Back
Datganiad Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd am effaith Covid-19
Canfu adroddiad Sound Diplomacy am sector cerddoriaeth Caerdydd a sbardunodd greu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd fod cerddoriaeth fyw yn creu 70% o’r swyddi yn y sector cerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yn creu 65% (£45.6 miliwn) o'r incwm.

Gyda lleoliadau cerddoriaeth ar gau ar hyn o bryd, gwyliau wedi’u canslo a Covid 19 yn effeithio ar stiwdios recordio, addysg cerddoriaeth a llawer o feysydd eraill o’r sector cerddoriaeth, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a’r heriau sydd wedi codi i’r diwydiant. Bellach mae’r bwrdd yn galw am fwy o eglurder ar y canllawiau ar gyfer y sector, yn enwedig ynghylch digwyddiadau, casgliadau torfol a’r amserlinau disgwyliedig i gyngherddau a pherfformiadau ailddechrau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ni ellir cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw dan do neu yn yr awyr agored ar hyn o bryd, ond mae aelodau'r Bwrdd Cerddoriaeth yn unfryd yn eu hawydd i helpu i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i'r ddinas cyn gynted â phosibl, unwaith y bydd y rheolau wedi'u llacio. Mae llawer o resymau am hynny – yn amlwg mae yna werth diwylliannol enfawr i gael cerddoriaeth yn ein bywydau, ond mae cerddoriaeth fyw hefyd yn rhan hanfodol o economi ddiwylliannol a nos Caerdydd.

"Cyn Covid-19, ein bwriad oedd integreiddio cerddoriaeth i bob agwedd o'r ddinas – nawr, gyda swyddi ac incwm pobl a chwmnïau yn y diwydiant cerddoriaeth mewn perygl, rydym yn wynebu set newydd o heriau. 

"Bydd gwaith y Bwrdd Cerddoriaeth i gyflawni ein dyheadau i fod yn ddinas cerddoriaeth a gweithredu’r argymhellion yn adroddiad Strategaeth Cerddoriaeth Sound Diplomacy yn parhau ac mae sgyrsiau cynhyrchiol yn cael eu cynnal am feysydd mor amrywiol â rheoliadau clera a chyfleoedd mapio ar gyfer addysg gerddoriaeth yng Nghaerdydd, ond y gwir yw, oherwydd yr heriau a wynebir gan y sector cerddoriaeth yn sgîl Covid-19, ni fydd cynnydd yn hawdd.

"Ein ffocws allweddol ar hyn o bryd yw dod o hyd i ffyrdd o gefnogi adferiad sector cerddoriaeth Caerdydd – sector sydd wedi cael ei fwrw'n galed iawn gan y pandemig a rheoliadau’r cyfnod cloi yr oedd rhaid eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

"Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi gael eu llacio, mae cynlluniau'r Cyngor ar gyfer Caerdydd Ddiogelach yn cynnwys creu 'parthau estynnol', lleoedd newydd yng nghanol y ddinas ar gyfer caffis a bwytai i estyn eu busnes iddynt – mae tir Castell Caerdydd hefyd wedi cael ei agor fel sgwâr cyhoeddus am ddim.

"Os gall pobl fwynhau cerddoriaeth fyw yn ddiogel yn y mannau hyn, mae'n rhoi rheswm arall iddynt dreulio amser yng nghanol y ddinas a chefnogi economi'r ddinas. Fodd bynnag, heb newidiadau neu eglurhad o'r rheolau cenedlaethol cyfredol ynglŷn â digwyddiadau cerddoriaeth fyw, nid oes modd symud ymlaen gyda'r cynlluniau hyn.

"Mae pob aelod o'r Bwrdd Cerddoriaeth, fel minnau, yn awyddus i gael cerddoriaeth fyw, boed hynny'n ganu ym mhen stryd neu gerddoriaeth mewn digwyddiadau mwy rheoledig, i chwarae'r rôl sylweddol y gallai ei wneud yng nghynllun ehangach y Cyngor i ddiogelu swyddi, creu cyffro yn y ddinas eto a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar sy'n denu pobl yn ôl i ganol y ddinas.

"Mae'r bwrdd yn barod i weithio trwy'r cynlluniau hyn, fel y gallwn ni unwaith eto groesawu cerddoriaeth fyw yn ôl i Gaerdydd pan ddaw'r amser a bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn ei ganiatáu, a byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch sut a phryd y gallai hynny ddigwydd."

Llun trwy garedigrwydd On Par/Clwb Creative a dynnwyd yr wythnos diwethaf mewn cyngerdd Panic Shack a ffrydiwyd yn fyw o Cultvr