Back
Tair gwobr i bartneriaeth adeiladu tai y cyngor

7/5/20

Mae datblygiad preswyl newydd yn nwyrain Caerdydd, a adeiladwyd yn rhan o brif raglen adeiladu tai Cyngor Caerdydd, wedi cipio gwobr genedlaethol.

 

Mae'r datblygiad Cartrefi Caerdydd yn Rhos yr Arian yn Llaneirwg wedi ennill Gwobr Effaith Gymdeithasol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gyfer 2020 - trydedd gwobr genedlaethol Cartrefi Caerdydd yn y 12 mis diwethaf.

 

Mae Cartrefi Caerdydd yn fenter bartneriaeth rhwng y Cyngor a'r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd, y bydd o leiaf 600 ohonynt yn dai cyngor, ledled y ddinas. Mae'r fenter yn elfen bwysig o strategaeth datblygu tai ehangach y Cyngor sy'n ceisio darparu 2,000 o dai cyngor newydd, y caiff 1,000 ohonynt eu cwblhau erbyn 2022, er mwyn bodloni lefelau uchel o alw am gartrefi fforddiadwy o ansawdd dda.

 

Mae gwobrau blynyddol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol a thrawsnewidiol yr amgylchedd adeiledig ac arddangosodd ystod y projectau a'r mentrau ynn nghynllun eleni y gorau o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd gwobrau eleni yn ddigidol oherwydd yr argyfwng iechyd presennol a gellir gweld y rownd derfynol yma https://www.youtube.com/watch?v=pYOCIinhn3U

 

Bu Rhos yr Arian yn llwyddiannus yn y categori preswyl a bydd y cynllun bellach yn mynd yn ei flaen i gael ei ystyried gydag enillwyr rhanbarthol eraill yn y seremoni gwobrau cenedlaethol ym mis Medi.

 

Mae'r datblygiad ar Willowbrook Drive yn un o'r safleoedd mwyaf yng nghynllun Cartrefi Caerdydd a bydd yn darparu 187 o gartrefi newydd pan gaiff ei gwblhau'n llawn. Mae rhai camau'n gyflawn eisoes ac mae preswylwyr newydd cartrefi preifat a chartrefi'r Cyngor yn mwynhau eu heiddo newydd.

 

Yn ystod y gwobrau, canmolwyd y cynllun am ei dirlun dymunol ac am gynnwys cymunedau lleol ym mhob lefel o'r project. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Cartrefi Caerdydd yn darparu cartrefi newydd o ansawdd dda y mae pobl eisiau byw ynddynt, yn y farchnad werthu breifat a'n heiddo cyngor ein hunain - maen nhw'n gartrefi hyfryd.  

 

"Nod pwysig gan y cynllun o'r cychwyn cyntaf oedd sicrhau bod datblygiadau newydd yn gwella'r cymunedau y maent yn cael eu datblygu ynddynt fel bod buddion i breswylwyr presennol yn ogystal â'r rhai sy'n symud i gartrefi newydd. Mae'n braf bod y wobr ddiweddaraf hon yn cydnabod sut mae ein cartrefi newydd yn helpu i ddatblygu cymunedau cynaliadwy yn nwyrain y ddinas."

 

Dywedodd Paul Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential: "Rydym yn credu bod pawb yn haeddu lle gwych i fyw ynddo a dim ond trwy weithio gyda'r gymuned leol i ddarparu'r hyn sydd eisiau arni y gallwn gyflawni hyn.

 

"Datblygwyd y cynllun a'r cyfuniad o fflatiau a thai mewn ymgynghoriad â'r rhai a oedd eisoes yn byw yn yr ardal ac mae ein strategaeth werthu wedi canolbwyntio ar ddenu pobl leol i brynu'r cartrefi hyn. Bu hyn yn llwyddiannus ac mae'r mwyafrif llethol o brynwyr yn dod o'r ardal leol. Rydym yn falch o'r cynllun a'n bod yn parhau i ymwneud â'r gymuned y tu hwnt i frics a morter."

 

 

Y fuddugoliaeth gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yw'r acolâd diweddar i'r bartneriaeth Cartrefi Caerdydd; mae eisoes wedi ennill ‘Cynllun tai fforddiadwy gorau' yng ngwobrau cenedlaethol What House 2019 (DU) a'r wobr Integreiddio a Gweithio ar y cyd yng ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru 2019.