Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (27 Gorffennaf)

 

21/07/20 - Datganiad Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd am effaith Covid-19

Canfu adroddiad Sound Diplomacy am sector cerddoriaeth Caerdydd a sbardunodd greu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd fod cerddoriaeth fyw yn creu 70% o'r swyddi yn y sector cerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yn creu 65% (£45.6 miliwn) o'r incwm.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24398.html

 

22/07/20 - Amgueddfa Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Amgueddfa Da i Deuluoedd

Mae Amgueddfa Caerdydd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Gwobr Da i Deuluoedd Plant Mewn Amgueddfeydd o Gartref' yn y categori 'gweithgaredd gwefan gorau' ar gyfer eu gweithgareddau 'Fy Amgueddfa'.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24401.html

 

22/07/20 - Cyfle i wirioni wrth i'r Sialens Ddarllen yr Haf ddychwelyd

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl yn Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd y haf hwn gan roi pwyslais ar gael hwyl a sbri!

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24404.html

 

22/07/20 - Awydd Caerdydd i anrhydeddu ‘Torwyr Codau' y ddinas

Nod gweithgor newydd a dynnwyd ynghyd gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fydd dod o hyd i ffordd o anrhydeddu a hyrwyddo hanes arwyr chwaraeon anhygoel Caerdydd, a adawodd eu cartrefi ar drywydd llwyddiant fel chwaraewyr Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24406.html

 

23/07/20 - Mwy o safleoedd ‘un toriad' sy'n dda i beillwyr wedi'u cadarnhau i barciau Caerdydd

Mae 2.6 hectar ychwanegol o barcdir yng Nghaerdydd yn symud at gyfundrefn torri gwair ‘un toriad' sy'n fuddiol i beillwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24414.html

 

23/07/20 - Cerflun o'r masnachwr caethweision Thomas Picton i'w dynnu a'i symud

Mae cerflun o'r masnachwr caethion ac arwr rhyfel Waterloo, Syr Thomas Picton, i'w dynnu a'i symud o Neuadd Farmor yr Arwyr yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24419.html

 

24/07/20 - Y 10 eitem y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y - Ydych chi'n gwybod ble i rhoi'ch eitemau?

Mae'r eitemau y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y wedi'u datgelu ac efallai y cewch eich synnu at rai o'r eitemau na ddylech eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24425.html

 

24/07/20 - Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yn ailagor yr wythnos nesaf yn dilyn arolygiadau

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn cael eu hailagor Ddydd Llun (27 Gorffennaf) yn dilyn y 30 safle cyntaf i gael eu hagor yr wythnos ddiwethaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24427.html

 

24/07/20 - Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd: Mwy o gymorth i bobl ifanc yn ystod COVID-19

Mae mwy o ddarpariaeth a chymorth ar gael i bobl ifanc gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd er mwyn ateb galw mwy yn ystod COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24433.html