Back
Dyfodol Disglair ar y gorwel

3/3/20

 

Heddiw, lansiwyd cynllun newydd sy'n ceisio paratoi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar gyfer y byd gwaith.

 

Mae Dyfodol Disglair yn rhan o Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith llwyddiannus y Cyngor ac mae'n canolbwyntio ar gymorth cyn-gyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu'r rhai sydd mewn perygl o fod yn NEET.

 

Mae Dyfodol Disglair yn mynd law yn llaw â chynllun presennol y Cyngor, sef Dechrau Disglair, sy'n darparu lleoliadau gwaith hanfodol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal mewn gwahanol adrannau ar draws y Cyngor. Bydd y cynllun nawr yn adeiladu ar y llwyfan hwn i ehangu'r ystod o leoliadau sydd ar gael i bobl ifanc i gynnig mwy o ddewis a gallu darparu ar gyfer ceisiadau penodol am fathau o rôl.

 

Cafodd y cynllun newydd ei lansio yn Neuadd y Ddinas heddiw gan yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hinchey: "Fel rhiant corfforaethol, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella canlyniadau i bobl ifanc sydd wedi profi gofal ar ryw adeg yn eu bywydau fel y gallant symud tuag at fod yn oedolion yn llwyddiannus.

 

 

"Gall dechrau swydd newydd neu ddechrau ar gyfle hyfforddi newydd fod yn brofiad brawychus i unrhyw un, ond gall y dasg fod yn fwy heriol fyth i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

 

"Mae Dyfodol Disglair yn ceisio hwyluso'r broses o drosglwyddo a sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl ifanc hyn drwy ddarparu cyngor a chyfarwyddyd cyflogaeth arbenigol a helpu i chwalu unrhyw rwystrau sy'n atal unigolyn rhag dewis ei lwybr.

 

"Bydd Dyfodol Disglair yn cynnig cymorth wedi'i deilwra, gan sicrhau bod y bobl ifanc yn gwbl barod ar gyfer byd gwaith a bod sylfaen gadarn yn cael ei gosod er mwyn i bobl ifanc lwyddo."

 

Fel rhan o'r cynllun, bydd gweithwyr cymorth a mentoriaid yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc ac yn gallu eu cyfeirio at wasanaethau eraill y cyngor neu wasanaethau partner i fynd i'r afael ag unrhyw faterion nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith neu hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

 

Siaradodd pobl ifanc sydd â phrofiad o'r system gofal, sydd eisoes yn elwa ar y cynllun, yn y lansiad heddiw am y cymorth y maent yn ei gael gyda'u dewis lwybr.

 

 

Dywedodd Hannah: "Mae Dyfodol Disglair wedi newid fy mywyd gan ei fod wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi. Dwi'n gallu mynd allan ac annog fy hun."

 

Meddai Olivia: "Mae Dyfodol Disglair wedi fy helpu i gael cyfle gyda'r Cyngor fel y gallaf gael profiad a gwneud cais am swyddi yn y dyfodol.

 

"Cyn Dyfodol Disglair, do'n i ddim yn credu yn fy hun. Dwi eisiau gwneud yn well gyda fy mywyd a chyflawni rhywbeth gyda fy mywyd. Mae Dyfodol Disglair wir wedi fy helpu i wneud hynny."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Mewn i Waith, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae gan ein Gwasanaethau i Mewn i Waith hanes cryf o helpu pobl i gael gwaith a rhoi'r sgiliau cywir iddynt i sicrhau eu bod yn barod am waith.  Mae Dyfodol Disglair yn gynllun rhagorol sy'n helpu pobl ifanc i ddod yn fwy hyderus ac yn rhoi'r cyfleoedd iddynt gyrraedd eu potensial a dilyn yr yrfa maent yn ei dewis."