Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Gorffennaf

Y diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: awydd Caerdydd i anrhydeddu 'Torwyr Codau' y ddinas; gyda'n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel, ymgyrch sy'n annog pobl i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol; rhaglen arweinyddiaeth rithwir am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed; a blas ar Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn eich cartref eich hun.

 

Awydd Caerdydd i anrhydeddu ‘Torwyr Codau' y ddinas

Nod gweithgor newydd a dynnwyd ynghyd gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fydd dod o hyd i ffordd o anrhydeddu a hyrwyddo hanes arwyr chwaraeon anhygoel Caerdydd, a adawodd eu cartrefi ar drywydd llwyddiant fel chwaraewyr Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr.

Roedd nifer o chwaraewyr gorau erioed y cod gogleddol yn hanu o Gaerdydd, llawer ohonynt yn chwaraewyr croenddu yr oedd rhaid iddynt adael de Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd. Aethant yn eu blaen i chwalu rhwystrau a dod yn arwyr ac yn fodelau rôl i gannoedd o filoedd o bobl rhwng y 1920au a'r 1970au.

Yn dilyn y diddordeb enfawr a grëwyd gan raglen ddogfen deledu'r BBC "The Rugby Codebreakers", mae nifer o grwpiau wedi dod ymlaen i geisio adeiladu ar y momentwm a grewyd gan y straeon am chwaraewyr fel Billy Boston, Jim Sullivan, Roy Francis, Colin Dixon, Johnny Freeman a Clive Sullivan.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae'r Cyngor yn cael cyswllt rheolaidd i weld sut y gellir dathlu'r cyfraniadau eithriadol a wnaed gan gynifer o'n chwaraewyr amlycaf. Ond beth ddaeth yn amlwg o'r rhaglen ‘Codebreakers' oedd sut mae stori rygbi'r gynghrair wedi mynd yn ddisylw i raddau helaeth yma, a beth sy'n hynod ddiddorol yw'r cefndir cymdeithasol a hiliol y tu ôl i pam aeth cymaint o chwaraewyr i Ogledd Lloegr.

"Wrth i ni i gyd fynd ati i ystyried ymgyrch Mae Bywydau Duon o Bwys a meddwl am sut mae Hanes Pobl Dduon yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu yn ein mannau cyhoeddus, mae stori'r ‘Codebreakers' yn amlwg yn un sy'n berthnasol heddiw. Roedd llawer o'r dynion anhygoel hyn yn Ddu, ac roedd llawer yn teimlo bod rhaid iddynt adael Caerdydd er mwyn cael cyfle mewn bywyd. Aethant ymlaen i fod yn sêr enfawr ac yn fodelau rôl gwych, ac eto nid oes cerflun neu blac yn eu tref enedigol i ddathlu hynny."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24406.html

 

Gyda'n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel

Mae ymgyrch yn lansio heddiw ar draws Cymru i annog pobl i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn bryderus bod aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wedi gweld lleihad mewn atgyfeiriadau i'w gwasanaethau ers y cyfyngiadau. Mae camdriniaeth, esgeulustod a niwed yn dal i ddigwydd ond mae'r cyfleoedd i adnabod yr arwyddion wedi lleihau oherwydd bod mynediad cyfyngedig i leoliadau gofal plant, ysgolion a sefyllfaoedd cymdeithasol.

Yn awr, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gofalu am ein gilydd ac yn annog pobl i gysylltu â'u gwasanaethau cymdeithasol lleol neu ffonio 101 os ydynt yn poeni bod rhywun mewn perygl.

Ewch i'r wefan Iach a Diogel https://llyw.cymru/iach-a-diogel/cadw-pobl-yn-ddiogeli  gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol lleol a sut i fynegi pryder. Os yw eich galwad yn un brys ffoniwch 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Gyda'n gilydd gallwn gadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel.

 

Rhaglen Arweinyddiaeth Rithwir Am Ddim ar gyfer pobl ifanc 11-15 mlwydd oed

Bydd cyfle i ddisgyblion 11-15 mlwydd oed yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth rithwir yn ystod gwyliau'r haf. Bydd yr Arweinwyr Cymdeithasol Byd-eang yn helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau arweinyddiaeth, byd gwaith y dyfodol a magu hyder yn ystod 3 awr o wersi a gweithdai ar-lein bob dydd am wythnos.

Bydd gofyn i gyfranogwyr ymrwymo i ddim ond 5 bore o wersi ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw, ac yna byddan nhw'n gallu manteisio ar adnoddau ar-lein a mentor bugeiliol. Bydd ein Tîm sy'n Ystyrlon o Blant wedyn yn helpu cyfranogwyr i roi tîm at ei gilydd a sefydlu eu project gweithredu cymdeithasol eu hunain ym mis Medi.

Bydd lleoedd ar y rhaglen yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin ac mae'n agored i bobl ifanc ar draws 10 gwlad felly cofiwch hyrwyddo'r cyfle'n eang ac annog unigolion i gofrestru cyn gynted â phosibl.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cynlluniad rhithwir i ddisgyblion a digwyddiad gyda'r nos i rieni, lle y gellir ateb unrhyw gwestiynau. Amgaeir y manylion yn y pecyn gwybodaeth.

Mae'r rhaglen yn agored i ddisgyblion Caerdydd sy'n mynychu ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn dilyn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Addysg Caerdydd, Foundation UK a Wellington Leadership Institute.

Dysgwch ragor a chofrestrwch yma:

https://www.globalsocialleaders.com/gsl-summer-catalyst-at-home/

 

Beth am flasu Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd o garreg eich drws?

Bob blwyddyn, daw mwy na 100 o gynhyrchwyr crefftus, masnachwyr bwyd annibynnol a gwerthwyr bwyd stryd i osod stondinau ym Mae Caerdydd ar benwythnos cyntaf mis Gorffennaf ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd - ond eleni caiff y bwyd (ynghyd â blas o'r profiad gŵyl) ei ddosbarthu yn syth at eich drws.

Mae gwefan newydd yr ŵyl yn cynnal ryseitiau, cerddoriaeth a marchnad ar-lein lle y gall ymwelwyr archebu ystod o fwyd a diod lleol a rhyngwladol o'r ansawdd gorau - pethau fel cacennau blasus, marinadau, olew â blas, cyffeithiau, jin a seidr arbenigol, a mwy - yn uniongyrchol o'r bobl sy'n eu cynhyrchu:

https://www.cardifffoodanddrinkfestival.com/

Bydd gwefan Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ar gael drwy gydol mis Gorffennaf.