13/8/20
Mae'r band taro ‘Barracwda' sy'n chwarae rhythmau Affricanaidd a Brasilaidd wedi dod o hyd i gartref amgen ar gyfer eu hymarfer yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu.
Mae tua 30 aelod o'r band samba fel arfer yn dod at ei gilydd i gymysgu cerddoriaeth ffync, reggae a Jungle ond nid oeddent yn gallu ymarfer a chymdeithasu dan do yn y cyfnod cloi nac wrth i'r mesurau ymbellhau cymdeithasol fynd rhagddynt.
Cynlluniwyd y saith cwrt gweithgareddau awyr agored fel rhan o gynllun i wneud defnydd o ardaloedd awyr agored nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, gan gynnig lle preifat i weithgareddau grŵp i barhau mewn amgylchedd diogel.
Ers lansio'r cyrtiau'r mis diwethaf maent wedi bod yn ychwanegiad i'w groesawu i Barc Bute ac mae'r tîm yn derbyn archebion ar gyfer unrhyw grwpiau sy'n cael anhawster i ymarfer gweithgareddau fyddai fel arfer yn digwydd dan do.
Darllenwch fwy i gael gwybod sut mae'r grŵp wedi elwa'n bersonol o'r cynllun.
Ble rydych chi'n ymarfer fel arfer?
"Mae'r ymarfer fel arfer yn digwydd mewn neuadd fach. Oherwydd y cyfyngiadau ar gyfarfod dan do mewn grwpiau ar hyn o bryd, nid yw'n gyfreithiol bosibl ymarfer yn yr amgylchedd hwnnw.
Gan symud ymlaen, hyd yn oed pe bai'r cyfyngiadau ar ymgasglu o dan do yn llacio, gallai hyn achosi problemau gan fod ein grŵp fel arfer yn fwy na 30 o bobl mewn unrhyw sesiwn."
Beth mae'n ei olygu i allu ail-ddechrau eich busnes fel hyn?
"Mae'n caniatáu i'n harweinydd band dderbyn incwm wythnosol sydd heb fod yn bosibl ers dechrau'r cyfyngiadau.
O safbwynt y grŵp, mae'n rhoi amser sydd mawr ei angen i ni barhau i ymarfer a chadw'n ffres. Mae'r elfen gymdeithasol o ran gallu ail-ymgysylltu â ffrindiau hefyd yn ffactor bwysig."
Sut beth oedd y broses o archebu'r lle a gwneud i'ch sesiynau weithio mewn amgylchedd awyr agored?
Dywedodd Ben Meakin, Aelod o Bwyllgor Barracwda, "Yn bendant. Roedd y broses archebu yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn deg o ran pris. O ystyried ein bod yn grŵp perfformio cyhoeddus sydd fel arfer yn chwarae yn yr awyr agored, nid yw hyn wedi bod yn broblem."
Beth oedd y pethau cadarnhaol am ail-ddechrau a sut brofiad iddyn nhw oedd cymryd rhan yn eich sesiynau yn y Gored Ddu?
Dywedodd Ben Meakin, Aelod o Bwyllgor Barracwda: "Fel y soniwyd eisoes, mae chwarae yn yr awyr agored yn ail natur i ni gan mai dyma lle mae'r rhan fwyaf o'n sioeau yn cael eu cynnal. O safbwynt ymarfer, rydym wedi gorfod addasu ychydig o chwarae fel arfer yn dynn at ein gilydd, dan do, i fod wedi ymestyn allan, ond fel grŵp perfformio dydy addasu i chwarae mewn amgylcheddau gwahanol ddim yn broblem i ni.
Y pethau cadarnhaol i'r grŵp yw gallu ail-ymgysylltu â ffrindiau a dod at ein gilydd i wneud rhywbeth rydym i gyd yn ei fwynhau ac wedi ei golli yn fawr. Mae'n fanteisiol i bawb o safbwynt ymarfer corff a lles meddyliol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi un o'r cyrtiau awyr agored neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys prisiau, ewch i dudalennau gwybodaethParc Bute.