Back
Criwiau’r Cyngor yn gweithio rownd y rîl yn ystod Storm Jorge

29/2/20 

 

Bu timau Cyngor Caerdydd yn gweithio drwy'r nos yn helpu i sicrhau bod trigolion ac eiddo yn cael eu diogelu rhag y posibilrwydd o lifogydd.

 

Wrth i Storm Jorge daro'r ddinas gyda glaw trwm am nifer o oriau, gweithiodd criwiau rownd y rîl yn gosod amddiffynfeydd rhag llifogydd a chau ffyrdd, monitro cwlferi a gylïau, clirio coed a oedd wedi cwympo a dosbarthu bagiau tywod i ardaloedd lle ystyrid roedd risg uchel.

 

Cafodd ein timau priffyrdd nifer fawr o alwadau ac ymatebont i tua 100 o ddigwyddiadau.

 

Caewyd y groesfan reilffordd yn Sain Ffagan neithiwr mewn ymateb i lefelau'r afon yn codi ac mae'n parhau i fod ar gau ar hyn o bryd.

 

Cafodd ardaloedd preswyl o amgylch Pont Trelái eu monitro dros nos a chyrhaeddodd Afon Elái ei lefel uchaf ers 2012, sef 3.70m.

 

Dioddefodd un eiddo ar Wroughton lifoigydd mewnol a chaewyd y ffordd oherwydd y dŵr gormodol.

 

Mae adroddiadau cynnar yn y bore yn awgrymu bod y perygl o lifogydd yn yr ardal hon bellach wedi cilio ond bydd y sefyllfa yn parhau i gael ei monitro'n ofalus.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Unwaith eto, cafodd Caerdydd ei chwalu dros nos a gweithiodd ein criwiau'n ddiflino i wneud popeth o fewn eu gallu i atal y posibilrwydd o lifogydd. Lle bu llifogydd byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi'r preswylwyr yr effeithir arnynt.

 

"Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid dros y penwythnos. Er bod y tywydd wedi gwella y bore 'ma, mae rhybudd gwynt melyn yn aros ar gyfer y rhanbarth a byddwn yn annog y cyhoedd i aros yn ddiogel a theithio dim ond os yw hynny'n hollol angenrheidiol. "

 

I roi gwybod am lifogydd yng Nghaerdydd ffoniwch 02920 872088 a dewiswch opsiwn 5. Gallwch ddod o hyd i erthyglau a gwybodaeth am beth i'w wneud yn achos llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn cynghori preswylwyr sy'n credu y gallai eu heiddo fod mewn perygl o lifogydd i ystyried prynu bagiau tywod cyn unrhyw ddigwyddiad. Er y gall bagiau tywod rwystro dŵr rhag mynd i mewn i eiddo, hyn a hyn sydd gan y Cyngor ac ni allwn warantu y gallwn gyrraedd cartrefi mewn pryd mewn argyfwng.