Back
Diweddariad COVID-19: 7 Mai

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd.

Heno: cyfle i ddarllen eto y cynlluniau ar gyfer nodi Diwrnod VE yng Nghaerdydd; Arweinydd ac Aelod o Gabinet y Cyngor gofyn i chi rannu'r neges: 'aros gartref, aros yn ddiogel'; cyhoeddi cymorth ariannol i gartrefi gofal Caerdydd; ailfodelu mannau cyhoeddus y ddinas er diogelwch; a Proms Cymru wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws.

Bydd diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd yn dychwelyd ddydd Llun. Yn y cyfamser, gobeithio y cewch benwythnos Gŵyl Banc da, ac yn anad dim, cadwch yn ddiogel.

Diolch am ddarllen.

 

Caerdydd yn nodi Diwrnod VE

Cliciwch yma i weld unwaith eto sut mae Caerdydd yn nodi Diwrnod VE yfory:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23802.html

Dilynwch Gyngor Caerdydd drwy gydol y dydd ar Twitter, Facebook ac Instagram am lawer o gynnwys arbennig yn ymwneud â Diwrnod VE, gan gynnwys neges fideo gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas; fersiynau lliwgar newydd sbon o luniau a gymerwyd yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod VE, 75 o flynyddoedd yn ôl; a detholiad o luniau o'n harchifau.

 

Rhannwch y neges: ‘aros gartref, aros yn ddiogel'

Annwyl Drigolion Caerdydd

Fel y gwyddoch, mae parciau Caerdydd wedi aros ar agor drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn aros ar agor, fel y gall trigolion nad ydynt yn ddigon ffodus i gael eu lle hunain yn yr awyr agored, gael mwynhau manteision iechyd meddwl a chorfforol wrth  ymarfer corff yn ardaloedd gwyrdd y ddinas.

Yn gyffredinol, mae pobl yn glynu wrth yr ymbellhau cymdeithasol, ond gan fod Gŵyl y Banc yn agosáu a rhagolygon tywydd da am ran o'r penwythnos o leiaf, rydym yn disgwyl i barciau'r ddinas fod yn brysurach nag a welwyd o'r blaen.

Felly, gofynnwn i chi helpu i ddiogelu ein gweithwyr allweddol drwy rannu'r neges, a pharhau i aros gartref, aros yn ddiogel a chynnal pellter cymdeithasol diogel o ddau fetr os oes rhaid i chi ddefnyddio parciau'r ddinas ar gyfer eich ymarfer corff dyddiol.

Dros gyfnod tridiau gŵyl y banc bydd staff ein tîm parciau yn gweithio tua 45 o shifftiau unigol, gan fynd ar batrôl ar y cyd â Heddlu De Cymru yn y saith sector heddlu sydd yn y ddinas a'r pedair mynwent.

Yn ogystal â sicrhau diogelwch cyfleusterau'r parciau fel mannau chwarae i blant, cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio a mannau gemau amlddefnydd, mae ein tîm parciau yno i gefnogi'r heddlu ac i addysgu defnyddwyr y parc am ymbellhau cymdeithasol cywir.

Yr heddlu sy'n gyfrifol am orfodi ymbellhau cymdeithasol ac maent wedi cymryd camau yn erbyn pobl sy'n defnyddio ein parciau yn amhriodol.

Os ydych chi'n gweld pobl yn peidio â chydymffurfio â'r rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, gellir adrodd am y digwyddiadau hyn wrth yr heddlu drwy ffonio 101.

Cofion gorau,

Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:

Y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden

 

Cyhoeddi cymorth ariannol i gartrefi gofal Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Cartrefi Nyrsio a Phreswyl (CCNP) yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod gan gartrefi gofal Caerdydd yr hyn sydd ei angen arnynt i wynebu'r heriau o ofalu am bobl gyda COVID-19.

Yn dilyn ymgynghoriad ar y cyd a gynhaliwyd i fanylu ar y costau i gartrefi gofal sydd ynghlwm â COVID-19, mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cyfran o grant o £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn sicrhau y cefnogir cartrefi gofal ledled y ddinas yn ystod y pandemig presennol a'u bod yn parhau i weithredu, yn ogystal â chynnig cymorth i wasanaethau oedolion hanfodol eraill.

Y Cyngor fydd yn gweinyddu'r cyllid a fydd yn sicrhau £80 yr wythnos yn ychwanegol i bob darparwr gofal fesul gwely a brynir gan y Cyngor, am gyfnod o 11 wythnos, tan ddiwedd mis Mai. Caiff hyn ei ôl-ddyddio o ddechrau'r argyfwng ym mis Mawrth a bydd yn ychwanegol i'r ffioedd lleoliad a gytunwyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Rydym yn gwybod bod gan gartrefi gofal wariant ychwanegol yn ymwneud â'r argyfwng iechyd presennol a chynhaliwyd ymgynghoriad i sicrhau y gallem ni sicrhau'r lefel gywir o ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Derllanwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23819.html

 

Ailfodelu mannau cyhoeddus y ddinas er diogelwch

Mae ymestyn palmentydd i heolydd, creu llwybrau beiciau dros dro, tynnu dodrefn stryd, cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth cyflymder ac ailgynllunio'r gofod cyhoeddus o amgylch canolfannau siopa cymunedol ymhlith y syniadau sy'n cael eu cynnig ar unwaith gan Gyngor Caerdydd yn rhan o'r ymateb parhaus i COVID-19.

