Back
Diweddariad COVID-19: 12 Mai

Dyma'r wybodaeth COVID-19 ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymdrin â: teyrnged i'r GIG ar lawntiau Neuadd y Ddinas; clod i ysgolion am gyfrannu CDP; Tai Ar-lein i arbed amser i denantiaid; a Grassroots yn dosbarthu parseli bwyd.

 

Parciau Caerdydd yn talu teyrnged i'r GIG ar lawntiau Neuadd y Ddinas

Ymddangosodd y 'GIG' mewn llythrennau saith metr ar y lawntiau y tu allan i Neuadd y Ddinas fel rhan o deyrnged gan dîm parciau Cyngor Caerdydd i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

https://filebox-bc764e08f3d5.s3.eu-west-1.amazonaws.com/outbox/57232cbe-9465-11ea-97d3-bc764e084420

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae staff sy'n gweithio yn y GIG yn gwneud gwaith gwych ac roeddem am ddefnyddio ein parciau i ddangos ein diolch a'n gwerthfawrogiad am bopeth maen nhw'n ei wneud i ofalu am bob un ohonom, yn ystod y sefyllfa anodd hon."

"Efallai mai dim ond tair llythyren sydd yn y deyrnged hon ond dylai pobl wybod fod y rhestr o bobl sydd yn haeddu ein diolch yn llawer, llawer hwy - mae ein gofalwyr cartref, y bobl sy'n dal i fod allan yn casglu biniau, ein tîm gwasanaethau profedigaeth a llawer, llawer mwy mewn gwasanaethau ar draws y Cyngor, yn parhau i ateb yr heriau y mae Covid-19 yn eu gosod."

 

Clod i ysgolion uwchradd Caerdydd am gyfrannu Cyfarpar Diogelu Personol

Mae ysgolion uwchradd Caerdydd wedi bod yn cefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen ar draws y ddinas trwy ddarparu miloedd o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol (CDP) yn ystod argyfwng COVID-19.

Amcangyfrifir bod dros 10,000 o fygydau wyneb a fisorau eisoes wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio offer a deunyddiau llawer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Choleg Dewi Sant.

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Uwchradd Llanisien wedi darparu asetad ychwanegol ar gyfer gweithgynhyrchu a bydd Ysgol Uwchradd Willows yn derbyn offer yr wythnos hon fel y gallan nhw hefyd ddechrau cynhyrchu CDP gwerthfawr.

Mae sawl ysgol, gan gynnwys Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Llanisien, Corpus Christi a Cathays, hefyd wedi cyfrannu miloedd o eitemau o blith eu stoc o goglau, menig, ffedogau a mygydau gwyddoniaeth, sydd i gyd yn cael eu defnyddio gan ysbytai, meddygfeydd, nyrsys ardal, cartrefi gofal, fferyllfeydd a gweithwyr gofal yn y gymuned sydd ar y rheng flaen.

Yn ogystal, mae staff o Adran Dylunio, Technoleg a Thecstilau Ysgol Gymraeg Glantaf wedi gwneud 175 o fagiau i ddal sgrybs ac maent bellach wedi symud ymlaen i gynhyrchu sgrybs yn unol â chanllawiau'r GIG, gyda'r targed o 70 tiwnig yr wythnos.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n anhygoel clywed am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion i gefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen yn ystod y pandemig.

"Mae haelioni'r staff, y disgyblion a'u cymunedau ysgol ehangach wrth gyfrannu'r cyfarpar yn eithriadol. Bydd llawer o ysgolion yn gorfod ail-brynu eitemau pan fydd yr ysgolion yn agor eto, felly hoffwn eu canmol am eu caredigrwydd a diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli."

Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays bellach yn cynhyrchu fisorau sy'n addas i'w defnyddio wrth weithio gyda phlant. Cyflwynodd y disgyblion eu syniadau dylunio eu hunain a chafodd dros 100 o'r fisorau newydd eu hanfon i Hosbis Plant Tŷ Hafren yr wythnos hon.

Mae staff hefyd yn trawsnewid duvets diangen i fagiau sgrybs ac mae'r ysgol wedi sefydlu system archebu ar-lein i reoli'r galw.

 

Tai Ar-lein i arbed amser i denantiaid

Erbyn hyn mae'n gyflymach ac yn haws i denantiaid Cyngor ledled y ddinas reoli eu cyfrifon rhent.

Datblygwyd Tai Ar-lein ar wefan y Cyngor i alluogi tenantiaid i reoli eu cyfrifon rhent ar-lein.

Gall tenantiaid eisoes wneud taliadau rhent ar-lein ond mae Tai Ar-lein yn rhoi mwy o reolaeth i denantiaid gan eu bod bellach yn gallu gwirio eu balans, trafodion a chyfriflenni diweddaraf, gweld eu rhestr daliadau a diweddaru gwybodaeth bersonol megis manylion cyswllt, heb orfod cysylltu â'r timau rhent ar y ffôn neu drwy hybiau.

Ar adeg pan fo angen i fwy ohonom aros gartref yn ystod yr argyfwng iechyd presennol, ni fu erioed gwell amser i gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein. Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd - dim ond ei rif cyfeirnod person a chyfeiriad e-bost gweithredol fydd ei angen ar y Tenant.

Os nad yw'r Tenant yn gwybod ei rif cyfeirnod person, gall e-bostioCymorthTaiArlein@caerdydd.gov.ukgan nodi ei enw llawn a'i gyfeiriad a byddwn yn anfon rhif cyfeirnod person ato drwy'r post.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Tai/tai-ar-lein/Pages/default.aspx

 

Grassroots yn dosbarthu parseli bwyd

Mae gweithwyr ieuenctid o Grassroots, sy'n rhan o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, wedi dosbarthu mwy na 40 o barseli bwyd brys i bobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghaerdydd.

Rhoddwyd parseli o fwyd, deunyddiau ymolchi a chynnyrch misglwyf gan Sainsbury's, Heol y Frenhines a Morrisons yn Llanisien a'u dosbarthu i bobl ifanc agored i niwed sy'n cael trafferth cael gafael ar fwyd a darpariaethau hanfodol.

Dosbarthwyd llawer o'r parseli gan Weithwyr Cymorth Ieuenctid Grassroots, Addysg Heblaw yn yr Ysgol, staff a Mentoriaid Ieuenctid sy'n gweithio gyda phobl ifanc o dan 16 a hŷn. 

Mae staff Grassroots i gyd yn gweithio o bell ar-lein ac maent wedi bod yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â phobl ifanc sy'n defnyddio'r project.  Mae galwadau, negeseuon testun a negeseuon Facebook rheolaidd yn cael eu gwneud tair gwaith yr wythnos i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae'r bobl ifanc yn mwynhau'r cyswllt hwn yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau estynedig ac allgau cymdeithasol gorfodol. 

Mae Gweithwyr Ieuenctid wedi bod yn defnyddio'r dulliau hyn i gyfeirio pobl ifanc tuag at weithgareddau ymarferol, adnoddau addysgol defnyddiol, manylion am fanciau bwyd, Hybiau  a darparwyr bwyd brys, trafod iechyd a materion yn ymwneud â beichiogrwydd ac yn sicrhau yn gyffredinol bod cyfathrebu yn parhau mor naturiol â phosibl.

Mae gwaith caled ac ymroddiad y Gweithwyr Ieuenctid hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ifanc ar hyd a lled y ddinas.