Back
COVID-19: Newidiadau i gymorth plant gweithwyr allweddol o ddydd Llun 30, Mawrth.


27/3/2020

Mae darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol Caerdydd sy'n gwneud gwaith hanfodol yn ystod argyfwng COVID-19 yn newid i system yn seiliedig ar hybiau o ddydd Llyn 30 Mawrth.

Ileihau'r perygl o ledu COVID-19 drwy'r gymuned ysgolion bydd Cyngor Caerdydd yn cadw 12 ysgol ar agor fel hybiau gofal plant, a'r lleill yn cau. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ei brotocolau glanhau, ymarfer diogel ac ymbellhau cymdeithasol o fewn yr ysgolion fydd yn dal ar agor.

Er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad COVID-19 yn cael ei arafu neu ei atal, mae gweithwyr allweddol a theuluoedd dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael gwybod y dylid ond defnyddio'r ddarpariaeth ysgolion pan nad oes unrhyw fath arall o gymorth plant ar gael. Os yw'n bosibl i blant gael gofal diogel gartref, yn y cartref y dylent fod.

Mae'r ddarpariaeth yn dal i roi blaenoriaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys hosteli i'r digartref ac allgymorth) a'r gwasanaethau brys yn y lle cyntaf.

Bydd nifer fechan o blant agored i niwed hefyd yn derbyn darpariaeth gofal plant. 

Fodd bynnag, bydd y trefniadau hyb newydd nawr yn ceisio cynnwys categorïau ehangach o weithwyr allweddol pan yn bosibl. 

Bydd gofyn i weithwyr allweddol yng Nghategorïau Gweithwyr Allweddol eraill Llywodraeth Cymru, gadarnhau gyda'u cyflogwyr bod eu rôl benodol yn ‘hanfodol' i barhad busnes yn narpariaeth eu gwasanaethau allweddol yn ystod y pandemig COVID-19, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y ddarpariaeth yn seiliedig ar yr hyb.

Dim ond gyda chadarnhad ysgrifenedig o hyn y byddan nhw'n cael eu hystyried ar gyfer y ddarpariaeth hyb, ac ni allwn warantu lle hyd yn oed gyda'r cadarnhad hwn yn anffodus.

Rhaid i unrhyw geisiadau newydd am ddarpariaeth gofal plant, pan nad oes gan rieni a gofalwyr yn y categorïau gweithwyr allweddol unrhyw ddewis diogel arall, gael eu cofrestru yma:www.caerdydd.gov.uk/gofalplantgweithwyrallweddol

Ar ôl cofrestru, bydd yr ysgol hyb benodedig yn cysylltu â'r rhieni i drefnu derbyn y plant, os bydd yn bosibl, ar y cyfle cyntaf posibl, o ddydd Mawrth 31 Mawrth 2020.   

Bydd rhieni a gofalwyr sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth gofal plant yn yr ysgol yr wythnos hon, yn cael cyfle i drosglwyddo eu plant i ddarpariaeth hyb ddynodedig ddydd Llun, 30 Mawrth.

Mae'r model hybiau yn diwallu anghenion disgyblion 3-14 oed sydd wedi'u cofrestru yn system ysgolion Caerdydd, ac yn cyflwyno darpariaeth gynradd ac uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Bydd yr hybiau ar agor rhwng 8am a 5pm bum niwrnod yr wythnos gan gynnwys yn ystod y gwyliau (ac eithrio Gŵyl Banc y Pasg).  Darperir brecwast, cinio a byrbryd prynhawn i'r plant.

Bydd gan bob hyb o leiaf un aelod staff o bob un o'r ysgolion bwydo er mwyn i'r plant adnabod wyneb cyfarwydd.  Bydd yr hybiau yn cyflwyno llu o weithgareddau oed-berthnasol wedi eu seilio ar sgiliau.

 

Plant sy'n agored i niwed
Mae ysgolion yn cadw mewn cysylltiad â'u dysgwyr sy'n agored i niwed, ac yn gweithio gydag asiantaethau eraill i roi cymorth a chyngor ychwanegol ar waith. Mae'r Cyngor ac asiantaethau eraill hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i nodi teuluoedd sydd angen cymorth pellach a seibiant ar gyfer blaenoriaeth yn eu hyb perthnasol.

Fodd bynnag, atgoffir rhieni a gofalwyr y dylai plant aros gartref lle bynnag y bo modd.

Bydd nifer fach o leoedd gofal seibiant ar gael yn ystod oriau ysgol arferol. Dylai rhieni siarad â'u hysgol os ydynt yn meddwl y gallai fod angen y cymorth hwn arnyntneu ffonio'r Porth i Deuluoedd ar  03000 133 133.

 

Darpariaeth cyn ysgol
Mae nifer gyfyngedig o leoliadau preifat, annibynnol a gwirfoddol yn dal i weithredu sydd â lleoedd ar gyfer plant cyn oed ysgol, 0-3 oed.                 Dylai gweithwyr allweddol o'r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu frys nad oes ganddynt unrhyw ddewis o ran gofal plant gysylltu â'r Porth i Deuluoedd ar 03000 133 133 neuCyswlltFAS@caerdydd.gov.uk.

 

Nodiadau Atgoffa Iechyd a Diogelwch Pwysig
Atgoffir rhieni neu ofalwyr sy'n defnyddio unrhyw ran o'r ddarpariaeth a restrir uchod i gadw pellter cymdeithasol wrth ollwng a chasglu eu plant. Gofynnwn i chi gadw pellter o ddau fetr oddi wrth staff ac aelodau eraill o'r cyhoedd.

Bydd disgwyl i'r plant olchi eu dwylo wrth gyrraedd yr adeilad a chaiff amser golchi dwylo ei amserlenni drwy gydol y dydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd symud i fodel sy'n seiliedig ar hybiau yn lleihau nifer yr ysgolion sydd ar agor er mwyn lleihau lledaeniad y feirws, wrth sicrhau y gallwn gynnig darpariaeth briodol i'r gweithwyr allweddol hynny sydd ei angen.

 

"Wrth i'r sefyllfa ddatblygu, efallai y bydd angen i ni ychwanegu at nifer yr hybiau, neu eu lleihau, a chaiff hyn ei adolygu'n barhaus gyda'r ffocws ar leihau lledaeniad COVID-19 a chadw cymunedau Caerdydd yn ddiogel."