas, i fanteisio ar y ddarpariaeth bresennol yn ogystal â nodi lleoliadau newydd i bobl gloi eu beic yn ddiogel.
Er mwyn cynorthwyo'r Cyngor yn yr adolygiad hwn, lluniwyd arolwg byr fel y gall y cyhoedd ddweud eu barn -https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159653507755
Yn gynharach eleni, cyflwynodd y Cyngor ei weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y ddinas drwy'r Papur Gwyn ar Drafnidiaeth. Rhan allweddol o'r weledigaeth hon yw gwella'r seilwaith ar gyfer beicio a cherdded.
Yn ogystal â darparu llwybrau diogel i feicwyr deithio, rhaid darparu digon o le i barcio beiciau er mwyn gwneud i feicwyr deimlo'n hyderus y gallant barcio eu beiciau'n ddiogel pan fyddant yn cyrraedd pen eu taith.
Bydd yr holl adborth a dderbynnir drwy'r arolwg yn cael ei asesu a bydd yn llywio'r adolygiad a gynhelir.
I lenwi'r arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol:https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159653507755
Mae Gofal Maeth Caerdydd yn falch o gefnogi Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru 2020
Mae Gofal Maeth Caerdydd yn noddi Wythnos Fawr Ar-lein Pride Cymru 2020 (24-30 Awst) gyda'r digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar y thema 'Eich Balchder'.
Oherwydd canllawiau COVID-19 y Llywodraeth ni fydd Pride Cymru yn cael ei gynnal fel arfer ond bydd yn parhau i ddathlu amrywiaeth drwy gyfres o ddigwyddiadau a sesiynau cydweithio ar-lein i godi ymwybyddiaeth o bynciau sy'n effeithio ar bobl LHDT+ ledled Cymru. Ewch iPride Cymru <https://www.pridecymru.com/>am ragor o wybodaeth.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24596.html