Back
Diweddariad COVID-19: 22 Ebrill

Dyma'r crynodeb diweddaraf o'r diwrnod gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: Y fyddin binc yn gorymdeithio yn Ysbyty Calon y Ddraig; cyfle arall i ddal profiad gwaith Rhod Gilbert; a negeseuon diolch yn ymddangos ar ffyrdd y ddinas.

 

Y Fyddin Binc yn gorymdeithio i mewn i Ysbyty Calon y Ddraig

Bydd ein Tîm Cyswllt Cyntaf yn yr Ysbyty, o'r enw y Fyddin Binc, yn darparu cefnogaeth hanfodol i gydweithwyr Iechyd a chleifion y ddinas yn Ysbyty Calon y Ddraig lle mae 300 o welyau yn barod.

Tîm o swyddogion cyswllt yw'r Fyddin Binc, sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Iechyd, a leolir yn yr Ysbyty Athrofaol ar hyn o bryd, ac sydd bellach yn Ysbyty Calon y Ddraig. Mae'r tîm yn un pwynt cyswllt sy'n gweithio gydag ystod eang o glinigwyr ar y wardiau, yn ogystal â chleifion a'u teuluoedd.

Eu hamcan yw canfod pa gymorth cymunedol y gellir ei ddarparu i hwyluso'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel. Eu dull gweithredu yw cynnal sgwrs "Beth Sy'n Bwysig", sy'n eu galluogi i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth pwrpasol sy'n diwallu anghenion lles y cleifion, gan ddarparu ymyriadau ataliol, hyrwyddo byw'n annibynnol, cefnogi rhyddhad diogel amserol a lleihau'r risg o aildderbyniadau.

Ffurfiwyd y Fyddin Binc ym mis Rhagfyr 2018 fel rhan o broject Ewch â Fi Adre a ariennir gan Trawsnewid, Llywodraeth Cymru. Gan ddangos eu hyblygrwydd, bydd y tîm yn darparu'r cymorth hwn yn ogystal â chynnal y gwasanaeth i gydweithwyr Iechyd a chleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

Profiad Rhod Gilbert o waith gofal ar y BBC - gwyliwch yr ailddarllediad

A wylioch chi bennod ddiweddaraf Work Experience gyda Rhod Gilbert? Nos Wener, cafodd y bennod ei darlledu'n gynnar fel teyrnged i weithwyr gofal sy'n gofalu am ein hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn. Os methoch chi hi, gallwch wylio'r ailddarllediad ar BBC One Wales am 10.30pm ddydd Iau yma, 23 Ebrill, neu ar BBC iPlayer.

Yn y bennod, mae Rhod yn treulio amser yn helpu i roi gofal personol yng Nghaerdydd a'r Fro, gan amlygu'r gwaith rhyfeddol y mae gofalwyr yn ei wneud bob dydd. Mae'r ymateb i'r digwyddiad emosiynol hwn wedi bod yn unfryd gadarnhaol, gyda llawer o bobl yn mynegi eu diolchgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel y mae Rhod ei hun yn dweud ar y sioe, "Does ‘na ddim un job yn dod i'm meddwl i sy'n bwysicach na hon."

Un o uchafbwyntiau'r sioe yw cerdd Emma SL Pinnell am fod yn ofalwr - bydd Emma yn ymddangos ar BBC Wales Today ddydd Iau 23 Ebrill, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio.

 

Contractwyr priffyrdd y Cyngor yn paentio negeseuon yn diolch i'r GIG ar ffyrdd yn arwain i Ysbyty'r Waun

Caiff marciau ffordd dwyieithog gyda'r neges glir - ‘Diolch i'r GIG' - eu paentio ar dair ffordd sy'n arwain i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan.

Gosodwyd y marciau ffordd y talwyd amdanynt gan gontractwyr y Cyngor, Roman Road Lining ac Amberon Traffic Management, am fore heddiw.

Mae'r marciau 12 metr gan 4 metr sydd wedi'u paentio'n felyn yn deyrnged arall i staff rheng flaen y GIG, wrth iddynt barhau â'u gwaith hanfodol yn mynd i'r afael â'r feirws COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23698.html