Back
Diweddariad COVID-19: 6 Mai

Dyma'r wybodaeth COVID-19 ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymdrin â: paratoadau a chyngor ar gyfer Diwrnod VE dydd Gwener; y fenter ddiweddaraf i hybu gyrru'n ddiogel, yn enwedig gan fod cerddwyr a beicwyr yn ymbellhau'n gymdeithasol; ac awgrymiadau ynghylch cynnal lles emosiynol drwy'r argyfwng.

 

Diwrnod VE yng Nghaerdydd

Mae digwyddiadau mawr oedd ar y gweill i ddathlu tri chwarter canrif ers diwrnod VE yng Nghaerdydd a ledled Cymru wedi cael eu canslo oherwydd pandemig parhaus Covid-19, ond mae trigolion yn cael eu hannog i nodi'r foment bwysig hon yn ein hanes - mewn ffyrdd sy'n ystyried y cyfyngiadau presennol.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dan De'Ath: "Mae tri chwarter canrif wedi mynd heibio ond mae arnom ddyled o ddiolchgarwch o hyd i bawb a fu'n rhan o'r Ail Ryfel Byd, boed hynny ar faes y gad neu ar y ffrynt cartref.

"Mae'r dathliad hwn yn amser pan ddylen ni i gyd aros a diolch am yr aberth a wnaed i sicrhau buddugoliaeth yn Ewrop."

Mae nifer o weithgareddau i goffáu'r dyddiad yn digwydd ledled y DU:

  • Am 11am, bydd y digwyddiadau coffáu yn dechrau gyda moment o gofio mewn dau funud o dawelwch.
  • Am 3pm, bydd araith 1945 Syr Winston Churchill i'r genedl yn cael ei darlledu ar y BBC fel rhan o raglenni arbennig sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y diwrnod.
  • Am 9pm, bydd y Brenhines Loegr yn darlledu neges i'r DU ar y BBC - ar yr union adeg y siaradodd ei thad, y Brenin Siôr VI, ar y radio yn 1945.
  • Yn dilyn hyn, bydd cyfle i bobl ymgynnull ar garreg eu drws a chanu 'We'll Meet Again' i ddathlu. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Bydd pobl ledled Caerdydd, yn ddigon teg, eisiau talu teyrnged i'r dynion a'r menywod a fu'n helpu i drechu ffasgiaeth yn Ewrop, boed hynny drwy ymuno â ni mewn coffadwriaeth ddistaw neu wrth ymgynnull ar garreg eu drws mewn cân. Mae arnom gymaint i'r aberth a wnaed yr holl flynyddoedd yn ôl ac mae'n bwysig y cânt eu cofio a'u dathlu.

"Heddiw rydym yn wynebu her wahanol iawn ar ffurf Covid-19. Mae'r rheolau ymbellhau cymdeithasol presennol ar waith i achub bywydau a byddwn yn annog pawb i dathlu'r dyddiad pwysig hwn o ddiogelwch eu cartrefi, ac i barhau i gadw at y rheolau yn ein parciau, ac ar ein strydoedd drwy gydol penwythnos gŵyl y banc eleni. Beth am i ni gymryd ysbrydoliaeth gan ddewrder a hunanaberth ein cenhedlaeth orau, gan wybod, pan fydd yr amser yn iawn, y byddwn ninnau hefyd yn cwrdd eto."

Mae amrywiaeth o syniadau ar gyfer nodi'r achlysur yn ddiogel, gan gynnwys gweithgareddau a gemau i blant, syniadau a hen ryseitiau ar gyfer cynnal te parti ar thema'r 1940au, ar gael yn:

https://ve-vjday75.gov.uk/

Mae Amgueddfa Caerdydd hefyd wedi rhoi'r arddangosfa arfaethedig, 'Dyddiau Buddugoliaeth' i chi ei gweld ar-lein. Mae'r arddangosfa yn cynnwys straeon personol a ffotograffau o Ddiwrnod VE, Diwrnod VJ a dathliadau diwrnod heddwch, yn ogystal â ffotograffau o wrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa.

Fel holl waith yr Amgueddfa, mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar straeon gan bobl Caerdydd ac mae'n cynnwys atgofion pobl o Gaerdydd a oedd yn blant ar y pryd, yn ogystal â ffotograffau o bartïon stryd a gynhaliwyd ar hyd a lled y ddinas. 

I weld yr arddangosfa, ewch i:

https://cardiffmuseum.com/cy/arddangosfeydd-ar-lein/

 

Lansio ymgyrch i leihau goryrru ar ffyrdd Caerdydd

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd newydd i gynghori gyrwyr i arafu a gyrru'n fwy gofalus wrth ddefnyddio rhwydwaith ffyrdd Caerdydd.

