Back
Strategaeth ddatblygu newydd a "datganiad cyhoeddus" o ymrwymiad i weddnewid cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd

30/06/20

Cafodd cynllun dwy flynedd ei gyhoeddi heddiw i weddnewid cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd.

Mae "Ein Dyfodol ni i Gyd" - y Strategaeth Datblygu Cyfiawnder Ieuenctid (2020 i 2022), wedi'i lofnodi gan uwch aelodau o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, sef y corff sy'n dod â'r holl bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus strategol sy'n gweithio yng Nghaerdydd at ei gilydd.

Bydd y strategaeth yn helpu i fynd i'r afael yn well â'r peryglon y mae rhai plant yng Nghaerdydd yn eu hwynebu, gan gynnwys bod yn dargedau i gamfanteisio troseddol.

Mae pedair agwedd, sydd wedi'u datgan yn glir, ar yr ymrwymiad a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i drawsnewid gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd:

 

  1. Sicrhau bod ffocws i arweinyddiaeth a rheolaeth a'i fod yn effeithiol
  1. Defnyddio data a dadansoddiadau a rennir yn well i gefnogi plant ac asesu gwasanaethau
  1. Sicrhau y gall staff ar draws gwasanaethau weithio'n effeithiol 
  1. Cynnig gwasanaethau gwell i blant a theuluoedd sy'n cyflawni ein hamcanion

 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, Charles Janczewski, Is-Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd ac Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru:

"Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd yn cymeradwyo ac yn cefnogi'r strategaeth hon sy'n nodi ein prif amcanion a sut y byddwn yn mesur llwyddiant erbyn 2022.

"Drwy lofnodi'r strategaeth ddatblygu hon, rydym yn gwneud datganiad cyhoeddus o'n hymrwymiad i drawsnewid y gwasanaethau, ac i sicrhau gwelliant parhaol a pharhaus mewn cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd.  Bydd hyn yn golygu canlyniadau gwell i'r plant yn y system cyfiawnder ieuenctid.  Mae'r cynnydd hwnnw mewn effeithiolrwydd hefyd yn ymwneud â lleihau troseddu ac mae er budd dioddefwyr.

"Fel partneriaid, rydym yn defnyddio'r strategaeth hon i ddatgan yr hyn fyddwn yn ei wneud gyda'n gilydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a sut byddwn yn gwybod ein bod yn gwneud gwahaniaeth, i sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc Caerdydd.

"Rydym eisoes wedi ail-lunio strwythur yr arweinyddiaeth, yn seiliedig ar asesiad annibynnol o'n harferion gwaith a gyflawnwyd dros y 12 mis diwethaf, ac rydym wedi defnyddio cyngor cenedlaethol i helpu asesu'r hyn sydd angen i ni ei wneud i wella.

"Mae Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi hefyd wedi atgyfnerthu ein dadansoddiad ein hunain o'r gwasanaeth ac wedi pwysleisio'r heriau rydym wedi eu rhoi i ni ein hunain er mwyn trawsnewid cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd.  Roeddem ni'n gwybod bod rhaid i ni weithio'n galed ac yn gyflym i sicrhau newid.  Y strategaeth hon yw canlyniad y gwaith hwnnw.  

"Mae wedi cael ei gydnabod bod ein staff rheng flaen yn amlwg yn llawn cymhelliant ac yn fedrus iawn. Drwy sicrhau bod yr arweinyddiaeth a'r drefniadaeth angenrheidiol yn eu lle, rydym yn adeiladu ar, ac yn gwella'r cryfder hwnnw a brofwyd.

"Wrth wraidd ein gwaith mae'r ffaith mai plant yw'r bobl ifanc yr ydym yma i'w helpu, yn flaenaf, a dim ond yn ail y maent yn blant sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid.

"Bydd ein dyheadau i weddnewid gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghaerdydd yn cael eu cyflawni pan: fydd gan ein sefydliadau ddulliau cyffredin o weithio gyda'r plant hyn; fydd y timau staff yn fedrus iawn, ac yn cael eu cymell a'u cefnogi; fyddwn yn canolbwyntio ar wella perfformiad pob rhan o'r system; fydd yr ystod o wasanaethau a gynigiwn yn addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc; a bod arweinyddiaeth y system yn canolbwyntio'n dynn ar sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn nawr - a'r pethau iawn ar gyfer y dyfodol. "

Dywedodd Graham Robb, Cadeirydd Annibynnol newydd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd:

"Mae'r strategaeth hon wedi cael ei datblygu gyda staff, pobl ifanc, y Cyngor a sefydliadau partner - felly mae'n ddatganiad ar y cyd grymus iawn am y dyheadau sydd gan Gaerdydd ar gyfer rhai o'r plant sydd fwyaf tebygol o achosi niwed neu gael eu niweidio gan eraill. Yr hyn sy'n bwysig yn awr yw cyflawni hyn ac rwy'n falch o'r cynnydd cyflym a wnaed yn ystod y ddeufis diwethaf a'r ymrwymiad amlwg i gyflawni'r nodau a ddangosir - o'r staff rheng flaen i arweinwyr gwasanaethau i'r Cyngor a phartneriaid strategol."

Mae'r strategaeth yn nodi y bydd gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid Caerdydd yn gwneud y gorau dros y plant hyn drwy:

  • Clywed a deall y plentyn a'i brofiadau
  • Gosod dyheadau uchel i'r plant ym mhob agwedd o'u bywyd 
  • Gweithio gyda phartneriaid i atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn cadw plant yn ddiogel a diogelu'r cyhoedd
  • Dargyfeirio pobl ifanc at ddewisiadau amgen i'r system cyfiawnder troseddol pan mai dyna'r peth iawn i'w wneud
  • Sicrhau bod gwaith gyda phobl ifanc a orchmynnir gan lysoedd yn effeithiol o ran dargyfeirio'r plentyn oddi wrth droseddu
  • Meithrin gwydnwch pobl ifanc i ymatal rhag troseddu
  • Gweithio gyda dioddefwyr troseddau a gyflawnwyd gan bobl ifanc i'w helpu i wneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd a delio â'r niwed a brofwyd ganddynt
  • Sicrhau, os caiff plentyn ei ddedfrydu i fod dan glo, ein bod yn gwneud ein gorau i'w helpu i gymryd camau cadarnhaol pan gaiff ei ryddhau o'r ddalfa

 

Mae'r strategaeth cyfiawnder ieuenctid yn cyd-fynd â nifer o gynlluniau ledled y ddinas, gan gynnwys Cynllun Lles Caerdydd, sy'n gwneud ymrwymiad penodol i 'leihau troseddu a gwella cyfleoedd bywyd ar gyfer y grŵp oedran 18-25 drwy ddatblygu dull integredig, â ffocws lleol, o reoli troseddwyr'. Mae hefyd yn gyson â dyheadau'r Cynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd hefyd wedi nodi cyfres o ddangosyddion canlyniadau i fesur cynnydd y Cynllun Lles, gan gynnwys y 'gyfran o droseddwyr sy'n aildroseddu (oedolion a phobl ifanc) yn gyffredinol yn ystod y 12 mis blaenorol.'

Mae copi llawn o Strategaeth Datblygu Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd (2020 i 2022) ar gael i'w lawrlwytho yma:

http://app.prmax.co.uk/collateral/167078.pdf