Gan fod disgwyl y bydd y cyfyngiadau cloi yn cael eu llacio yr wythnos nesaf, mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i gyflwyno nifer o gynlluniau peilot sydd â'r nod o gadw'r cyhoedd yn ddiogel a sicrhau ei bod yn bosibl ymbellhau'n gymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Y disgwyl yw y bydd ymbellhau cymdeithasol yn rhan o'r ‘normal newydd' am beth amser, ac mae hyn yn creu her sylweddol i drigolion a'r awdurdod lleol.

"Chafodd palmentydd y ddinas mo'u cynllunio i ganiatáu pellter o ddau fetr rhwng pobl eraill, felly bydd yn rhaid addasu gofod cyhoeddus i sicrhau y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas ddechrau ail-agor yn raddol ar gyfer busnes."

Yr ardal siopa leol gyntaf a gaiff ei haddasu am resymau diogelwch yw Wellfield Road ym Mhlasnewydd. Mae cynlluniau wedi'u llunio i gael gwared ar barcio ceir ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd er mwyn sicrhau bod y palmant yn gallu cael ei ymestyn yn ddiogel i'r briffordd i'r cyhoedd ei defnyddio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Mae'n bwysig bod pawb yn deall na all y ddinas gael ei thrawsnewid dros nos i sicrhau bod canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn. Mae hon yn dasg sylweddol ac mae'n rhaid i ni fod yn hyderus bod unrhyw fesurau dros dro y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ddiogel i'r cyhoedd eu defnyddio.

"Wellfield Road yw'r cynllun peilot cyntaf ar gyfer ardal siopa leol rydyn ni'n bwriadu ei haddasu. Pan fydd y mesurau hyn ar waith a'r asesiadau angenrheidiol wedi cael eu cynnal, byddwn yn ceisio cyflwyno cynlluniau eraill mewn gwahanol rannau o'r ddinasac mae gwaith hefyd ar y gweill i greu 'canol dinas ddiogelach' hefyd. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yng nghanol y ddinas i sicrhau y bydd unrhyw ddull a gyflwynwn yn gweithio i fusnesau, trigolion a phobl sy'n teithio i'w gwaith."

Mae cynlluniau traffig ffyrdd eraill hefyd yn cael eu hystyried yn y ddinas gan gynnwys cyflwyno'r cynigion ar Aer Glân y cytunwyd arnynt eisoes yng nghanol y ddinas ar Stryd y Castell.

Dywedodd y Cynghorydd Wild: "Cyn argyfwng COVID-19, y cyhoeddodd y Cyngor ein gweledigaeth trafnidiaeth strategol 10 mlynedd ar gyfer y ddinas, ar ôl ymgynghori. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau Aer Glân ar gyfer Stryd y Castell.

"Byddwn nawr yn cyflwyno rhai o'r cynlluniau hyn a fydd yn helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod adfer. "Byddwn nawr yn cyflwyno rhai o'r cynlluniau hyn a fydd yn helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod adfer. Y cyntaf fydd y lôn draffig ger y Castell ar Stryd y Castell a fydd yn cael ei chau er mwyn ymestyn y palmant i'r heol i'w ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn rhedeg o gyffordd Heol y Gadeirlan/Heol y Bont-faen, dros bont Treganna, ar hyd Stryd y Castell, Heol y Dug a hyd at gyffordd Heol y Gogledd - Boulevard de Nantes.

"Byddwn hefyd yn cyflwyno'r cynllun gwella trafnidiaeth y cytunwyd arno yn Stryd Wood a'r Sgwâr Canolog a fydd yn cynnwysgwelliannau i ddiogelwch cerddwyr, cyfyngiadau ar draffig trwodd tra'n sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i breswylwyr a busnesau, yn ogystal â datblygu beicffordd newydd ar Stryd Wood."

Mae cynlluniau pellach hefyd yn cael eu creu i sicrhau y gall pobl ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yn ddiogel i fynd o amgylch y ddinas yn ystod y cyfnod adfer a rhoddir manylion pellach am y cynlluniau hyn yn yr wythnosau i ddod.

 

Welsh Proms Cymru wedi'i ganslo

Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda COVID-19, mae Welsh Proms Cymru yn Neuadd Dewi Sant (dydd Sadwrn 18 - dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2020) wedi'i ganslo. 

Mae Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru yn dal ar gau i'r cyhoedd yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol, sy'n golygu nad yw cynnal cyngherddau yn bosibl.

Y gobaith yw y bydd yr un rhaglen gyffrous yn cael ei llwyfannu'r flwyddyn nesaf, ond gan nad yw'r dyddiadau a'r cerddorfeydd wedi'u cadarnhau eto, mae'r neuadd rhoi ad-daliadau i bawb sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer Proms Cymru 2020. Byddwch yn cael eich ad-dalu'n awtomatig os ydych wedi talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.  Ffoniwch y Swyddfa docynnau ar 073 9179 1934 rhwng 9.30 am - 4pm Llun - Gwener os ydych wedi talu am y tocynnau gydag arian parod neu dalebau rhodd. 

Ar yr adeg brysur hon o ohiriadau a chansladau, dylech nodi y gall gymryd hyd at  10-14 diwrnod i'r Swyddfa Docynnau gwblhau ad-daliadau.  Hefyd, gofynnwn i chi beidio â thecstio'r rhif hwn na gadael negeseuon llais gan na allant ymateb ar hyn o bryd.