Gyda chyfyngiadau ar symud ers dros chwe wythnos, mae nifer y cerbydau ar ffyrdd Caerdydd wedi gostwng yn sylweddol, ond mae nifer y bobl sy'n rhedeg, yn cerdded ac yn beicio wrth ymarfer corff bob dydd wedi cynyddu.

Gyda'r angen i sicrhau bod ymbellhau gymdeithasol yn parhau i'r dyfodol, mae ‘na bryder bod pobl yn camu i'r ffordd wrth gerdded i gadw dwy fetr i ffwrdd rhag eraill.

Mae nifer y gwrthdrawiadau gyda beicwyr ar y ffyrdd hefyd yn bryder cynyddol, yn enwedig gan fod nifer y beicwyr newydd ar ffyrdd Caerdydd i weld yn cynyddu.

Fel rhan o'r ymgyrch, cafodd arwyddion VMS ar y prif lwybrau i mewn i'r ddinas eu diweddaru gydag amrywiaeth o negeseuon i gynghori gyrwyr: ‘Arafwch', ‘Parchwch Gyfyngiadau Cyflymdra' a ‘Gyrrwch yn Ddiogel'.

Bydd arwyddion traffig dros dro hefyd yn cael eu gosod mewn wardiau ledled y ddinas, yn gofyn i yrwyr gymryd mwy o ofal a gyrru'n ddiogel yn ystod yr amseroedd digynsail hyn. Bydd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn cefnogi'r mesurau ychwanegol hyn i atgyfnerthu'r neges i yrwyr gymryd gofal ychwanegol a gyrru'n gyfrifol.

 

Cyngor i helpu eich lles emosiynol

Derbyniwch y bydd cymysgedd o emosiynau- Bydd Dicter, gorbryder, ofn a straen meddwl yn mynd a dod, ac yn dychwelyd drachefn, a does dim byd o'i le gyda hynny. Mae'n rhan o fod yn ddynol. Bydd sut mae pobl yn ymdopi â'r emosiynau hyn yn eu helpu i feddwl yn gliriach ac ymateb i'r amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Deallwch fod lles emosiynol yn bwysig, ac yn wahanol, i bawb- Rydyn ni i gyd yn ymdopi â straen yn wahanol. Does dim ffordd anghywir o deimlo. Bydd derbyn ein teimladau ein gilydd a dysgu ganddyn nhw yn gwneud pawb yn gryfach.

Dysgwch- Darllenwch ffynonellau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth fel Sefydliad Iechyd y Byd, y GIG, Llywodraeth y DU, er mwyn dysgu ffeithiau a chanllawiau cywir yn hytrach na gadael i adroddiadau di-ri ar y cyfryngau godi ofn arnoch chi.

Crëwch gysylltiadau cymdeithasol, hyd yn oes os mai rhai rhithwir ydyn nhw- Peidiwch â gadael i straen fynd yn drech na chi. Galwch ar aelodau'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr am help. Yn ystod yr ymbellhau cymdeithasol, defnyddiwch systemau'r cyfryngau cymdeithasol fel Skype, FaceTime a Zoom i deimlo cyswllt.

Crëwch drefn ddyddiol- Mae'n gwbl normal teimlo bod eich bywyd wedi troi'n anrhefn yn ystod y pandemig hwn. Os ydych chi nawr yn gweithio o gartref, yn dysgu eich plant gartref neu'n eich gwarchod eich hun, mae'n bosibl y bydd o fudd rhoi rhywfaint o strwythur i bethau yn yr amgylchedd newydd hwn. Bydd pennu amser ar gyfer bwyta, glanhau, ymarfer corff, gweithio ac ati o fudd mawr drwy eich helpu i deimlo rhywfaint o normalrwydd. Yn y cyfnod anodd hwn, gall strwythur o'r fath fod o gymorth i bawb.

Peidiwch ag esgeuluso agweddau eraill ar eich iechyd- Bydd diet iach, ymarfer corff rheolaidd, myfyrio a chysgu o fudd i les emosiynol. Cymerwch ran mewn rhaglen les ddigidol sy'n canolbwyntio ar wella maeth, ansawdd cwsg, gwydnwch iechyd meddwl a gofalgarwch.

Gwnewch weithred dda- Ffoniwch rywun sydd efallai'n ei chael hi'n anodd a byddwch yn glust iddyn nhw. Efallai y gallech gyfnewid dyfyniadau ysbrydoledig dyddiol a chanolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Rhowch gydnabyddiaeth i gydweithiwr sydd nid yn unig yn mynd yr ail filltir, a diolchwch am ei gryfder a'i ddyfalbarhad.

Yn bwysicaf oll- Cofiwch gael hwyl. Chwarddwch. Chwaraewch gemau. Mae COVID-19 yn sicr ar flaen meddwl llawer o bobl, ond ni ddylai fod yr unig beth ar ein meddwl.