Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: y newyddion bod canolfannau ailgylchu yn ailagor, manylion ar sut i archebu slot i'w defnyddio a'r eitemau y gallant eu derbyn; mae casgliadau gwastraff yn mynd rhagddynt fel arfer ddydd Llun, er gwaethaf Gŵyl y Banc; a beth i'w wneud os ydych yn derbyn e-bost neu destun gyda chyngor ar y dreth gyngor.
Cyfle i archebu ar-lein i ddefnyddio canolfannau ailgylchu Caerdydd ar gyfer eitemau cyfyngedig yn unig
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu y bydd canolfannau ailgylchu Caerdydd yn ailagor i waredu eitemau cyfyngedig yn unig, ond am resymau diogelwch, bydd gofyn i breswylwyr archebu apwyntiad mewn amser penodol gyda Chyngor Caerdydd.
Bydd Canolfan Ailgylchu Clos Bessemer yn ailagor ddydd Mawrth nesaf, 26 Mai, ac yna bydd Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby yn ailagor ddydd Sul, 31 Mai.
Mae system archebu ar-lein wedi'i chreu a bydd rhaid i unrhyw un sydd angen ymweld â chanolfan ailgylchu wneud apwyntiad. Bydd y system archebu ar-lein ar gael i'r cyhoedd ei defnyddio o 12.30pm fory - 22 Mai.
Yr unig eitemau y gellir eu cyflwyno i'r canolfannau ailgylchu am y tro yw cardfwrdd, pren, gwastraff gardd, metel sgrap, eitemau trydanol bach a phlastigau caled.
I helpu preswylwyr i waredu eitemau mwy o faint bydd gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor yn ailddechrau hefyd o ddydd Llun, 1 Mehefin.
Mae cynlluniau manwl wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y rheolir ymweliadau'r preswylwyr â'r canolfannau ailgylchu mewn modd diogel gan gydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Bydd y canolfannau ailgylchu ar agor rhwng 8:30am a 4:30pm saith diwrnod yr wythnos. Dim ond ar-lein y gall preswylwyr archebu apwyntiad www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu. Ni chaniateir mynediad i'r safle i unrhyw berson a ddaw i'r canolfannau heb apwyntiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod nawr yn gallu ailagor y canolfannau ailgylchu a hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd. Fodd bynnag, mae'r rheolau ymbellhau cymdeithasol newydd yn golygu nad yw'n bosib cynnal y gwasanaeth fel yr oeddem yn ei wneud cyn argyfwng COVID-19.
"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein preswylwyr a'n staff yn ddiogel yn y cyfleusterau hynny. Bu'n rhaid ail-ddylunio'r safleoedd fel y gellir cydymffurfio â'r rheolau ymbellhau cymdeithasol a bu'n rhaid i ni gyflwyno system archebu fel y gallwn reoli pobl trwy'r broses wrth gadw pawb yn ddiogel."
Mae'r rheolau newydd a gynlluniwyd i gadw preswylwyr a staff yn ddiogel yn cynnwys y canlynol:
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Roedd rhaid i ni roi'r systemau hyn ar waith er mwyn rheoli'r safleoedd yn effeithiol. Mae'n bosib iawn y gallai fod mwy o draffig na'r arfer wrth nesáu'r cyfleuster, felly bydd angen i bawb fod yn amyneddgar. Mae'n bwysig nad yw pobl yn cyrraedd yn rhy gynnar, eu bod yn dod dim ond os oes ganddynt apwyntiad, a'u bod yn dod dim ond ag eitemau a dderbynnir yn bresennol yn y cyfleusterau hyn.
"Rwy'n sicr bod llawer ohonom ni wedi gweld y ffordd y mae archfarchnadoedd wedi newid eu ffordd o weithredu i ddarparu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. Mae systemau ciwio wedi eu rhoi ar waith a dyma'n union beth sydd angen i ni ei wneud yma. Rwy'n gofyn i bawb fod yn amyneddgar a pheidio â threfnu apwyntiad oni bai bod gwir angen arnoch. Gofynnwch i chi eich hun a yw hyn yn hanfodol yn y lle cyntaf.
"Mae'n werth cofio bod bagiau ailgylchu gwyrdd yn cael eu casglu'n wythnosol erbyn hyn o ymyl y ffordd a byddwn yn ailddechrau'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus o 1 Mehefin."
Cwestiynau ac atebion ar ganolfannau ailgylchu Caerdydd.
Gŵyl y Banc Diwedd Mis Mai - Dim Newid i Ddyddiadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd eich diwrnod casglu yn aros yr un fath dros Ŵyl y Banc diwedd mis Mai, ond mae'n bosibl y bydd amseroedd y casgliad yn newid felly gofalwch eich bod yn rhoi eich gwastraff allan erbyn 6am.
Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff ar waith ddydd Llun 25 Mai ac ni fydd unrhyw newid i ddyddiadau casglu am weddill yr wythnos.
Bydd ein tîm casglu gwastraff yn gweithio drwy gydol gŵyl y banc i sicrhau bod y gwasanaeth casglu yn parhau'n effeithiol.
Ailgylchu
Gofynnwn i chi barhau i wahanu deunyddiau ailgylchu, yn union fel y byddech yn ei wneud fel arfer, oherwydd rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw le yn eich bin du/ bagiau streipiau coch ar gyfer yr eitemau hynny pe na baech yn cael casgliad bagiau ailgylchu.
Mae Caerdydd am fod y ddinas ailgylchu orau yn y byd, felly rydym am i chi barhau i ddefnyddio eich bagiau gwyrdd ailgylchu, er mwyn cynnal arferion da ar gyfer pan fydd yr argyfwng drosodd.
Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn dychwelyd i'r arfer o ddydd Llun 1 Mehefin.
Mae hynny'n golygu:
Os nad ydych yn siŵr os oes modd rhoi eitem benodol yn eich bag ailgylchu gwyrdd, darllenwch ein canllaw Ailgylchu A-Y.
Cyngor ar y Dreth Gyngor - Negeseuon Testun ac E-byst
Fel arfer, ar ddiwedd mis Ebrill, bydd Cyngor Caerdydd yn anfon llythyrau atgoffa i'r trigolion hynny sydd heb dalu rhandaliad Treth Gyngor cyntaf y flwyddyn ariannol newydd, ac i'r rhai sydd mewn dyled iddynt mewn perthynas â Threth Gyngor y flwyddyn gynt.
Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, nid yw Cyngor Caerdydd wedi anfon llythyrau atgoffa eleni, ac yn hytrach mae wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst at y trigolion hynny sydd wedi darparu rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost.
Yn dilyn cynllun peilot yn y Mynydd Bychan, Treganna a Phontprennau yr wythnos diwethaf, mae'r Cyngor wedi dechrau anfon negeseuon testun ac e-byst i ardaloedd eraill, gyda thrigolion sy'n byw yn in Radyr, Fairwater, Llanishen, Sain Ffagan, Tongwynlais, Trowbridge, Eglwys Newydd, Grangetown and Thornhill bellach yn dechrau eu derbyn.
Os yw'r dull hwn yn ddull effeithiol o annog trigolion i fanteisio ar yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys gwneud cais i gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, bydd rhagor o destunau ac e-byst yn cael eu cyflwyno.